Gwartheg eidion De Ddyfnaint Anne Rees

"Buaswn i byth yn gallu gweithio mewn swyddfa,” meddai ffermwr o Grug Hywel

Ers bron 30 mlynedd mae Anne Rees, sy’n ferch i ffermwr, wedi cyflenwi cig eidion siop Cashell.

Mae buches Anne Rees o wartheg eidion o dras De Ddyfnaint yn pori caeau glas y Mynydd Du uwchben Llanbedr.  Bob wythnos, bydd un “anifail” yn cael ei ladd yn Nhalgarth cyn hongian am 28 diwrnod, yn ôl traddodiad, cyn cyrraedd y cownter cig yn siop cigydd Cashell ar Stryd Fawr Crug Hywel.

“Rydym wedi cyflenwi cig eidion i siop Cashell ers canol y 90au,” meddai Anne, “Nhw sy’n cymryd tua hanner y gwartheg sy’n cael eu magu gennym. Rydym yn sicrhau ein bod yn cynhyrchu’r gwartheg cywir iddyn nhw. Mae cigyddion traddodiadol fel siop Cashells yn hongian y cig yn iawn, ac maen nhw’n hoffi ychydig mwy o fraster, sy’n ei wneud yn well i’w goginio.  Mae gwartheg De Ddyfnaint yn enwog am frithder yn y cig, ac mae’r braster yn rhedeg trwy’r cyhyr, sy’n golygu fod y cig yn frau ac yn flasus.”

“Dim ond ein cig eidion byddaf yn ei fwyta”,  meddai Anne, “achos ’dwi’n gwybod pa fywyd mae wedi cael a sut y cafodd ei fagu.”

Mae gan Ann 80 o fuchod magu, sy’n byw tu allan trwy gydol y flwyddyn bron, ar wahân i’r tywydd gwaethaf, ac maent yn pori meillion a chnydau a dyfir ar y fferm dros y gaeaf.  Mae’r gwartheg yn dod mewn, ac yn cael eu bwydo ar ŷd am bythefnos cyn mynd i’r lladd-dy yn Nhalgarth.

“Mae’n well i’r anifeiliaid fynd i Dalgarth,” yn ôl Anne, “maen nhw’n cerdded oddi ar y trelar, ac mae popeth yn digwydd yn sydyn. Does dim rhaid iddyn nhw aros yn y farchnad cyn cael eu cludo’n bell.”

Ond, oes unrhyw fanteision iddi hi fel ffermwr o ran gwerthu’n lleol? “Rydym yn cael ychydig mwy am y cig trwy gael gwared ar y dyn yn y canol,” meddai Anne. Hefyd mae’n magu oen Cymreig ar y bryniau uwchben Crug Hywel, ond mae’r cig oen yn cael ei allforio oherwydd “ar y cyfandir maen nhw’n hoffi darnau cig oen llai eu maint.”

Felly, byddai Ann yn argymell ffermio fel ffordd o fyw i eraill? “Ie ffordd o fyw yw ffermio. Ac ie, mae’n fywyd da; ond mae’n fywyd caled. Ac nid arian yw diwedd y gân. Yn hytrach y pleser o fynd i weld y da byw a meddwl ‘maen nhw’n edrych yn dda’. Buaswn i ddim yn hoffi swydd mewn swyddfa. Dim o gwbl.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Gwartheg eidion De Ddyfnaint Anne Rees

Cynhyrchydd
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad Llanbedr, Crug Hywel
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.