Welsh Farmhouse Apple Juice

Mae’r afalau’n cael eu hel o fewn 12 milltir i Grug Hywel ac ac yn cael eu potelu o fewn 24 awr.

Crug Hywel, busnes gwlad yn cyflenwi’r dref a rhai o’r Teulu Brenhinol gyda suddion ffres, naturiol.

Does dim byd mwy lleol na hyn! Mae cwmni Welsh Farmhouse Apple Juice, a leolir ger Crug Hywel yn defnyddio ffrwythau sy’n tyfu o fewn 12 milltir i’r dref, ac yn eu troi’n sudd o fewn 24 awr. A, gydag ychydig o eithriadau arbennig, gwerthir yr holl gynnyrch o fewn 50 milltir i’r fferm.

Ers 12 mlynedd, John a Margaret Morris sy’n rhedeg Welsh Farmhouse Apple Juice. Derbyniodd y cwmni Warant Brenhinol i gyflenwi Tywysog Cymru, a helpodd hyn yn ei dro i ennill cytundeb i gyflenwi sudd yn Japan. Ond lleol yw mwyafrif helaeth y busnes hyd heddiw, ac maen nhw am ei gadw felly.   Ac wedi sicrhau bod sylfeini cadarn i’r busnes, mae John a Margaret bellach yn trosglwyddo’r awenau i David eu mab, a’i bartner Emma Quenby.

Meddai David: “Rydym yn gwerthu llawer iawn o sudd yng Nghrug Hywel, sydd yn wych. Rydym yn gwerthu trwy’r ganolfan ymwelwyr, gwestai a sefydliadau gwely a brecwast. Rydym yn hapus i gyflenwi sefydliadau gwely a brecwast am bris masnachol, er mwyn i bobl sy’n ymweld â’r ardal flasu cynnyrch ardal Crug Hywel.”

Mae’r busnes yn potelu 30 math gwahanol o afalau organig, neu a dyfir heb ddefnyddio chwynladdwyr neu blaladdwyr, ac mae sudd pob un yn unigryw o ran blas a lliw: “Mae sudd pob math o afalau’n wahanol,” meddai David, “byddant yn amrywio o ran lliw, ac mae blas unigryw i bob un ohonynt. Bydd hyd yn oed yr un afalau’n cynhyrchu blas gwahanol i’r tymor diwethaf oherwydd amrywiaethau o ran tymheredd, faint o heulwen a geir ac ati. Mae’n debyg i win mewn ffordd.”

Ym marn David, ffresni yw’r allwedd: “Yn wahanol i suddion archfarchnadoedd, nid ydym yn defnyddio sudd crynodedig, felly does dim dŵr tap, dim ond sudd yr afalau. Rydym yn eu hel â llaw ac yn eu troi’n sudd o fewn 24 awr. Rydym yn sicr wedyn o gadw’r ffresni, ac yn cynnig y blas gorau posib gan y gwahanol fathau o afalau. Mae rhai sefydliadau mawr yn eu gosod mewn storfa oer, sy’n golygu fod cyflwr yr afalau’n dechrau dirywio ac mae’r gwerth maeth yn gostwng. Felly ni allwch sicrhau y cedwir ansawdd yr afalau.”

Ar hyn o bryd mae Welsh Farmhouse Apple Juice yn cyflenwi rhyw 12-18,000 o boteli 75cl i fannau gwerthu lleol, yn ogystal â nifer debyg o boteli llai, 25cl. Mae David ac Emma yn bwriadu ehangu’r busnes i gynnwys ffrwythau eraill, ond maen nhw wedi ymrwymo i aros yn lleol ac maent yn awyddus i weithio gyda chynhyrchwyr eraill er mwyn cael cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch lleol.

Yn ôl David: “mae’n bwysig i bobl yr ardal wybod am yr hyn rydym yn ei gynhyrchu. Mae’n amlwg fod trigolion Crug Hywel yn awyddus i gefnogi cynhyrchwyr lleol, felly bydd codi ymwybyddiaeth am yr holl gynnyrch sydd ar gael gennym, yn rhoi cyfle i bobl leol brynu mwy o bethau’n lleol. Mae pawb yn gwybod bod cig a llysiau lleol, uchel eu safon ar gael ar stryd fawr Crug Hywel, ond rydym am i bobl wybod am yr holl fwydydd a diodydd a gynhyrchir yn lleol sydd ar gael yma. Hefyd mae pobl am wneud penderfyniadau deallus ynghylch lle maen nhw’n cael eu bwyd oherwydd mwy o ymwybyddiaeth a phryder ynghylch milltiroedd bwyd, ôl-troed carbon a gorddefnyddio deunyddiau pacio/plastig wrth gludo bwyd. Os gallwch hysbysu pobl am yr holl gynnyrch sydd ar gael, a gallwch eu cyflenwi am 12 mis y flwyddyn trwy brosiectau bwyd lleol, byddwn yn gallu sicrhau buddsoddiad enfawr mewn busnesau lleol, yn ogystal ag ehangu’r farchnad leol, sydd o fudd i bawb.”

Erthygl a lluniau gan Tim Jones, As You See It Media

 

Welsh Farmhouse Apple Juice

Cynhyrchydd
  • Yn defnyddio cynnyrch lleol
Cyfeiriad Graig Barn Farm, Llangenny Lane, Crug Hywel NP8 1HB
Gwefan www.facebook.com/welshfarmhouse
Ffôn 01873 810275
Gallwch brynu neu fwyta ' r bwyd yma
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.