Ein Bwyd Crug Hywel – gwefan sy’n darganfod ac yn dathlu’r busnesau bwyd lleol rhagorol sy’n cynhyrchu, gwerthu ac yn gweini cynnyrch lleol yn ac o gwmpas y dref.

Cyfweliadau gyda phobl sy’n ennill bywoliaeth o gynhyrchu, gwerthu a gweini bwyd mewn ffordd gynaliadwy a lleol, ar raddfa fach. Maen nhw’n rhan o ateb arloesol i’r argyfwng byd eang mewn perthynas â’r argyfwng cynhyrchu bwyd.

Diben y wefan yw adrodd hanesion bwyd lleol a’ch ysbrydoli i fwynhau mwy ohono ac efallai dod yn rhan o’r profiad eich hun.  Os felly, trwy’r wefan hon, ceir dolenni a gwybodaeth ar sut i fentro i’r dŵr.

Mae’n rhan o fenter i adfywio ein heconomi bwyd lleol.

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.