Talgarth Mill Bread

Mae mwy na blawd lleol sy’n cael ei falu o wenith Prydeinig yn eich bara.

Mae bara a wneir mewn ffordd draddodiadol yn para’n hirach ac yn llawn maeth, meddai Cyfarwyddwr Melin Talgarth.

 

Mae bara a wneir mewn ffordd draddodiadol yn cadw’n well ac eich cadw i fynd yn hirach na bara archfarchnadoedd masgynyrchedig. Dyna grêd Melin Talgarth, sy’n gwerthu blawd trwy Natural Weigh a CRiC.

Mae Sarah Andrews yn Gyfarwyddwr gwirfoddol y Felin dŵr, a adnewyddwyd yn 2010. Dywed: “Mae bara masgynyrchedig yn cyfuno aer, dŵr, burum a llawer o ynni i greu llawer iawn o does. Ond nid oes amser i’r broses eplesu naturiol ddigwydd – felly yn y pen draw, mae llawer o fara, ond dim llawer o sylwedd, ac mae’n mynd yn hen yn gyflym. Ar y llaw arall, mae’n cymryd llawer o amser i wneud ein bara ni, i’w brofi a’i bobi, ond mae’r dorth ar y diwedd yn llawer mwy sylweddol, felly nid oes angen cymaint i’ch llenwi, ac mae’n llawn maeth, ac yn para’n hirach.”

Mae Melin Talgarth yn malu gwenith, gwenith yr Almaen a rhyg i greu blawd chwe diwrnod yr wythnos, ac mae’n pobi bara pum diwrnod yr wythnos. Dim ond blawd gwenith cyflawn a gynhyrchir yn y felin, ac o Brydain y daw’r holl grawn sy’n cael ei falu yno. Mae mwyafrif y gwenith a ddefnyddir yn cael ei dyfu ger y Gelli Gandryll, ynghyd â gwenith organig o fferm ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Sarah yn cydnabod fod blawd Melin Talgarth yn ddrutach na chyfanwerthwyr cenedlaethol – mae melinau rholio diwydiannol mawr a grawn rhatach, a fewnforir yn aml, yn arwain at flawd rhatach. Ond hwyrach na fydd pobl yn seilio eu penderfyniad ar bris yn unig pe bydden nhw’n gwybod yr holl ffeithiau: “Os rhowch chi’r holl ffeithiau i bobl am bobi, maen nhw’n gallu dewis dros eu hunain. Mae bara’n un o’n hanfodion, ac mae pobl wedi arfer talu pris penodol ar ei gyfer. Ond wrth ddechrau ystyried effaith mewnforio grawn ar yr amgylchedd, sut mae’r bara’n cael ei wneud, am faint mae’n para, ei werth maethol, hwyrach y cewch chi benderfyniad gwahanol.“

“Os ydy pobl yn barod i dalu ychydig mwy am dorth draddodiadol, gall pobwyr ymateb, a byddem yn gweld mwy o fara’n cael ei wneud yn lleol gyda blawd lleol. Ac wrth gwrs, gall pobl dysgu pobi eu hunain – mae ryseitiau syml a rhwydd ar gael sy’n addas i bawb, “ meddai.

Mae blawd rhydd Melin Talgarth ar gael gan Natural Weigh ac mewn bagiau 1kg ynghyd ag offer gwneud bara gan Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crug Hywel. Hefyd mae bara Melin Talgarth ar werth unwaith y mis yn CRiC.

Talgarth Mill is still selling supplies of flour, bread, takeaway pizza and sweet and savoury treats, despite COVID-19. Their café and the mill are temporarily closed to the public. Continue to support your local food businesses!

Erthygl gan Tim Jones, As You See It Media

 

Talgarth Mill Bread

Bwytai, Cynhyrchydd, Siopau
  • Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad Talgarth Mill, Talgarth
Gwefan talgarthmill.com
Ffôn 01874 711352
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.