Black Mountains Smokery

Twf uchel i fusnes bwyd Crug Hywel

Doedden nhw ddim yn gwybod dim am fyw adeg dechrau’r cwmni, bellach maen nhw’n cyflenwi bwydydd wedi’u mygu ar draws y DU.

Ym 1995, penderfynodd Jo a Jonathan Carthew fuddsoddi eu holl gynilion mewn busnes mygu cig yng Nghrug Hywel. Yn ôl Jo, roedden nhw’n gwybod dim am fwyd: “Ond roeddem yn dwli ar fwyd.” Trosiant y mis cyntaf oedd £143. Erbyn hyn mae’r Black Mountains Smokery yn cyflogi 6 o staff parhaol, a hyd at 10 o weithwyr achlysurol yn ystod cyfnodau prysur.   Maen nhw’n dosbarthu dros 750 o flychau rhoddion a hamperi llawn nwyddau wedi’u mygu a chynnyrch o Gymru ar y dyddiau mwyaf prysur.

“Ar y dechrau, roedd yn anodd,” meddai Jo, “Ni wnaeth y gwaith o osod popeth yn yr uned (ar Ystâd Ddiwydiannol Elvicta) ein hunain, gyda’n plentyn dwy oed yn rhoi’r rhybedion inni. Ond roeddem yn ffyddiog y byddem yn cynhyrchu rhywbeth da, cyson ac onest y byddai pobl am ei brynu.”

I ddechrau eog o’r Alban, cyw iâr, hwyaden, corbenfras a brithyll oedd yn dod allan o’r Myg-dy. Yn fuan wedyn, symudwyd i fygu Caws Blaenafon a Selsig y Ddraig Goch gan siop Cashell ac yn ddiweddarach, mygu bwydydd lleol eraill megis Cracyrs Cradoc, Siocled unigryw o Aberhonddu, piclau lleol a chigoedd Fferm Trealy. Maen nhw hefyd yn comisiynu mwg ar gyfer cwmni lleol sy’n cynhyrchu caws a Chig Carw Cymreig.

“Rydym wedi ehangu ac wedi ychwanegu gwerth gyda nwyddau o Gymru, ond mae’r cynnyrch craidd wedi aros yr un peth. Fel busnes bwyd, mae’n rhaid cynhyrchu rhywbeth y gallwch ymfalchïo ynddo, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Dyna gyfrinach ein llwyddiant, a’r hyn sy’n ein cadw i fynd ers blynyddoedd,” yn ôl Jo.

Fodd bynnag, mae’r busnes yn hollol wahanol i’r un a ddychmygwyd gan Jonathan a Jo rhyw ugain mlynedd yn ôl: “Ein syniad ni oedd y byddem yn gwerthu’r eog drwy’r post ac i westai, tafarndai a siopau lleol. Wnaethon ni ddim sylweddoli bod pobl yn prynu nid yn unig er mwyn ei fwyta eu hunain, ond i’w roi i bobl eraill. Ar ôl inni gael ein traed fewn yn y farchnad rhoddion, newidiodd pethau’n sydyn iawn.” Bellach mae’r BlackMountains Smokery yn gwerthu 40% o’i gynnyrch yn y tair wythnos cyn y Nadolig!

Wrth gwrs mae bwydydd y cwmni dal ar gael yn eu Siop drwy’r flwyddyn ar ystâd Elvicta, yn siop Cashell, Siop Fferm y Bannau ac yn siop Grenfell. Hefyd gallwch eu blasu mewn bwyd a weinir yng ngwesty’r Arth, Y Ddraig, Gwesty Gliffaes, Latte Da, Caffi Book-ish a thrwy gwmni ‘Prickly Pear Catering’.

Felly, maen nhw’n gwerthu’n lleol, ond a fyddai’n bosib defnyddio mwy o gynhwysion lleol? “Pe gallwn gael gafael ar eog o Afon Wysg, neu oddi ar arfordir Cymru, byddem yn gwneud hynny, oherwydd byddai’n lleihau’r costau dosbarthu a’n hôl troed amgylcheddol.   Ond mae angen cyflenwyr sy’n gallu cyflenwi cynhwysion cyson eu maint yn gyson, fel arall, nid ydynt yn mygu’n iawn. Ac mae angen gallu cynyddu’r nifer sydd eu hangen cyn y Nadolig. Rydym yn chwilio am gynnyrch newydd o hyd ar gyfer ein hamperi, oherwydd mae hyrwyddo blas ar Gymru’n hynod bwysig inni.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Black Mountains Smokery

Cynhyrchydd, Siopau
  • Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad Leslie House, Elvicta Estate, Crug Hywel NP8 1DF
Gwefan www.smoked-foods.co.uk
Ffôn 01873 811566
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.