A joint letter to the Government about food & drink in Wales

Croesawn y trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd ynghylch strategaeth bwyd a diod yng Nghymru yn y dyfodol. Byddem yn cynnig fod yr angen i feithrin economi bwyd lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth uchel.

[Os hoffech gyd-arwyddo’r llythyr hwn, croeso ichi wneud hynny yma. Byddwn yn ychwanegu eich enw ar y diwedd.]

Byddai ffocws yn strategaeth bwyd a diod Cymru ar feithrin economi bwyd lleol a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn gweddu’n effeithiol i strategaethau eraill yng Nghymru: yr economi sylfaenol, ’llesiant cenedlaethau’r dyfodol a chyhoeddi bodolaeth argyfwng hinsawdd.

Mae poblogaeth Cymru’n gwario cyfanswm o ryw £6 biliwn yn flynyddol ar fwyd a diodydd di-alcohol, £4 biliwn ar fwydydd, $2 filiwn ar fwyta allan. [Ffigurau 2018 y SYC.] Caiff mwyafrif helaeth y $4 biliwn ei wario mewn archfarchnadoedd, ac mae’r arian yn mynd i gadwyni cyflenwi byd eang sy’n creu rhwng chwarter a thraean o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r argyfwng hinsawdd yn hawlio y dylid mynd i’r afael â hyn cyn gynted â phosib.

Agwedd economaidd sylfaenol

Mae Cymru’n rhoi blaenoriaeth ar yr economi sylfaenol, ac yn llygad ei lle o ran hynny – sef yr economi sy’n llywio bywyd bob dydd, ac yn ein cadw’n ddiogel ac yn gysylltiedig â’n gilydd. Prynu bwyd yw elfen fwyaf yr economi sylfaenol o bell ffordd. “Mae cyflenwi bwyd yn greiddiol i ansawdd bywyd a diogelwch y boblogaeth” yn ôl Manifesto for the Foundational Economy 2013. Nod egwyddorion yr economi sylfaenol yw tyfu busnesau “a leolir” yn yr economi lleol – cyflenwad lleol, swyddi lleol, balchder yn yr ardal.  Nid cwsmeriaid yn unig yw cwsmeriaid busnesau lleol, ond dinasyddion gweithgar yn hytrach sy’n gwario mewn ffyrdd sy’n cefnogi budd cyffredinol ac ansawdd bywyd lleol.

Yn unol â hynny, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)  2015 yn galw am “gymunedau deniadol, hyfyw, diogel gyda chysylltiadau da”.

Argymhellwn y dylai meithrin economi bwyd lleol fod wrth galon strategaeth bwyd a diod Cymru:

  • Blaenoriaeth uchel ar gyfer cadwyni cyflenwi ardaloedd lleol, gan gynnwys prosesu a manwerthu.
  • Cefnogaeth sylweddol ar gyfer cynlluniau a rhaglenni cymunedol i ehangu’n sylweddol yr arian sy’n cael ei wario ar fwyd lleol gan ddefnyddwyr a chyrff cyhoeddus.
  • Cefnogaeth gadarn ar gyfer busnesau bach sy’n gwasanaethu’r economi lleol ac sy’n cynnig swyddi, ac i’r sawl sy’n ystyried cychwyn yn y sector hwn, fel gweithwyr neu entrepreneuriaid.

Ymateb i newid yn yr hinsawdd

Eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd.

Mae adroddiad yr IPCC eleni ar Climate Change and Land, yn nodi fod y system bwyd byd eang yn gyfrifol am rhwng 21% – 37% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n deillio o weithgaredd dynol. Un o’r atebion a gynigir yn yr adroddiad yw gwella camau gweithredu ar lefel leol a chymunedol.

Wrth asesu ei ôl-troed carbon, mae’n rhaid i Gymru gynnwys yr effaith ar yr amgylchedd, nid yn unig o ran sector bwyd y wlad, ond hefyd yr hyn sy’n cael ei greu ar lefel fyd eang trwy gynhyrchu a chludo bwyd ar raddfa ddiwydiannol, a’r bwyd sy’n cael ei fwyta gan drigolion Cymru.

Argymhellwn flaenoriaethu newid yn yr hinsawdd fel argyfwng yn y strategaeth bwyd a diod:

  • Rhaglen radical i leihau milltiroedd bwyd
  • Cefnogaeth sylweddol ar gyfer cynhyrchwyr bach, yn benodol cynhyrchwyr organig ac amaeth-ecolegol a garddwriaeth gynaliadwy.

Mae’r argymhellion hyn yn cyd-fynd ag adroddiad 2016, Food Policy as Public Policy, gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru.

Llofnod:

Duncan Fisher, Our Food
Simon Wright, Wright’s Emporium
Andy Middleton, The TYF Group
Sue Holbrook, Our Food
Peter Segger, Blaencamel Farm
Lucie Scott, Liliwen Herbs
Lesley Marshall
Judith Greenwood
Eva Richards
Patrice Louise
Mark Manson, Y Polyn
Gwilym James
Kelly O’Brien, Incredible Edible Carmarthenshire
Stephen Terry, The Hardwicke Restaurant
Andrea Sanders, Smallholder & food activist
Jane Cook, food blogger & freelance restaurant PR

Os hoffech lofnodi’r llythyr hwn, gellir gwneud hynny yma a byddwn yn ychwanegu eich enw at y llythyr hwn.

 

Gweler hefyd:

Gwahoddiad i drafodaeth genedlaethol ar ail-greu’r economi bwyd lleol yng Nghymru – 13 Tachwedd

Ymgyrch Cymru i hyrwyddo’r economi bwyd lleol a chynaliadwy

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.