Forest Coalpit Farm Pigs

“Cynnyrch mor wahanol i’r hyn sydd ar gael yn yr archfarchnad”

Porc hynod flasus gan Fferm Forest Coalpit

Maen nhw’n byw yn yr awyr agored trwy’r amser, maen nhw’n chwilota am chwarter eu bwyd eu hunain, maen nhw’n cael ymddwyn yn naturiol, ac maen nhw’n cael eu maguo fewn 5 milltir i Grug Hywel. Moch Fferm Forest Coalpit yw’r rhain.

Mae’r moch yn cael eu magu ar fferm 20 erw dan ofal Kyle a Lauren Holford; symudodd y ddau yma yn 2014 o Lundain. Cymysgedd o fridiau prin sydd ganddynt a’r enw a ddefnyddir yw ‘Moch Du Cymreig’ ac yn ôl Kyle: “Y nod oedd cynhyrchu cig o ansawdd anhygoel mewn ffordd mor naturiol â phosib, oedd yn arwain at gynnyrch sy’n destun mesurau lles uchel eu safon ac sy’n blasu’n wych.”

Mae 22 hwch ar y fferm, ac ar gyfartaledd mae 10 moch bach ym mhob torllwyth. “Mae’r moch yn byw bywyd hollol naturiol. Maen nhw’n chwilota am eu bwyd eu hunain er ein bod yn eu porthi gyda bwyd naturiol hefyd. Maen nhw’n cael bridio’n naturiol heb y cytiau mocha a ddefnyddir ar ffermydd masnachol. Yn fy marn i mae pawb ar eu hennill – mae’n well iddyn nhw, ac o ganlyniad mae’r cig yn wych. Gan eu bod yn symud o gwmpas ac yn pesgi ar ddail ac ati, mae mwy o leithder yn y cig. Mae un o’r bridiau ar y fferm yn hynod dda ar gyfer brithder yn y cyhyrau, sy’n golygu fod braster yn rhedeg trwy’r cig, ac mae’r blas cymaint yn well, gyda mwy o leithder yn y cig. Hefyd mae’n fwy coch ei liw, a dyma un o nodweddion unigryw ein cig ni. Mae’n gynnyrch mor wahanol. Mae golwyth porc o’r archfarchnad yn eithaf golau ei liw heb fawr o fraster a bydd yn sychu’n gyflym, ond mae golwyth mochyn brîd prin go iawn yn debycach i stecen, ond tua hanner y pris,” meddai Kyle.

Ond mae eu cadw nhw tu allan trwy’r amser yn arwain at gymhareb is o ran troi porthiant yn gig (sef y raddfa y caiff porthiant yr anifail ei droi’n gig), sy’n golygu eu bod yn ddrutach eu magu. “y ffordd rataf i’w magu heb unrhyw amheuaeth fyddai eu cadw mewn ysgubor a’u pesgi,” meddai Kyle. Ac adeg eu lladd yn rhyw bump neu chwe mis oed, mae’r moch ar gyfartaledd mis neu ddau’n hŷn o’u cymharu â moch sy’n cael eu magu ar fferm fasnachol.

A nododd Kyle iddyn nhw wrthod dulliau mwy masnachol yn y gorffennol: “Roedden ni’n dda iawn am dyfu moch yn gyflym.   Wnaethon ni gyrraedd y pwynt lle roeddem yn eu tyfu’r un mor gyflym â ffermwyr masnachol, oedd yn achos cyffro inni, oherwydd byddem yn gallu magu mwy a mwy; ond pan ddaeth y cig yn ôl, nid oedd cystal; roedd yn oleuach ei liw ac nid oedd y blas cystal ychwaith, oherwydd diffyg amser i redeg o gwmpas. Felly, dyma ni’n penderfynu cymryd cam yn ôl a dweud ‘araf deg, ’dan ni’n symud yn rhy gyflym’, sydd yn mynd yn groes i fodel ffermio masnachol yn llwyr heddiw.”

Forest Coalpit Farm is still up and running, despite COVID-19. Gate sales are currently by appointment only. Continue to support your local food businesses! 

Erthygl gan Tim Jones, As You See It Media

 

Forest Coalpit Farm Pigs

Cynhyrchydd
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad Forest Coalpit Farm, Y Fenni
Gwefan www.forestcoalpitfarm.co.uk
Ffôn 01873 890136
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.