Caffi Book-ish

Perchennog Caffi yng Nghrug Hywel yn cefnogi prynu bwydydd lleol

Ni ddylai bwydydd lleol gostio’n ddrud, yn ôl ymgyrchydd a pherchennog Caffi Book-ish yng Nghrug Hywel, Emma Corfield Walters.

Ni ddylai bwydydd lleol gostio’n ddrud yn ôl ymgyrchydd a pherchennog Caffi Book-ish yng Nghrug Hywel, Emma Corfield Walters.

“Byddai’r syniad o godi pris pryd o fwyd oherwydd ei fod yn cynnwys cynhwysion lleol neu’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn atal rhai pobl rhag ei brynu. Ond yn anad dim, byddai’n poeni’r bobl sy’n byw yma, sy’n gallu gweld y cynhwysion yn tyfu yn yr ardal, a theimlo y dylen nhw allu ei fwynhau cymaint â phobl sy’n ymweld â’r dref,” meddai Emma.

Mae Caffi Book-ish ar Stryd Fawr Crug Hywel yn cynnig amrediad o brydau bwyd cartref ysgafn a choffi i bobl sy’n dod i bori yn y Siop lyfrau gerllaw. Mae llawer o’r cynhwysion yn lleol, neu’n cael eu paratoi’n lleol: eog Black Mountains Smokery Crug Hywel, ham o siop cigydd Cashell, bara o bopty Askew sydd o fewn hanner can llath, siocled poeth gan Pip o Bontypwl, Grey Trees Ales o Aberdâr, mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

“Dwi’n dewis y cynhwysion hyn, oherwydd maen nhw mor neis,” meddai Emma, “ac oherwydd fy mod am gefnogi cynhyrchwyr lleol cymaint ag y maen nhw’n cefnogi fy musnes i drwy groesi’r trothwy. Byddai’n haws cael popeth gan gyfanwerthwr, ond dwi am gael ychydig o ysbryd yn y caffi. Fy nod yw cael pobl yn dod i’r caffi a mwynhau’r bwyd sydd ar gael, ac yn awyddus i gerdded allan trwy’r drws a mynd I’ brynu’r un cig, neu eog neu gacennau o’r siopau lawr y ffordd.”

Felly, pa ffactorau sy’n dylanwadu ar cynnyrch y mae Emma’n eu dewis ac yn eu cyflenwi? “Mae ansawdd a phris yn ffactorau. Rydym yn anelu at sector penodol o’r farchnad o dan Gwesty’r Arth a’r Ddraig, ac nid ydym am gynnwys rhywbeth ar y fwydlen fydd yn golygu codi’n prisiau i lefel arall. Rydym yn mwynhau’r ffaith ein bod yn defnyddio cynhwysion lleol, ond dylai’r pris fod yr un peth â lleoedd eraill, oherwydd fel arall, ni fydd pobl yn elwa o siopa’n lleol. Mae rhai pobl o’r farn fod Crug Hywel yn lle drud, ond trwy ychwanegu costau teithio a pharcio ac ati i fynd rhywle arall, maen nhw’n cael bargen dda, a’r nod yw parhau yn yr un ffordd.”

Bydd Emma’n arbrofi gyda chyflenwyr lleol. Bydd yn cyfnewid coffi a chacen am gynnyrch o’r ardd ac mae’n defnyddio ffrwythau lleol ffres i wneud compot pan fydd digon ar gael. “Rydym wastad yn barod i roi cynnig ar rywbeth newydd,” meddai.

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Caffi Book-ish

Bwytai
Cyfeiriad 18 High Street, Crug Hywel
Gwefan www.book-ish.co.uk/cafe
Ffôn 01873 811256
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.