‘Oatmilk’

Gwneud arian o geirch Llanbedr

Cyn milfeddyg yn gweld cyfle i ateb gofynion cyfoes ar gyfer llaeth amgen a gynhyrchir o blanhigion.

Roedd hi’n arfer gofalu am fuchod llaeth, oedd yn cynhyrchu 40 litr y dydd, gyda chadair yn pwyso hyd at 50kg. Nawr mae hi am dyfu ceirch i fodloni galw cynyddol am ddewis angen ar gyfer llaeth o blanhigion, llaeth ceirch; sef llaeth a gynhyrchir o geirch.

Mae Em Valentine Powell yn awyddus i roi cynnig ar ddull ffermio gwahanol i’r diwydiant cyfoes sydd wedi troi’n: “Adranedig, arbenigol a diwydiannol; sy’n ffafrio cynhyrchiant ar lefel fawr a monocnydau ar draul ffermio cymysg ar raddfa lai, fwy lleol i dyfu cnydau ac anifeiliaid sy’n briodol ar gyfer mathau pridd lleol ac i fodloni’r galw ar lefel leol ar gyfer cynnyrch.” A dyna le gall ceirch, a dyfir yng Nghymru ers canrifoedd, gyfrannu.

Rydym ar ffin cae erw o geirch a grawn sy’n aeddfedu yn heulwen yr haf ger Llanbedr, Crug Hywel.   Mae wyth cenhedlaeth o deulu Powell wedi ffermio yma ac wedi gweld newidiadau sylweddol i’r diwydiant. “Roedd ffermwyr yr ardal yn arfer tyfu ceirch i fwydo’r da byw. Mae storfeydd grawn a seilos ar y rhan fwyaf o ffermydd hyd heddiw,” meddai Em.

Ond pa farchnad sydd ar gael heddiw ar gyfer ceirch? “Mae llaeth ceirch yn hynod boblogaidd mewn siopau coffi a chaffis fegan,” meddai Em, “Hoffwn wneud mwy o arian o ffermio, ac un enw cyffredin ar laeth ceirch yw ‘aur gwyn’ er enghraifft yn Llundain ac Efrog Newydd.”

Beth mae’n cynnwys felly? “Llaeth ceirch yw ceirch cyflawn gyda’r holl ddarnau da, a dŵr. Wrth i’r ceirch dechrau dorri lawr, mae’r melyster yn dod i’r amlwg. Yr unig bethau eraill sy’n cael eu hychwanegu yw ychydig o halen ac olew i’w helpu ewynnu. Y peth pwysig yw cael ansawdd hufennog, ewynnog oherwydd mae’n gwneud coffi gwych.”

Mae Em a’i phartner busnes, Vicki, yn gweithio gyda Chanolfan Bwyd Cymru i ddatblygu’r rysáit a deunyddiau pacio er mwyn dechrau cynnig llaeth ceirch rhydd mewn blychau i Natural Weigh a chaffis Crug Hywel yn y gwanwyn. Ar ôl cadarnhau’r deunyddiau pacio, y gobaith yw gwerthu trwy fanwerthwyr megis Grenfells.

“Os ydym am fod yn foesegol fel defnyddwyr, ni ddylem brynu llaeth soia neu laeth reis na llaeth cnau coco os gallwch gynhyrchu llaeth ceirch yma’n lleol,” meddai.

Drws nesaf i’r ceirch mae cnwd gwenith arbenigol. Mae’n dalach na gwenith masnachol, ac felly’n gallu trechu chwyn heb orfod defnyddio plaladdwyr. Bwriad Em yw anfon y cnwd i Felin Talgarth i’w droi’n flawd, fydd yn cael ei anfon wedyn at bobyddion arbenigol i wneud bara.

“Dros y ddwy genhedlaeth ddiwethaf, mae’r cnydau wedi datblygu’n monocnydau gydag amrywiaethau gwenith unigol sy’n agored i glefydau; ni fyddai’n bosib iddyn nhw fyw heb blaladdwyr a chwynladdwyr. Felly mae awydd nawr i dyfu grawn arbenigol fel hwn, sy’n amrywiol o safbwynt genetig, ac i annog pobl i dyfu grawn eto, a malu eu blawd eu hunain i gyflenwi pobyddion lleol.

Os bydd y syniadau’n datblygu, mae Em am dyfu mwy ar y fferm ac annog ffermwyr eraill i wneud yr un peth: “Ers talwm roedd rhyw 20 melin yn y dyffryn, byddai’n wych gweld nhw’n cael eu defnyddio eto. Trwy gydweithio gallwch ehangu’r cynhyrchiant yn gyflym iawn,” meddai Em.

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

‘Oatmilk’

Cynhyrchydd
  • Cynnyrch a dyfir yn lleol
  • Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad Llanbedr, Crug Hywel
Email address alphaladywatty@yahoo.co.uk
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.