Dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy a gwneud arian
Mae Cymru wedi cyhoeddi ei bod mewn Argyfwng Hinsawdd, ac mae pob ateb i broblemau cynhesu byd eang yn cynnwys newid radical o ran ein dulliau cynhyrchu bwyd. Mae mor bwysig cychwyn ar hyn yng Nghrug Hywel ar hyn o bryd ag unrhyw le arall trwy’r byd.
Gweler isod restr o leoliadau yng Nghymru ac ar draws y byd lle gellir dysgu am ddulliau tyfu bwyd cynhyrchiol iawn ac sy’n dda i’r hinsawdd. Mae llawer o gyfeiriadau at ‘baramaethu’ a diffinnir fel a ganlyn: “dylunio tirluniau yn fwriadol er mwyn efelychu patrymau a chysylltiadau naturiol, tra ar yr un pryd yn cynhyrchu digonedd o fwyd, ffibr ac ynni ar gyfer anghenion lleol.”
Mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth yn cynnig nifer o gyrsiau diddorol:
- Cwrs ôl-radd, Sustainable Food and Natural Resources
- Cwrs tridiau Introduction to Permaculture
Ac mae Paramaethu Cymru’n cynnig cyrsiau tridiau ar thema paramaethu.
Mae cwrs rhan amser ar gael i oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd ar destun paramaethu: Cynllunio eich Gardd Fwytadwy.
Mae Fferm Troed y Rhiw yng Ngorllewin Cymru’n cynnig cyrsiau ar thema cychwyn fel tyfwr neu ffermwr organig, yn ogystal â chadw gwenyn.
Mae Ragmans Farm, dros y ffin yn Swydd Gaerloyw, yn rhedeg cyrsiau paramaethu a thyfu bwyd organig. Mae’n cynnwys cyrsiau Gwneud Seidr a Chadw Gwenyn mewn ffordd Gynaliadwy.
Mae Ridgedale Permaculture o Sweden wedi cyhoeddi llawer o erthyglau a fideos ar baramaethu cymysg proffidiol, i’ch ysbrydoli yn ogystal â llyfrau a chwrs hyfforddi ar-lein i’r sawl sydd am gychwyn.
Lleolir Jardins de la Grelinette yng Nghanada, lle maen nhw’n rhannu dulliau tyfu llysiau organig ar 1.5 erw, ac sy’n dod ag incwm gwerth £60,000 yr erw ac elw o ryw 60% – sy’n ddigon i gynnal eu teulu. Maen nhw’n rhedeg cwrs i symud garddwyr marchnad at y lefel nesaf. Mae mynediad gydol oes ar gael at dros 15 awr o wersi a deunyddiau.
Ac yn agosach at adref….
Mae Brecon Beacons Foraging ger Aberhonddu yn cynnig cyrsiau mewn adnabod planhigion gwyllt y gellir eu bwyta a’u paratoi i’w bwyta. Hefyd mae cyrsiau i blant a hyd yn oed partïon pen-blwydd ar thema chwilota! Gellir darllen mwy am Brecon Beacons Foraging ar y wefan hon.
Mae Gardd Nant y Bedd yn Fforest Coalpit yn cynnig gweithdai ar ddulliau tyfu llysiau organig. Gellir darllen mwy am Nant Y Bedd ar y wefan hon.
Mae Gardd Lysiau Tŷ-Mawr ger Llyn Syfaddan yn cynig cyrsiau hanner diwrnod ar dyfu organig ar raddfa fach. Gellir darllen mwy am Tŷ-Mawr ar y wefan hon.
Llun: Ferme du Bec-Hellouin, France
Gweler hefyd:
Gwahoddiad i drigolion Crug Hywel: sut i ddefnyddio’r wefan hon
Ein cynllun: meithrin economi bwyd lleol newydd
Gwahoddiad i drefi a rhanbarthau eraill
Rydym yn ymateb i dri argyfwng: hinsawdd, rheolaeth leol, diboblogi
Sut gallwn ni yn nhref Crug Hywel ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd trwy ein ffordd o fwyta
Ydy bwyd lleol yn fforddiadwy?
Ein Gweledigaeth (gwaith ar y gweill)
Helpu pobl ifanc gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd
Helpu busnesau bwyd a diodydd lleol i dyfu