Moor Park Garden Organic Vegetables

Blychau llysiau “uwchlaw organig” ar gyfer Crug Hywel o ardd yn Llanbedr

Mae Ben Ward yn awyddus i helpu’r amgylchedd trwy werthu bwyd cynaliadwy yn y dref.

Ni ddefnyddir “unrhyw gemegau, plaladdwyr na gwrtaith i’w tyfu,” ac mae Ben Ward am werthu ei lysiau o fewn ychydig filltiroedd i’r ardd sydd â wal o’i chwmpas yn Llanbedr lle maen nhw’n tyfu, oherwydd mae’n well i’r amgylchedd.

Mae wedi bod yn trawsnewid yr erw a hanner o dir sydd ganddo yn Moor Park ers y gwanwyn diwethaf, i’w droi’n ardd hollol naturiol, heb angen ei throi i dyfu rhesi o ffrwythau a llysiau blasus iawn. Bwriad Ben yw eu gwerthu i siopau a bwytai lleol, ac i gartrefi lleol trwy gynllun “blychau llysiau” carbon isel, milltiroedd bwyd isel lleol.

Pam mae’n gwneud hyn? “Oherwydd mae wedi bod yn amhosib anwybyddu ein heffaith ni fel bodau dynol ar yr amgylchedd dros flynyddoedd diweddar. Rwyf wedi byw mewn ardal wledig trwy gydol fy mywyd, ac wedi gweld y dirywiad mewn adar, gwenyn a phili palas oherwydd plaladdwyr, ac effaith y cynnydd mewn allyriadau carbon ar y blaned. Felly os gallaf gyfrannu, ac mae pobl eraill yn helpu hefyd, gallwn ddechrau gwneud gwahaniaeth”, meddai Ben.

Athro bioleg oedd tad Ben “Mr Ward” yn Ysgol Uwchradd Crug Hywel, ac roedd ganddo dyddyn ar fynydd Llanelly.   Mae Ben wedi etifeddu ei ddiddordeb mewn planhigion, a dysgodd am arddio ‘heb orfod troi’r tir’; sy’n golygu gosod compost ar ben y pridd i atal chwyn rhag tyfu ac i gadw’r pridd yn llaith, ac felly osgoi’r angen i ddefnyddio unrhyw gemegau ac sy’n diogelu bioamrywiaeth y pridd yr un pryd. Yn ôl Ben, y canlyniad yw “uwchlaw organig.”

Bydd Ben yn cyflenwi llysiau’n dibynnu ar y tymhorau. “I fi nid yw’n iawn gallu prynu tomatos am 50c yng nghanol y gaeaf,” meddai.

Mae’r busnes yn cyflenwi Odonnell Bakehouse yng Nghrug Hywel, gydag eginblanhigion pys, pys, tatws charlotte a betys, sydd erbyn hyn bron yn 100% fegan. Wrth fynd â’r archeb iddynt, mae’n casglu gwaddodion coffi a philion llysiau ar gyfer y pentwr compost.

Mae Odonnell Bakehouse yn defnyddio mwy o fwydydd lleol nag unrhyw fusnes arall, fel cyfran o’r cynhwysion a ddefnyddir yno; mae mwyafrif y lleill yn prynu llysiau gan gyfanwerthwr sy’n cael ei gynnyrch o ffermydd mawr yn Lloegr a thramor.

Ac mae digonedd o botensial ar gyfer Moor Park: “Y bwriad yw gwerthu bron popeth a dyfir yn yr ardd, ac wedyn gallwn ddefnyddio cae bach arall hefyd. Os gallwn annog mwy o bobl i dyfu llysiau’n lleol, bydd yn well i bawb”, meddai Ben.

Moor Park Garden is still up and running, despite COVID-19. Continue to support your local food businesses!

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Moor Park Garden Organic Vegetables

Cynhyrchydd
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
Cyfeiriad Llanbedr, Crug Hywel NP8 1SS
Gwefan www.facebook.com/Moor-Park-Garden-2250833991796123
Ffôn 07534 924480
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.