Left Bank Brewery

Ailddeffro traddodiad ‘cwrw casgen’ ym Mannau Brycheiniog

Bragdy Llangors yn chwilio am gynhwysion i greu cwrw lleol go iawn.

Mae Simon Poffley yn awyddus i ailddeffro traddodiad o fragu cwrw casgen ym Mannau Brycheiniog.  Agorodd Left Bank Brewery yng Ngwanwyn 2019 ac mae wedi bod yn bragu ers hynny, gan ddefnyddio dŵr twll turio o Fannau Brycheiniog.  Mae’n awyddus i ddefnyddio burum naturiol lleol a brag, barlys a hopys lleol os yn bosib i eplesu’r cwrw.

Erbyn hyn Left Bank Brewery yw’r unig Fragdy Crefft sy’n bodoli ym Mannau Brycheiniog, mewn fferm ar lannau gogleddol Llyn Syfaddan.  Yn ôl Simon, lleoliad y fferm oedd yr atyniad: “Roeddwn am ailddeffro traddodiad ‘Cwrw Casgen’ traddodiadol fyddai’n cael ei fragu o grawn, hopys a burum y ffermwr ei hun, yn ogystal â dŵr lleol, cynhwysyn mwyaf y cwrw.  Mae’r dŵr gennyf, o dwll turio ar y fferm, felly dŵr y Bannau yw, ac rwyf am ddechrau defnyddio burum gwyllt o’r ardal hefyd.  Mae’n broses debyg i wneud bara surdoes neu seidr; mae’r ddau’n dibynnu ar furum naturiol sy’n tyfu o’n cwmpas.”

Ond beth am y grawn, yr hopys a’r barlys? “Buaswn yn hoffi clywed gan unrhyw ffermwyr sy’n tyfu cnydau’n lleol.  Mae cwrw blawd ceirch ar gael sy’n flasus iawn, os oes unrhyw un yn tyfu ŷd,” meddai Simon.

Mae Left Bank Brewery eisoes yn bragu Session IPA, Saison Ffrengig, Blonde a Rye Export yn ogystal â Porter Stout.  Ac mae Simon yn ystyried cynhyrchu lager hefyd.

Ar hyn o bryd mae cynnyrch Left Bank Ales ar werth yn siop Bwlch  ac o wefan Left Bank, mewn poteli neu gasgen, er bod Simon yn gobeithio gallu gwerthu ei gwrw yn nhafarndai a siopau Crug Hywel hefyd.

Mae Simon hefyd yn rhedeg cyrsiau eplesu yng Ngardd Tŷ Mawr, sydd â wal o’i chwmpas, ochr draw i’r llyn.

Ond oes unrhyw fantais i yfed cwrw lleol, megis bwyta mêl lleol? “Mae fitaminau o bob math mewn cwrw craidd, heb ei basteureiddio sydd o fantais i bobl ers canrifoedd,” meddai Simon, “yn ogystal â’r blas, wrth gwrs.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Left Bank Brewery

Cynhyrchydd
  • Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad Llangorse
Gwefan www.leftbankbrewery.co.uk
Ffôn 07815 849523
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.