Chwilota am fwyd ym Mannau Brycheiniog yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwilotwyr bwyd

Cyfnewid gyrfa gyda bandiau cerdd enwog am fwyd gwyllt

Mae Adele Nozedar wedi cyfnewid gyrfa gyda label cerdd enwog o Lundain I ddysgu pobl sut i chwilota am fwyd ym Mannau Brycheiniog, ac ni fyddai’n newid ei bywyd newydd yng nghefn gwlad am unrhyw beth dan haul.

Ar gyfryngau cymdeithasol, ei henw yw @hedgerowguru, a hi yw un o awduron mwyaf blaenllaw llyfrau chwilota trwy’r DU; gwerthir ei llyfrau yn siop Book-ish yng Nghrug Hywel. Mae Adele yn rhedeg cyrsiau chwilota ar gyfer plant, a gweithdai gwneud gin botanegol a phersawr botanegol ar gyfer oedolion yn yr ardal leol. Hefyd mae’n ysgrifennu erthyglau ac yn rhoi arddangosiadau a darlithoedd o’i chartref yng Nghwm Wysg.

Fel yr eglura Adele: “Roeddwn yn bartner mewn label cerdd ‘indie’ o’r enw Rhythm King, des i Gymru i weld band, a phenderfynu symud yma. I gychwyn es i nôl i Lundain yn ystod yr wythnos, ac roeddwn yn ceisio adnewyddu tŷ ar y penwythnos yma yng Nghymru. Gwerthwyd y label i BMG ac wedyn roeddwn yn Rheolwr Cyffredinol Arista UK – roedd y byd corfforaethol yn llewyrchus dros ben, ond nid oedd yn gweddu i’m personoliaeth. Pan ddaeth y contract yn Llundain i ben, adeiladais stiwdio recordio yng Nghymru, llwyddais i ennill cytundeb i gyhoeddi llyfrau a dyna newid fy mywyd yn llwyr; erbyn hyn, mae chwilota’n rhan bwysig iawn o’m bywyd”.

Pam chwilota felly, a beth yn union yw hynny? “Mae chwilota’n golygu gallu adnabod planhigion gwyllt bwytadwy, a dangos i bobl sut i’w defnyddio” meddai Adele. “Mae pobl yn ei wneud ers o leiaf 22,000 mlynedd, ond rhoddwyd y gorau i chwilota yn ystod y genhedlaeth a hanner diweddaraf yn bennaf. Erbyn hyn mae mwy a mwy o ddiddordeb mewn chwilota a chael hyd i ffynonellau bwyd lleol oherwydd mae pobl yn awyddus i gysylltu eto â’r lle maen nhw’n byw a’u bwyd. Os gall pobl ddysgu am ychydig o gynhwysion gwyllt cyffredin, rhwydd cael hyd iddynt, ac a ddefnyddiwyd fel bwyd ers miloedd o flynyddoedd, rydym yn gallu ail-gysylltu â’n hanes yn rhwydd iawn. Trwy sefyll mewn coetir hynafol llawn garlleg gwyllt, mae’n bur debyg eich bod yn sefyll yn yr un lle ac yn gwneud yr un peth, sef chwilota, â rhywun arall canrifoedd yn ôl. I mi, mae meddwl hynny’n achosi i groen gŵydd godi.”

Ond a yw’n bosib gwneud bywoliaeth o hyn? “Gallwch,” meddai: “Mae’n rhaid bod yn ddyfeisgar a llawn dychymyg, sy’n fy siwtio i. ’Dwi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel – o chwilota mewn Plastai ar draws y DU i weithio ar brosiect llythrennedd ym Merthyr – mae’r amrywiaeth yn anhygoel.”

Hefyd mae Adele yn ymgynghori ar ran sefydliadau sydd am gael hyd i ffynonellau cynhwysion lleol a chynaliadwy. Ond nid yw’n chwilota er mwyn gwerthu cynhwysion i fwytai (chwilota cyflenwi) yn debyg i rai pobl eraill.

“’Dwi wrth fy modd yn dysgu a dangos i bobl beth sydd dan eu traed,” meddai Adele: “’dwi’n hoffi dysgu plant yn arbennig, oherwydd os maen nhw’n dysgu parchu’r byd pan maen nhw’n ifanc, gyda lwc bydd yr egwyddor yn parhau.”

Mae Adele yn codi rhwng £25 a £35 y pen ar gyfer ei chyrsiau, gyda gostyngiad ar gyfer grwpiau. Mae’n cyfaddef i’w hincwm ostwng yn sylweddol wrth newid gyrfa: “Ond mae’n ffordd o fyw hyfryd; ’dwi’n treulio rhan fwyaf f’amser yn yr awyr agored, ac mae’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn dda iawn. Mae gwneud hyn yn teimlo fel gwobr yn ei hun, ac mae’r ffaith fy mod yn cael incwm ohono’n eisin ar y gacen.”

Ceir manylion llyfrau a chyrsiau Adele ar ei gwefan.

Stori a llun gan Tim Jones, As You See It Media

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.