Trealy Farm Charcuterie

Cwmni halltu cig arobryn yn cefnogi ffermwyr lleol

Model busnes Fferm Trealy yn ychwanegu gwerth ar hyd y gadwyn fwyd.

Pan ddechreuodd James Swift halltu cig, roedd moch bridiau prin yn gwerthu am ryw £20 – £30 yr un, er eu bod yn costio dros £200 i’w magu. Roedd y farchnad moch wedi methu, ac roedd llawer o ffermwyr moch maes yn mynd i’r wal. Penderfynodd gwneud rhywbeth am hyn.

Dywed James: “Roedd llawer o ffermwyr bach yn magu moch mewn ffordd draddodiadol iawn, bridiau prin yn aml iawn, a rhyw dau neu dri mochyn ar y tro. Bydden nhw’n lladd un ar gyfer eu defnydd eu hunain efallai, ac anfon y lleill i’r farchnad, ond roedden nhw’n methu cael pris rhesymol am y moch oherwydd nid dyna roedd yr archfarchnadoedd ei eisiau. Roedd nifer fawr o ffermwyr yn rhoi’r gorau i fagu moch. Ar yr un pryd, roeddwn am gael cyflenwad rheolaidd o foch maes, hŷn a mwy o faint oherwydd wrth halltu cig, mae’r blas yn well. Felly siaradais â’r ffermwyr, a chytunwyd os bydden nhw’n glynu wrth safonau lles penodol, yn benodol bod y moch yn cael crwydro, buaswn i’n prynu ganddynt am well pris nag yn y farchnad. Mae fel system masnach deg, nid dyna’r enw a ddefnyddir gennym, ond dyna yw mewn gwirionedd.”

Trwy bennu’r safonau lles i’r ffermwyr gydymffurfio â nhw, mae Fferm Trealy yn gallu sicrhau taw dim ond porc maes gwerth ychwanegol mae’n ei dderbyn. Maen nhw’n ychwanegu at werth y cig trwy ei halltu, ac yn ei dro mae rhywfaint o’r gwerth yn dod nôl i’r ffermwyr drwy brisiau uwch am y moch.

Y canlyniad yw bod grŵp prynu o dros 200 fferm, rhai ohonynt yn ardal Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy, yn cyflenwi moch i Fferm Trealy. Y cyflenwr mwyaf a mwyaf rheolaidd yw Maurice Trumper, rhyw 12 milltir o Grug Hywel. Mae arbenigwr mewnol Trealy’n gwirio’r holl gyflenwyr er mwyn sicrhau y cynhelir y safonau.

“I raddau helaeth, dinistriwyd y math yma o system yn y DU,” meddai James, “oherwydd ni fyddai’r archfarchnadoedd yn caniatáu amrywiaeth mor eang. Maen nhw’n cynhyrchu popeth yr un peth; yr un pris, boed yn foch Cyfrwyog maes a fagwyd am ddwy flynedd, neu foch hybrid ar system ffermio diwydiannol a’u bwydo ar soia, does dim rheswm i wneud unrhyw beth gwell.”

Mae Cigoedd Hallt Fferm Trealy ar gael yn y Dragon, Crug Hywel, neu os bydd cwmni Prickly Pear Catering yn arlwyo ar gyfer eich digwyddiad, neu os byddwch yn prynu hamper wrth aros ar Ystâd Glanwysg.   Neu gallwch ymweld â Fferm Trealy, Goetre neu archebu o’r wefan.

Erthygl gan Tim Jones, As You See It Media

 

Trealy Farm Charcuterie

Cynhyrchydd
  • Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad Plough Road, Penperlleni, Pont-y-pŵl NP4 0AL
Gwefan www.trealyfarm.com
Ffôn 01495 785090
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.