Siop Dim Gwastraff ‘Natural Weigh’

Mae siop ‘dim plastig’ Crug Hywel am dorri milltiroedd bwyd hefyd

Eco Champions seek local suppliers to help protect the Eco-hyrwyddwyr yn chwilio am gyflenwyr lleol i helpu diogelu’r amgylchedd.

A dweud y lleiaf, mae Natural Weigh o Grug Hywel wedi meddwl yn hynod ofalus am ffynhonnell eu bwyd, ond nid yw hynny’n fawr o syndod.

Natural Weigh yw siop ‘dim gwastraff’ cyntaf Cymru, sy’n galluogi pobl i siopa heb ddefnyddio plastig wrth brynu nwyddau, mor bell â phosib yr holl ffordd i fyny’r gadwyn gyflenwi.  Mae cwsmeriaid yn defnyddio eu blychau eu hunain i brynu bwydydd sych a chynnyrch bywyd dyddiol, neu gellir defnyddio blychau compostadwy a werthir yn y siop.

Yn ôl un o’r perchnogion, Robin Masefield: “O safbwynt ein cadwyn gyflenwi, ein prif flaenoriaeth yw prynu bwydydd rhydd heb ddefnyddio plastig o gwbl.  Ein nod yw ceisio creu cadwyn gyflenwi gyflawn er mwyn gallu anfon bocsys gwag yn ôl i’r cyflenwr i’w defnyddio dro ar ôl tro.  Mae’r system yn gweithio orau trwy ddefnyddio cyflenwyr lleol, ond rydym yn ceisio ehangu hyn trwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.”

Y flaenoriaeth nesaf yw cynnyrch organig oherwydd “er dyfodol amaethyddiaeth, mae angen lleihau nifer y cemegau a ddefnyddir ar y tir.  Nid yw’r cyhoedd mor ymwybodol o hyn â llygredd deunyddiau plastig, ond mae’n hynod bwysig.”

“Yn agos iawn wedyn, mae cael hyd i fwydydd lleol” meddai Robin. “Os ydym yn mewnforio nwyddau o bedwar ban byd, meddyliwch am yr allyriadau carbon a gynhyrchir trwy eu cludo yma. Rydym yn prynu bwydydd lleol ble bynnag y gallwn, oherwydd mae’n lleihau’r milltiroedd bwyd ac yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd. Hefyd rydym yn awyddus i gefnogi pobl leol cymunedau gwledig sy’n rheoli’r tir o’n cwmpas.”

Os bydd angen i Natural Weigh fynd at gyfanwerthwr, maen nhw’n defnyddio cydweithfa o Fryste sy’n mewnforio nwyddau cynaliadwy o ffynonellau moesegol yn unig drwy ddefnyddio llongau nid awyrennau. Maen nhw’n prynu’n uniongyrchol gan y tyfwyr yn hytrach na dosbarthwyr, felly maen nhw’n derbyn rhan o’r elw hefyd.

Mae Robin yn cyfaddef fod defnyddio ffynonellau moesegol yn waith caled; mae’r siop yn defnyddio 45 o gyflenwyr gwahanol.  Ond mae’n credu y bydd busnesau eraill sy’n dilyn eu hesiampl yn elwa: “Dwi’n credu bod mwy o ymwybyddiaeth am ffynonellau bwyd, ac mae cyfle busnes ar gael. Mae angen gweithio ychydig yn galetach, ac mae’n golygu costau ychydig uwch, ond mae’r manteision yn enfawr. Mae pobl sy’n ymweld â’r ardal yn awyddus i brynu cynnyrch lleol.   Ac mae llawer o’n cwsmeriaid rheolaidd yn awyddus iawn hefyd.  Maen nhw eisiau gwybod os nad ydym yn defnyddio ffynonellau lleol, pam na fedrwn wneud hyn?  Ac mae’r bobl yma’n barod i dalu mwy am gynnyrch lleol os nad yw’n gynnyrch safon is yn eu barn nhw.”

Mae baner Cymru neu eglurhad am y darparwr gwreiddiol ar holl fwydydd Natural Weigh.  Mae baner Jac yr Undeb ar fwydydd Prydeinig.  Mae nwyddau sy’n dod o dramor yn cario gwybodaeth am y wlad wreiddiol, ac mae arwydd mawr yng nghefn y siop yn egluro eu taith yma.

“O’n safbwynt ni’r rhwystr mwyaf o ran ffynonellau lleol, yw argaeledd y nwyddau a werthir gennym, megis reis a ffacbys, nad ydynt yn cael eu cynhyrchu ar lefel fasnachol yn y DU.” Er hynny, mae Natural Weigh wedi cael hyd i gwmnïau yn y DU i gyflenwi Quinoa, Bywyn Gwenith a Haidd Perlog.  Ac maen nhw’n gwerthu gwenith organig, sy’n cael ei falu 12 milltir i ffwrdd ym Melin Talgarth, finegr o Fwlch (6 milltir), mêl Llangatwg yn rhydd, Siarcol Llangatwg (1 milltir) Halen Môn a cheirch ar gyfer uwd, ffacbys a hadau ymhlith eraill a dyfir yn y DU.  Mae Natural Weigh hefyd yn trafod bod yn fan casglu ar gyfer blychau llysiau organig lleol.

Yn ôl Robin byddai’n cefnogi cynhyrchwyr lleol o ran llenwi bylchau, ac mae’n credu y gellir cydweithio i sicrhau cyflenwad cyson. “Mae gennym opsiwn i ddewis cyflenwyr o dramor fyddai’n llawer rhatach, ond yn ein barn ni mae’n bwysig prynu’n lleol cymaint â gallwn. Mae hynny’n golygu fod yn rhaid inni amsugno rhai o’r costau, a chymryd ychydig llai o elw, ond yn ein barn ni’n mae’n werth gwneud hynny,” meddai Robin.

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Siop Dim Gwastraff ‘Natural Weigh’

Siopau
Cyfeiriad Shop 1, The Corn Exchange, 54 High St, Crug Hywel NP8 1BH
Gwefan naturalweigh.co.uk
Ffôn 01873 269493
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.