“Gofalwch fod golwg bwyd cystal â’i flas”
Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crug Hywel bob mis, ac un o’r pethau cyntaf i ddenu sylw yw arddangosfa o gynnyrch lleol.
“Rydym yn awyddus i hyrwyddo’r gymuned leol a’r cynnyrch rhagorol a gynhyrchir yn ardal Crug Hywel” meddai Jan Morgan, Rheolwr y Ganolfan. “Mae llu o siopau bwyd gwych yn y dref yn barod, ac nid ydym eisiau cystadlu yn eu herbyn nhw, felly rydym yn canolbwyntio ar bethau y byddai ymwelwyr am eu prynu fel rhoddion efallai. Mae pobl sy’n ymweld â’r dref yn chwilio am brofiad go iawn o’r dref ac eisiau mynd â blas ar Grug Hywel dref adref gyda nhw.”
“Dim ond hyn a hyn o le sydd gennym i arddangos, ac mae’r cyflwyniad yn bwysig iawn inni,” meddai Jan, “mae angen i gynhyrchwyr lleol manteisio i’r eithaf ar y pecynnu a logos er mwyn denu pobl at eu cynnyrch ar y silff. Rydym yn chwilio am gyflenwyr newydd o hyd, ac yn barod i drafod pecynnu gyda nhw, a’r hyn sy’n gweithio yn ein barn ni i hyrwyddo ardal Bannau Brycheiniog/Mynydd Du er mwyn bod yn ddeniadol i farchnadoedd amrywiol Crug Hywel.”
Ymhlith cynhyrchwyr lleol sy’n arddangos gyda CRiC mae Black Mountain Smokery lawr y ffordd, Melin Talgarth, Black Mountain Preserves, mêl lleol a Malws Melys o Lanfrynach. Maen nhw’n gwerthu Sudd Afal Welsh Farmhouse o Grug Hywel, a daw bara ffres o Dalgarth unwaith y mis.
Mae cynhyrchwyr lleol yn bwysig i CRiC am resymau eraill hefyd: “Gan fod gennym gyn lleied o le, mae cael cyflenwyr lleol yn golygu y gallwn drefnu cyflenwad arall yn weddol gyflym os byddwn yn rhedeg allan. Trwy gefnogi cynhyrchwyr lleol felly, rydym yn cefnogi pobl leol a swyddi lleol hefyd,” meddai Jan.
Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media
Canolfan Ymwelwyr CRiC
SiopauCyfeiriad | 1 Beaufort Street, Crug Hywel NP8 1BN |
---|---|
Gwefan | www.visitcrickhowell.co.uk |
Ffôn | 01873 811970 |
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o |