‘Llangattock Honey’

Cynhyrchu bwyd 100% naturiol sy’n helpu’r amgylchedd

Gwenynwr o Langatwg yn gwerthu mêl mewn siopau lleol ac yn hawlio “allyriadau carbon minimol.”

Mêl 100% naturiol. Mae’r ôl-troed carbon bron yn ddim, ac mae’r ffordd o’i gynhyrchu’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae jariau ar werth yn siop Grenfell yng Nghrug Hywel, a gellir ail-lenwi jariau yn siop Natural Weigh, sy’n gwerthu’r mêl yn rhydd. Ei enw yw: Llangattock Honey.

Fel yr hed y gwenyn, mae’r cychod gwenyn o fewn hanner milltir i safle ‘Llangattock Apiaries’ ger yr Afon Wysg. Anthony Smith sy’n gofalu amdanynt, ac mae’n gwerthu jariau o’r mêl yn Neuadd Farchnad Crug Hywel hefyd. “Bwyd lleol go iawn,” meddai, “Mae’n 100% naturiol ac yn cael ei gynhyrchu lawr y ffordd. Mae’r ôl-troed carbon yn ddim bron – mae hyd yn oed y labeli’n cael eu cynhyrchu’n lleol. Mae mêl lleol yn dda i bobl leol sy’n dioddef o glwy’r gwair ac mae’r gwenyn yn hanfodol o ran atgynhyrchu planhigion oherwydd maen nhw’n peillio’r planhigion o’n cwmpas. Mae nifer y gwenyn yn gostwng, felly rydym yn helpu cadw’r gwenyn i fynd hefyd trwy gynhyrchu mêl.”

Mae gan ‘Llangattock Apiaries’ 70 o gychod gwenyn lleol, ac mae mwy yn ardal Bwlch a Sir Fynwy. Erbyn 2020, eu gobaith yw cael cyfanswm o 300 o gychod, a chynhyrchu cymaint â 10 tunnell o fêl, gan werthu rhyw 2-3 tunnell mewn marchnadoedd lleol. Mae’r mêl ar werth mewn jariau 8, 12 a 16owns ac maen nhw’n gobeithio darparu potiau bach unigol ar gyfer gwestai a sefydliadau Gwely a Brecwast; gall sefydliadau eu hail-frandio gyda’u henwau unigol.

Mae’r jariau’n gwerthu am rhwng £4 a £6 yr un. Mae’n ddrutach na mêl archfarchnadoedd, ond mae’n amhosib cymharu’r ddau meddai Anthony. “Yn aml, mae’r mêl yn yr archfarchnad yn gyfuniad o fêl gwahanol o bobman, felly nid yw’n cynnig y gwerth o ran maeth o’i gymharu â’n mêl ni, sy’n cael ei gynhyrchu gan gychod gwenyn lleol i Grug Hywel. Mae ein mêl ni’n mynd syth o’r cwch gwenyn i jar o fewn 24 awr. Beth sy’n well na hynny?”

Erthygl gan Tim Jones, As You See It Media

 

‘Llangattock Honey’

Cynhyrchydd
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad Llangattock, Crug Hywel
Cyfeiriad e-bost llangattockapiaries@yahoo.com
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.