Rydym yn ymateb i dri argyfwng: yr Hinsawdd, Rheolaeth Leol, Diboblogi

Yr Hinsawdd

Yn debyg i bawb arall ar y ddaear, mae argyfwng mawr yn ein hwynebu o ran yr hinsawdd. Mae pob strategaeth i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn cynnwys newid ein ffordd o fwyta – mae rhyw draean o’r holl agweddau ar newid yn yr hinsawdd yn deillio o gynhyrchu bwyd.

Pan ofynnwyd i Greta Thunberg, y llais ifanc sy’n cynrychioli pobl ifanc ar draws y byd ar y pwnc hwn, beth yw’r UN peth y dylai pawb ei wneud, ei hateb oedd, “ymateb fel pe bai’n argyfwng”. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos y ffordd eisoes trwy gyhoeddi ein bod mewn argyfwng hinsawdd, ychydig cyn y mis Gorffennaf poethaf a gofnodwyd erioed.

Ym mis Awst 2019, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd adroddiad ar Climate Change and Land, yr adroddiad pwysicaf erioed ar sut y dylid cynhyrchu bwyd. Hefyd yn Awst 2019, mae’r tanau yng nghoedwigoedd yr Amazon wedi denu sylw ar lefel fyd eang – a’r awydd am gig a nwyddau llaeth rhad sydd tu ôl i’r tanau hyn.

Gellir darllen mwy ar sut y gallwn ni yn nhref Crug Hywel helpu mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy newid ein ffordd o fwyta. Hefyd gweler y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu mwy am dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy

Rheolaeth leol

Ar y cyd â gweddill y DU, mae pryderon mawr mewn perthynas â’r diffyg rheolaeth sydd gennym dros bethau sy’n siapio bywyd beunyddiol. Mae’r atebion yn achosi rhaniadau mawr, ond mae pawb yn rhannu’r teimlad ein bod wedi colli rheolaeth. Ar lefel leol, beth bynnag fo’ch barn am Brexit, mae pawb yn cytuno bod angen mentrau i gynyddu ein grym er mwyn siapio’r economi lleol er budd pawb.

Difrodwyd marchnadoedd bwyd lleol yn ardal Bannau Brycheiniog a’r ardal gyfagos. Wrth gyfweld â busnesau lleol, darganfuwyd taw’r broblem bennaf ar hyn o bryd yw nid y galw am gynhwysion lleol, ond diffyg cyflenwad o’r rhain. Er enghraifft, byddai siop Cashells yn gwerthu mwy o lysiau a dyfir yn lleol, pe byddai’n gallu cael gafael arnynt.

Wrth ddatblygu gwefan Ein Bwyd Crug Hywel, daethom ar draws llawer o fusnesau bwyd nad oeddem yn ymwybodol ohonynt, ond y realiti yw bod mwyafrif y bwyd a gynhyrchir yn yr ardal leol, yn dal i adael yr ardal, ac mae mwyafrif helaeth y bwyd sy’n cael ei fwyta yn yr ardal, yn dod o’r tu allan, ac yn cael ei brynu drwy gyfanwerthwyr neu archfarchnadoedd. Mae gan ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal gytundebau bwyd canolog mawr, sy’n golygu ei fod yn amhosib i gynhyrchwyr bach gael eu traed trwy’r drws.

Mae hyn oll yn golygu ein bod yn fwy dibynnol ar fewnforion ac yn agored i “ymyriadau yn y gadwyn gyflenwi” (= prinder bwyd) fydd yn deillio o gynhesu bwyd eang, ac mae hynny heb ystyried yr hyn all digwydd i brisiau a chyflenwadau bwyd yn ddiweddarach eleni os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Ar hyn o bryd mae economi bwyd lleol bach yn syniad drwg iawn.

Diboblogi

Yn debyg i ardaloedd gwledig eraill ar draws Cymru, rydym yn wynebu diboblogi. Oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith lleol a phrisiau cynyddol tir a chartrefi mae pobl ifanc yn gadael cefn gwlad. Mae’r sefyllfa’n drychinebus ar gyfer yr economi lleol hirdymor. Dyna’n rheswm dros hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc leol gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd.

Gall busnesau cynhyrchu bwyd fod yn gyfle deniadaol i bobl ifanc sy’n byw yn lleol; busnes sydd oherwydd ei natur, yn lleol ac yn greadigol. Mae gan ddefnyddwyr mwy a mwy o ddiddordeb yn ffynonellau eu bwyd, a gellir gwneud elw o fwyd.  Ond prin iawn yw’r cyfleoedd sy’n hyrwyddo gyrfaoedd ym maes bwydydd lleol yn y rhanbarth.

 

Gweler hefyd:

Gwahoddiad i drigolion Crug Hywel: sut i ddefnyddio’r wefan hon

Ein cynllun: meithrin economi bwyd lleol newydd

Gwahoddiad i drefi a rhanbarthau eraill

Sut gallwn ni yn nhref Crug Hywel ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd trwy ein ffordd o fwyta

Ydy bwyd lleol yn fforddiadwy?

Pwy ydym ni

Ein Gweledigaeth (gwaith ar y gweill)

Dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy a gwneud arian

Helpu pobl ifanc gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd

Helpu busnesau bwyd a diodydd lleol i dyfu

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.