Grenfells & Sons Grocers

Gair o gyngor gan fanwerthwr o Grug Hywel i entrepreneuriaid bwyd newydd

Yn ôl Ray Grenfell, mae’n rhaid i fusnesau bwyd newydd wneud y mân bethau’n iawn.

Mae Ray Grenfell yn gwerthu bwyd yng Nghrug Hywel ers dros 50 mlynedd, ac mae ganddo air o gyngor i bobl sy’n ystyried cychwyn busnes.

“Pan ddechreuais i fel groser, bwyd rhydd oedd hynny’n bennaf. Byddem yn gwerthu bwyd allan o jariau, wedi’i lapio mewn papur, ac yn torri caws a menyn o flociau mawr 60 pwys i’r maint oedd ei eisiau ar y cwsmer. Roedd yn symlach bryd hynny,” meddai Ray. “Erbyn heddiw mae cymaint mwy o reolau ac mae’n rhaid i’r lapio cydymffurfio â rheoliadau labelu bwyd hefyd. Dyna’r rheswm y symudodd y diwydiant i gynnyrch a lapiwyd yn barod, oherwydd mae’n haws eu trin, mae’r bywyd silff yn hirach, ac mae’n haws rheoli stoc.”

Nid yw’n golygu na fydd Ray’n cadw bwydydd lleol; mae’n gwerthu Sudd Afal Welsh Farmhouse a Mêl Llangatwg yn ogystal â bwydydd a fygwyd gan Black Mountains Smokery a bara Popty Askew. “Mae hyn oll yn gynnyrch lleol gwych, a does dim byd tebyg iddo o ran blas. Ac mae ymwelwyr yn hoffi mynd â rhywbeth adre gyda nhw o’r dref, megis sudd afal neu fêl,” meddai.

Ond mae cael hyd i fwydydd lleol yn her i fanwerthwyr fel Ray. Oherwydd bod y Safonau Masnach a rheolyddion bwyd yn craffu ar bopeth, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau ansawdd a chysondeb y nwyddau a werthir ganddynt. “Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i gynhyrchwyr sy’n gwerthu inni’n gorfod sicrhau fod eu bwydydd yn cael eu lapio’n iawn gyda’r holl wybodaeth sydd ei angen o ran maeth ac ati. Ac mae angen iddyn nhw allu cyflenwi ansawdd a niferoedd cyson.”

Mae ffrwythau a llysiau ffres gerddi a rhandiroedd lleol yn rhan o’r arddangosfa liwgar ar y silffoedd tu allan i siop Ray, ochr yn ochr â’r nwyddau a brynir gan Philip Jones, cyflenwr lleol o’r Goetre, yn enwedig os bydd yn cael digon o rybudd ymlaen llaw gan y tyfwyr. “Buaswn yn hoffi cadw mwy o gynnyrch lleol, ond mae angen i bobl ein helpu trwy gynllunio ymlaen llaw. Mae troi fyny gyda’r cynnyrch a disgwyl imi ei gymryd yn dda i ddim. Os dwi’n gwybod ymlaen llaw y bydd cnwd yn barod ymhen wythnos neu fwy, gallaf wneud lle iddo – mae pobl yn hoffi prynu’n lleol,” yn ôl Ray.

Grenfells is still up and running, despite COVID-19. Continue to support your local food businesses!

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Grenfells & Sons Grocers

Siopau
Cyfeiriad 21 Stryd Fawr, Crug Hywel NP8 1BD
Gwefan www.facebook.com/grenfellandsons
Ffôn 01873 810252
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.