Ymgyrch Cymru i hyrwyddo’r economi bwyd lleol a chynaliadwy
Mae Ein Bwyd yn helpu ymgyrch trwy Gymru gyfan o blaid bwyd lleol.
Rydym yn hyrwyddo dau faes gweithredu sy’n canolbwyntio ar:
- Flaenoriaeth genedlaethol i feithrin yr economi bwyd lleol
- Ymateb i newid hinsawdd yn y sector bwyd a diod sy’n adlewyrchu’r “argyfwng” a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru
Estynnir gwahoddiad ichi wneud dau beth.
1. Llofnodi llythyr ar y cydat y Llywodraeth
Mae’r llythyr hwn yn cyfrannu at y sgwrs rhwng busnesau bwyd lleol a’r Llywodraeth. Bydd yn cyfrannu at ymgynghoriad ffurfiol, ’Datblygu’r sector bwyd a diod yng Nghymru sy’n dod i ben ar 15fed Hydref, ond byddwn yn parhau i ennyn unigolion i’w lofnodi trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd.
Wrth i bobl lofnodi, rydym yn ychwanegu eu henwau at y llythyr ar-lein.
2. Dewch draw i drafodaeth rhwng 10.30-12.30 ar 13 Tachwedd yng Nghrug Hywel
Byddwn yn trafod sut i fagu’r economi bwyd lleol a’r hyn sydd angen i wneud i ymgyrchu dros y dull hwn o weithio er mwyn annog ei flaenoriaethu. Bydd Rudolph Bühler o’r Almaen yn bresennol yn y drafodaeth; roedd yn gyfrifol am arwain un o’r prosiectau economi bwyd mwyaf llwyddiannus ar y blaned.
Am fwy o fanylion ar y digwyddiad hwn, gweler y gwahoddiad llawn yma.
Mae trafodaethau am strategaeth bwyd a diod newydd yn cael ei drafod ar ôl cyhoeddi argyfwng hinsawdd. Fedrwn ni ddim fforddio colli’r cyfle!