The Dragon Inn

“Dangoswch eich cynnyrch inni” - her tafarnwr o Grug Hywel

Mae angen bwydydd lleol ffres i lenwi Bwydlen Arbennig y Dragon Inn.

Yn ôl Gareth Rowe o’r Dragon Inn ar Stryd Fawr Crug Hywel “mae’r syniad o ffermwyr a thyfwyr lleol yn dod â chynnyrch ffres, tymhorol i ddrws cegin gwesty, a gweld beth mae’r cogyddion yn gallu creu ohono, wedi fy niddori i erioed”.  “Dyna’r ffordd yr oedd pethau’n arfer digwydd, a byddem yn hoffi cynnig mwy o brydau arbennig ar hyn o bryd.  Y broblem yw, nid ydym yn gwybod bob tro beth sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol inni.”

Mae bwydlen y dafarn yn defnyddio cynhwysion lleol amrywiol, megis cig gan gigyddion Cashells lawr y ffordd (cig oen, eidion a phorc sy’n cael eu magu o fewn 6 milltir i’r dref) a bwydydd a gynhyrchir yn lleol.  Maen nhw’n defnyddio cig a halltwyd gan Fferm Trealy ger y Goetre, cracyrs Cradoc Savoury Biscuits ger Aberhonddu, ac eog a fygwyd gan Black Mountains Smokery yng Nghrug Hywel.  Alex Gooch yn y Gelli Gandryll sy’n pobi’r bara a daw’r holl stêcs o Gymru hefyd.

Meddai Gareth: “Cefnogi siopau lleol a chynnyrch Cymreig yw ethos y dafarn.  Dyna sy’n nodweddiadol o Grug Hywel; profiad lleol go iawn.  Rydym yn sefyll allan fel tafarn Gymreig go iawn, ac sy’n wahanol i’r cwmnïau mawr sy’n gweini bwyd rhad masgynyrchedig bob dydd.  Rydym yn gwneud ymdrech i egluro o ble daw ein cynhwysion; o’r rheswm dros ddefnyddio cyflenwyr lleol, oherwydd mae’n dangos i gwsmeriaid nad ydym yn prynu bwyd lleol yn unig, ac yn ceisio gwneud yr elw mwyaf posib.”

“Mae’n her weithiau,” meddai Gareth “mae angen ymdrech i gael hyd i’r cyflenwyr iawn, ac wrth gwrs gall bwyd Cymreig o safon fod yn ddrutach.  Byddai’n hawdd inni ddefnyddio stêcs masgynyrchedig, gan ffermydd diwydiannol am hanner y pris, ond nid dyna a wnawn; mae pobl yn awyddus i gael bwyd o safon a bwydydd lleol a Chymreig, ac maen nhw’n dod nôl dro ar ôl tro wedyn.”

Mae Pen Cogydd y Dragon, Lisa Grenfell ar fin dechrau dysgu cogyddion newydd rhan amser, ac mae cael hyd i ffynonellau cynhwysion cynaliadwy ar ben yr agenda iddi hi.  Er hynny mae’r dafarn yn cael rhai cynhwysion gan gyfanwerthwyr, ffrwythau a llysiau’n bennaf, sy’n eu mewnforio o Loegr ac Ewrop.  Yn ôl Lisa Grenfell, y Pen Cogydd: “Ble bynnag fo’n bosib rydym yn defnyddio cynhwysion Cymreig. Rydym yn prynu gan Primrose Organics (ger Aberhonddu), ond weithiau nid yw’n gallu cyflenwi’r hyn sydd ei angen arnom.  Wrth weini cymaint o gwsmeriaid â ni, fedrwch chi ddim fforddio rhedeg allan o lysiau a ffrwythau.  Gallaf roi archeb i PJ Jones (cyfanwerthwr ffrwythau a llysiau o’r Goetre) a byddaf yn gwybod y daw’r diwrnod wedyn.  Mae cysondeb y cyflenwad yn hynod bwysig hefyd.”

Byddai’r Dragon yn hoffi cael mwy o fwydydd lleol, er hynny.  Maen nhw’n mynd i gychwyn bwydlen arbennig ac wedi recriwtio Cogydd newydd Gavin Kellett – Cogydd Cenedlaethol Cymru 2019 fydd yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r fwydlen.

Meddai Gareth Rowe: “Byddem yn hoffi llenwi’r fwydlen arbennig gyda chynnyrch tymhorol lleol.  Y broblem ydy – dydyn ni ddim wastad yn gwybod beth sydd ar gael, felly rydym yn awyddus i siarad gyda chynhyrchwyr lleol.  “Dangoswch eich cynnyrch inni, a chawn weld beth allwn ei wneud” – dyna’r neges iddyn nhw.

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

The Dragon Inn

Bwytai
Cyfeiriad 47 High St, Crug Hywel NP8 1BE
Gwefan www.dragoninncrickhowell.com
Ffôn 01873 810362
Rydym yn gwerthu/gweini bwyd a wnaed yn lleol o
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.