Latte-da Coffee & Kitchen

Yn ôl pencampwyr TripAdvisor Crug Hywel, bwyd lleol yw allwedd llwyddiant

Mae Latte-da Coffee & Kitchen o’r farn fod cynnyrch lleol cyson ac uchel ei ansawdd yn arwain at gwsmeriaid bodlon.

Mae Latte-da yng Nghrug Hywel yn gyson ymhlith caffis gorau Bannau Brycheiniog yn ôl TripAdvisor, ac maen nhw’n dweud bod cynhwysion lleol yn hanfodol i’r llwyddiant.

Mae Greg a Lyn Bevan-Jones yn rhedeg Coffi a Chegin Latte-da ar Stryd Beaufort Crug Hywel ers pedair blynedd, ac maen nhw wedi datblygu busnes prysur gyda phobl leol ac ymwelwyr yn bwyta yno’n rheolaidd.

” Ein nod yw cael pobl i ddod atom i fwynhau bwyd o ansawdd da’n gyson; dyna yw allwedd ein henw a’n poblogrwydd,” meddai Greg.  “Gallwn sicrhau cysondeb trwy ddefnyddio cynhwysion lleol a bwyd a gynhyrchir yn lleol. O siop Cashells rownd y gornel y daw ein bacwn, a’r wyau o fferm Richard Lewis ochr draw’r dyffryn.  Eog wedi’i fygu yw’r eog gan Black Mountains Smokery 400 llath lawr y ffordd. Mae ansawdd yn bwysicach na phris.  Byddem yn gallu prynu’r cynhwysion llawer rhatach, ond ni fyddem yn sicr o gael ansawdd da’n gyson. Dyna pam mae pobl yn dod atom o hyd.  Mater o fagu a chynnal enw da yw.”

Mae Latte-da yn gweini dewis o brydau brecinio, y rhan fwyaf gyda bacwn ac wyau lleol.  Ond maen nhw hefyd yn defnyddio bwydydd wedi’u mewnforio megis afocado.  “Mae’n cwsmeriaid yn hoff iawn o afocado” meddai Lyn. “Mae pobl yn fwy ymwybodol eu bod yn bwyta diet iachus y dyddiau hyn.”

Mae Greg a Lyn yn prynu eu ffrwythau a llysiau gan gwmni Total Produce, o’u Depo yn Henffordd: maen nhw’n defnyddio cynnyrch lleol o Henffordd a swydd Gaerwrangon a’r Gororau yn ogystal ag o bedwar ban byd.

Mae Latte-da hefyd yn hapus i ddefnyddio bara surdoes y pobydd arbenigol Alex Gooch o’r Gelli Gandryll, hufen ia Hufenfa Llanfaes yn Aberhonddu, a choffi arbenigol Extract Roasters o Fryste.

“Os nad yw’n bosib cael cynnyrch safonol a dyfir yn lleol yng Nghrug Hywel, byddwn yn ceisio cael hyd iddo yn y rhanbarth,” meddai Lyn.  Ac yn ôl Greg: “Mater o gael hyd i gyflenwyr lleol yw, felly nid peth hawdd bob tro. Daeth cynrychiolydd i’n gweld o fusnes teuluol yng ngogledd Cymru. Roedd ganddynt amrediad gwych o gynnyrch ffres; ond ni roddwyd archeb iddynt – roeddem am brynu gan gyflenwyr agosaf at adre.  Os oes pobl eraill ger Crug Hywel sy’n gallu cyflenwi bwyd o ansawdd uchel yn gyson, byddai’n braf clywed ganddynt.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Latte-da Coffee & Kitchen

Bwytai
Cyfeiriad Beaufort Street, Crug Hywel
Gwefan www.latte-da-tearoom.co.uk/home.html
Ffôn 07890751755
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.