The Bear Hotel

Mae’r gwesty’n gweini 40,000 o brydau bwyd y flwyddyn - ble maen nhw’n prynu eu cynhwysion?

Trefniadau logisteg enfawr i gadw cegin brysuraf Crug Hywel ar waith.

Mae amrywiaeth enfawr o brydau bwyd ar fwydlen The Bear, yn amrywio o ffefrynnau megis ffagots, coes cig oen a lasagne i brydau pysgod, pwdinau a Chaws Cymreig. Ac mae rhestr o brydau tymhorol ac arbennig ar y bwrdd du bob dydd. Mae’r broses o fwydo’r miloedd o bobl sy’n aros yn y gwesty neu sy’n cerdded trwy’r drws bob mis yn her logisteg enfawr.

“Rydym yn falch i gefnogi cyflenwyr ble bynnag y gallwn,” meddai Lynda Hall, Rheolwr Gweinyddol Gwesty’r Bear yng Nghrug Hywel, “rydym wedi meithrin perthynas gyda llawer ohonynt dros y degawdau, ac rydym yn ymddiried ynddynt oherwydd rydym yn sicr o dderbyn cyflenwad cynhwyson cyson a rheolaidd, o safon am y pris iawn.”

Daw rhan fwyaf o gig y Gwesty gan gigydd Richards dros y ffordd, a daw’r llysiau gan PJ Jones, cyfanwerthwr o’r Goetre. Hufenfa Stuart Grainger o Grug Hywel sy’n cyflenwi’r llaeth, hufen ac iogwrt, mae’r cyw iâr a’r eog yn cael ei ddarparu gan Black Mountains Smokery ar gyrion y dref. Maen nhw’n defnyddio Popty Askew ar y Stryd Fawr a llu o siopau lleol eraill ar gyfer anghenion achlysurol. Nid yw’r holl gynhwysion crai a ddefnyddir gan y cyflenwyr hyn yn cael eu tyfu neu eu magu’n lleol, ond yn dod o bellach i ffwrdd yn unol ag arferion ffermio cyfoes.

Mae’r Bear yn prynu rhai cynhwysion lleol: llysiau tymhorol gan Primrose Organics o Aberhonddu, wyau o fferm Richard Lewis ochr draw i’r dyffryn, mae’r Cig Carw’n dod o Siop y Fferm ym mhentref Bwlch 6 milltir i ffwrdd, ac weithiau maen nhw’n prynu cig oen gan ffermydd lleol. Mae gan y Prif Gogydd ryddid i benderfynu beth sy’n mynd ar y fwydlen arbennig, trwy ddewis y cynhwysion sydd ar gael. Dywed Marc Montgomery: “Mae gan Gymru lu o gynhwysion rhagorol i’w cynnig; cig oen Cymreig er enghraifft – y cig oen gorau trwy’r byd. A thrwy ddefnyddio ffermwyr bach lleol, mae’r llysiau tymhorol yn ddelfrydol ar gyfer ein bwydlen arbennig oherwydd gellir ei newid bob dydd, dwywaith y dydd weithiau’n dibynnu ar y cynnyrch ffres sydd ar gael.”

Felly, fyddai’r Gwesty’n defnyddio ei rym sylweddol fel prynwr i ddylanwadu ar gyflenwyr i ddefnyddio mwy o gynnyrch gan ffermydd lleol?: “Yn bendant,” meddai’r Rheolwr Gweinyddol, Lynda Hall, “os gallwn gadw’r ffefrynnau ar y fwydlen – mae pobl yn dod nôl dro ar ôl tro i’w bwyta – ac mae’r prisiau’n gyson. Yn sicr, mae’n werth defnyddio cynhwysion lleol, ond ydyn nhw ar gael am yr un prisiau? Os nad yw’n bosib, byddai’r cwsmeriaid yn fodlon talu mwy – dyna’r cwestiynau mwyaf o’n safbwynt ni?”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

 

The Bear Hotel

Bwytai
Cyfeiriad The Bear Hotel, Stryd Fawr, Crug Hywel NP8 1BW
Gwefan www.bearhotel.co.uk
Ffôn 01873 810408
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.