Cashells Butchers & Delicatessen

Yn defnyddio cig lleol ers degawdau

Mae siop Cashells yn gwerthu cig oen ac eidion sy’n cael ei fagu, ei ladd a’i dorri o fewn 12 milltir i Grug Hywel.

Mae siop Cigyddion Teulu Cashells wedi bod yn defnyddio cig oen ac eidion yr un ffermydd lleol ers rhyw 35 mlynedd, nid yn unig oherwydd ffyddlondeb, ond oherwydd eu bod yn credu taw dyma’r cig o’r ansawdd gorau i’w cwsmeriaid.

“Rydym yn gwybod yn union sut cafodd yr anifeiliaid eu magu gan y ffermydd rydym yn eu defnyddio, y safonau lles, ac ansawdd y cig,” meddai Arran Cashell sy’n rhedeg cwmni MT Cashell gyda’i frawd Durwyn a 12 o staff, daw’r mwyafrif ohonynt o dair cenhedlaeth teulu Cashell. “Mae llawer o gig rhad ar gael, ond ni fyddwn yn ceisio cystadlu yn erbyn hynny,” meddai.

Wrth siarad ag Arran, mae Mick Wright o Dretŵr (3 milltir i ffwrdd) yn ffonio i ofyn faint o ŵyn fydd eu hangen ar y siop yr wythnos honno? Bydd yn mynd â 10 oen i’r lladd-dy yn Nhalgarth (12 milltir) i gael eu lladd, cyn i Cashells eu casglu. Cyfanswm y milltiroedd bwyd o’r fferm i’r siop yw 20 milltir.

“Mae’n well o safbwynt amgylcheddol, ac yn achosi llai o straen i’r yn,” meddai Arran sy’n golygu y bydd gwell blas ar y cig: “Os bydd oen yn teithio’n bell neu os bydd yn aros am oriau cyn cael eu lladd, ni fydd y cig mor frau. Ar gyfartaledd, byddwn yn prynu 10 oen bob wythnos gan Mike, ac os oes angen mwy, dim ond mater o godi’r ffôn yw.”

Yn Llanbedr, rhyw ddwy filltir o’r siop y caiff   eidion Cashells ei fagu. Mae teulu Rees wedi bod yn magu gwartheg De Ddyfnaint wedi’u croesi ag Aberdeen Angus ar eu fferm ers tri degawd. Mae cerdded porfeydd mynyddig yn gwasgaru’r braster trwy’r cyhyrau sy’n arwain ar gig “cyson o ran brithder a blas bendigedig” yn ôl Arran.

O Fferm Forest Coalpit y daw’r porc, sydd wedi ennill ‘Gwobrau Great Taste’. Maen nhw’n cadw moch Cymreig Du, sy’n gymysgedd o fridiau prin ac yn tyfu’n arafach na’r bridiau gwyn mwy cyffredin. Maen nhw’n byw tu allan trwy gydol eu bywyd mewn coetir ac ar borfa lle maen nhw’n gallu bwyta glaswellt, gwreiddiau a chnau. O ganlyniad, meddai Arran, mae mwy o fraster a gwell blas ar y cig.

“Byddwch yn talu ychydig mwy am ein cig, ond pan gychwynnodd y busnes, dywedodd Dad wrthym am ‘gadw’r ansawdd, a bydd popeth yn iawn’, a dyna a wnawn hyd heddiw.”

Ond ydy Arran erioed wedi ystyried defnyddio ffynhonnell cig rhatach? “Na,” meddai, “mae pobl wedi dod atom a dweud y gellir cyflenwi cig inni 20 ceiniog yn rhatach y kilo, ond rydym yn aros yn ffyddlon, ac yn dweud ‘Na’. Mae’n cyflenwyr yn gofalu amdanom ni, a byddwn ni’n gofalu amdanyn nhw.”

Mae siop M.T Cashell yn masnachu ar Stryd Fawr Crug Hywel ers 45 mlynedd. Yn ogystal â chig, maen nhw hefyd yn gwerthu nwyddau megis mêl lleol, jamiau, piclau, caws a chig oer.

“Byddem yn hoffi gwerthu mwy o gynnyrch lleol,” meddai Arran “ond nid yw hynny wastad yn bosib.” Daw cyw iâr Cashells o Sir Henffordd a Swydd Efrog, oherwydd does neb yn lleol sy’n cynhyrchu cyw iâr maes. “Rydym yn hapus iawn gydag ansawdd ein cyw iâr, ond byddai’n braf gallu cefnogi ffermwr lleol sy’n gallu ein cyflenwi. Dyna mae’r cwmni wedi ei wneud ers degawdau.”

Daw mwyafrif eu ffrwythau a llysiau trwy gyfanwerthwr o’r Fenni, Phillip Jones, fydd yn cael hyd i gynnyrch a dyfir yn lleol pan fydd ar gael, er bod y mwyafrif yn dod o Loegr a thramor.   Hefyd mae Cashells yn hapus i brynu gan dyfwyr lleol yn ystod tymor y cynhaeaf.

Yn ôl Arran: “Byddwn yn prynu ac yn gwerthu’n lleol bob tro os gallwn. Yng Nghrug Hywel mae pawb yn ffyddlon iawn i’w gilydd, ac yn credu mewn gofalu am ein gilydd.”

Cashells is still up and running, despite Covid-19. Continue to support your local food businesses!

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Cashells Butchers & Delicatessen

Siopau
Cyfeiriad 53 High St, Crug Hywel NP8 1BH
Gwefan cashells.co.uk
Ffôn 01873 810405
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.