Sut gallwn ni yn nhref Crug Hywel ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd trwy ein ffordd o fwyta

Mae newid ein ffordd o fwyta’n allweddol i bob cynllun i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Gellir dangos effaith bwyd nad yw’n lleol ar gynhesu byd-eang trwy esiampl syml iawn: y llaeth rhad iawn sydd ar werth mewn archfarchnadoedd (mewn poteli plastig wrth gwrs). Mae gan yr archfarchnadoedd y grym i ddylanwadu ar y prisiau a delir i’r ffermwyr. Trwy yrru pris llaeth yn is yn ddiwrthdro, mae cynhyrchwyr llaeth bach yn mynd i’r wal, a dim ond y rhai enfawr sy’n goroesi, ac mae’n nhw’n gaeth i system cynhyrchu a phrosesu ar lefel ddiwydiannol enfawr. Mae ffermydd sy’n ffarmio ar y raddfa hon yn gorfod mewnforio bwyd i’r gwartheg godro; mae’r bwyd yn cael ei dyfu mewn gwledydd eraill. Ac mae hyn yn arwain at ehangu cynhyrchiant soy sydd yn ei dro’n sbarduno datgoedwigo raddfa eang, sy’n golygu torri lawr coed sy’n amsugno deuocsid carbon ac felly’n cynyddu cynhesu byd-eang. Yn ystod Haf 2019 y tynnwyd sylw’r byd at y tanau mawr cyson yn yr Amazon am y tro cyntaf – ein hawydd ni am fwyd anghynaliadwy sy’n eu hachosi nhw.

Mae hyn yn golygu taw un o brif achosion yr argyfwng hinsawdd yw’r awydd ar gyfer llaeth rhad yn yr archfarchnadoedd. Mae’r un peth yn wir am wyau rhad – gallwch gadw miliynau o ieir mewn gofod fach, ond mae angen llawer iawn o dir i dyfu eu bwyd, a beth sy’n digwydd i’r holl gwrtaith a gynhyrchir gan yr ieir? Nid yw’n bosib lleihau’r tir sydd ei angen i greu peint o laeth neu wy; yr unig beth fedrwch ei wneud yw defnyddio tir rhywle arall ar ein planed, ac mae hynny’n dda i ddim o safbwynt newid yn yr hinsawdd.

Mae newid ein ffordd o gynhyrchu a defnyddio bwyd wrth galon pob strategaeth i leihau’r newid yn yr hinsawdd. Dros yr haf cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei adroddiad, Climate Change and Land. Dyma’r adroddiad pwysicaf erioed a gynhyrchwyd yn hanes dyn ar fwyd ac amaethyddiaeth – mae dyfodol dynol ryw yn dibynnu ar weithredu argymhellion yr adroddiad.

  • Mae’r system bwyd byd eang yn gyfrifol am rhwng 21% a 37% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n deillio o weithgaredd dynol. Bydd y broblem hon yn cynyddu wrth I’r boblogaeth gynyddu, twf mewn incwm a newidiadau mewn defnydd. [A.3]
  • Ar hyn o bryd mae 25-30% o’r holl fwyd a gynhyrchir trwy’r byd yn cael ei golli neu ei wastraffu. [A.1.4]
  • Mae amaethyddiaeth yn rhan o’r broblem o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond gall hefyd fod yn rhan o’r ateb, trwy weithredu fel dalfa garbon. [A.1.2]
  • Yn y dyfodol, bydd mwy o lifogydd, sychderau, tanau, ymyrryd mewn cadwyni bwyd a phrisiau bwyd uwch. [A.5]
  • Un o’r atebion yw gwella camau gweithredu lleol a chymunedol. [C.2.1] DYNA’R FFORDD Y MAE’N RHAID I EIN BWYD CRUG HYWEL GYFRANNU AT YMATEB I’R ARGYFWNG HINSAWDD BYD EANG.

Mae camau gweithredu adroddiad yr IPCC [B2.1, B.5] y gellir eu cyflawni yn nhref Crug Hywel fel a ganlyn:

  • Hyrwyddo cynhyrchu bwyd trwy ddefnyddio dulliau rheoli gwell ar gyfer tir a da byw er mwyn lleihau allyriadau carbon a chynyddu cynnwys organig y pridd.
  • Cynyddu cynhyrchedd bwyd er mwyn cynhyrchu mwy gyda llai o fewnbwn (e.e. gwrtaith, tanwydd, peiriannau).
  • Hyrwyddo diet mwy cynaliadwy – mwy o grawn bras, codlysiau, ffrwythau a llysiau, cnau a hadau. [B.6.2]
  • Lleihau’r bwyd a gollir ac a wastraffir [B.6.30] – sy’n golygu prynu bwyd mwy lleol a llai gan archfarchnadoedd, sydd ar ddiwedd cadwyni bwyd hir iawn, sy’n creu gwastraff yn ogystal â charbon.
  • Paratoi ar gyfer “ymyriadau i’r gadwyn gyflenwi”, hynny yw, prinder bwyd. [C.2.2]
  • Codi ymwybyddiaeth o ran cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. [D.1.1]

Hefyd dylem gofyn i Awdurdod y Parc Cenedlaethol sut maen nhw’n llunio eu cynlluniau nhw o gwmpas argymhellion yr IPCC, er enghraifft, gwella rheolaeth tir cnydau a thiroedd pori a rheoli coedwigoedd mewn ffordd gynaliadwy. [B.2.1.]

Dylem gofyn i awdurdodau lleol a chenedlaethol i helpu gyda’n gwaith, oherwydd mae adroddiad yr IPCC yn argymhell yn benodol cefnogi camau gweithredu lleol a chymunedol ar y cyd [C.2.1], gan gynnwys y camau gweithredol penodol isod:

  • Cefnogi rheoli adnoddau naturiol ar lefel leol. [C.2.1]
  • Galluogi actorion i gydweithredu, gan gynnwys ar lefel ryngwladol. [C.2.1]
  • Sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn prynu bwyd lleol (“caffael cyhoeddus”). [C.2.4]
  • Cydlynu gweithredu ymhlith busnesau, cynhyrchwyr, defnyddwyr, cymunedau, rheolwyr tir ac unigolion sy’n llunio polisi. [C.4.3]
  • Cynnwys pob rhanddeiliad perthnasol wrth adnabod pwysau ac effaith ar ddefnydd o dir.[C.4.1]
  • Buddsoddi cronfeydd er mwyn adfer tir. [D.2.2]

Llun: Tim Jones, As You See It Media

 

Gweler hefyd:

Gwahoddiad i drigolion Crug Hywel: sut i ddefnyddio’r wefan hon

Ein cynllun: meithrin economi bwyd lleol newydd

Gwahoddiad i drefi a rhanbarthau eraill

Rydym yn ymateb i dri argyfwng: hinsawdd, rheolaeth leol, diboblogi

Ydy bwyd lleol yn fforddiadwy?

Pwy ydym ni

Ein Gweledigaeth (gwaith ar y gweill)

Dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy a gwneud arian

Helpu pobl ifanc gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd

Helpu busnesau bwyd a diodydd lleol i dyfu

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.