Gall cynhyrchwyr bwyd lleol ddenu sylw i Fannau Brycheiniog
Mae Susan Fiander Woodhouse yn gyfarwydd iawn gyda bwydydd lleol, ac mae’n gwybod mwy fyth am eu gwerthu. Mae’r busnes teuluol, Cwmni Caws Cheddar Blaenafon wedi ennill llu o wobrau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn ôl Susan, seilir y llwyddiant ar “ddweud hanes” ei chaws.
Caws Cheddar aeddfed sy’n adlewyrchu’r gorffennol yw’r caws enwocaf a gynhyrchir, Pwll Mawr; mae’n aeddfedu ym mherfeddion y Pwll Mawr. Defnyddir cwyr glas ar gaws ‘Blaenafon’ i gynrychioli lliw Crochenwaith Blaenafon, a gynhyrchwyd yn y 19eg ganrif. Cwyr gwyrdd sydd ar gaws Capel Newydd (sy’n cynrychioli tyfiant) ac mae blas gwin gwyn a blodau ysgawen arno. Ac wedyn mae fersiwn â blas mwg derw traddodiadol a gynhyrchir gan Black Mountains Smokery yng Nghrug Hywel i’w fwynhau gyda Cradoc Crackers o Aberhonddu.
Mae’r cwyr ar y caws yn golygu eu bod yn gallu aros ar y silff am hyd at bum mis, a defnyddir cwyr lliwiau llachar i ddenu sylw. Ac mae amrywiaeth eang o fwydydd o Gymru’n cael eu defnyddio i’w blasu: Chwisgi Celtic Spirit, Cwrw Brains, Seidr Taffy Apple a mwy. Mae’r holl gynhwysion yn dod o Gymru. Gellir prynu Caws Blaenafon o siop Cashells yng Nghrug Hywel, y Ddraig, Welsh Venison Centre, a’r siop yng Ngwinllan Sugarloaf.
Yn ôl Susan, mae’r berthynas gyda Chrug Hywel yn bwysig iawn: “Rydym yn ceisio denu ymwelwyr o’r tu allan yn ogystal â rhai lleol i ymweld â’r lleoedd hardd yma. Mae gennym berthynas agos iawn gyda Chrug Hywel a’r Ddraig. Byddwn yn mynd ag ymwelwyr i’r Ddraig i fwyta, ac wedyn maen nhw’n gallu mynd i siop Cashell i weld ffynhonnell y cig. Maen nhw’n hoffi gwybod am y ffarmwr ym Mannau Brycheiniog a’r fuches ar lethrau’r mynydd. Mae’n anhygoel gweld yr angerdd sydd gan bob un ohonom i hyrwyddo’r cynnyrch rhyfeddol yma ar lefel leol.”
Ac yn ôl Susan mae twristiaeth bwyd yn newid: “Nid gwyliau bwced a rhaw mae pobl yn eu cymryd bellach; yn hytrach mae pobl am gael profiad a chyfle i fod yn rhan o’r pentref am ychydig. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau bysiau sy’n dod o Ewrop. Y syniad yw rhoi cinio selsig tri chwrs ‘Blas ar Gymru’ i ymwelwyr â Chrug Hywel, a ffagots a’r holl lysiau lleol. Felly mae’r bobl sy’n ymweld â Chymru’n mwynhau diwrnod hynod ddiddorol ac yn lledu’r stori eto, yn eu gwledydd eu hunain, sy’n golygu fod y cwmnïau bysiau’n dod nôl dro ar ôl tro.”
Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media
Blaenafon Cheddar Company
CynhyrchyddCyfeiriad | 80 Broad St, Blaenavon, Pont-y-pŵl NP4 9NF |
---|---|
Gwefan | www.chunkofcheese.co.uk |
Ffôn | 01495 793123 |
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma |