Seidr a gynhyrchir yn y ffordd draddodiadol
Mae Andrew Jenkins yn defnyddio dulliau traddodiadol i gynhyrchu seidr mewn ardal, lle mae hen draddodiad o wneud seidr; meddai: “mae pobl yn dueddol o feddwl taw Sir Fynwy yw’r unig sir yng Nghymru lle mae seidr yn cael ei gynhyrchu, ond nid yw hynny’n wir. Cynhyrchwyd seidr ym Mrycheiniog ers canrifoedd, a buaswn yn hoffi gweld y grefft yn cael ei hatgyfodi.”
Mae Andrew yn gwneud rhyw 7,000 litr o seidr bob blwyddyn ym mhentref Bwlch, chwe milltir o Grug Hywel. Mae’n casglu’r holl afalau â llaw o berllannau penigamp ger Talgarth a Bwlch lle ni ddefnyddir unrhyw blaladdwyr.
“Mae afalau megis Dabinett yn gwneud seidr da iawn,” meddai Andrew. “Rydym yn eu casglu â llaw, felly does dim niwed iddynt. Ar ôl eu gwasgu, mae’r sudd afal yn mynd mewn i ddysglau eplesu. Nid ydym yn ychwanegu unrhyw ddŵr, burum na sylffitau; y burum naturiol yn y ffrwythau sy’n achosi i’r seidr eplesu.”
“Ar ôl eplesu’n araf deg dros y gaeaf, mae’r seidr cyntaf yn barod yn y gwanwyn. Nid yw’n cael ei hidlo, a bydd yn clirio ei hun yn naturiol, neu’n aros yn seidr garw. Natur sydd wrth y llyw.”
Wedyn bydd Andrew’n cymysgu sudd yr afalau gwahanol: “Hon yw agwedd hudol y broses o wneud seidr, sy’n creu rhywbeth gwahanol ac arbennig. Nid seidr diflas masgynyrchedig yw hwn, sy’n troi allan yr un peth blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae seidr crefft yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar y cynhaeaf a faint o fath penodol o afal sydd gennych.”
Enillodd seidrau Andrew wobrau yn y gystadleuaeth Seidr Ryngwladol bwysig a gynhaliwyd yn Henffordd. Mae’n gwerthu ei gynnyrch yn uniongyrchol i’r cyhoedd yn Neuadd Farchnad Crug Hywel, ac mae Seidr Bannau Brycheiniog hefyd ar gael yn nhafarn y New Inn, Bwlch.
Dyma restr o’r mathau gwahanol sydd ar gael:
- Seidr sych, Beast of the Beacons,
- Seidr cymedrol melys, Black Mountains Beauty,
- Seidr melys, Sugar Loaf,
- Derw, seidr o safon sy’n heneiddio mewn casgen dderw
- Mathau neu gyfuniadau unigol achlysurol.
- Finegr seidr
Erthygl gan Tim Jones, As You See It Media
Brecon Beacons Cider
Cynhyrchydd- Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad | Bwlch |
---|---|
Gwefan | www.facebook.com/Brecon-Beacons-Cider-107952960564013 |
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma |