Gwahoddiad i drafodaeth genedlaethol ar ail-greu’r economi bwyd lleol yng Nghymru – 13 Tachwedd
Estynnir gwahoddiad ichi ddod i ddigwyddiad a drefnir gan Ein Bwyd Crug Hywel i drafod sut y gallwn brif-ffrydio creu’r economi bwyd lleol yng Nghymru, a sut i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Dyddiad: 13 Tachwedd 2019
Amser: 10.30am – 12.30pm.
Lleoliad: Neuadd Clarence, Canol dref Crug Hywel
Iaith: Saesneg, gyda rhywfaint o Gymraeg a Schwäbisch.
Ar ôl y digwyddiad, beth am fwyta mewn un o’n bwytai lleol!
Gellir cofrestru yma erbyn 1 Tachwedd.
Mae gan Ein Bwyd Crug Hywel uchelgais mawr er ein bod yn cychwyn ar raddfa fach: sef prif-ffrydio magu’r economi bwyd lleol ar hyd a lled Cymru ac i sicrhau statws “argyfwng” ar gyfer y newid yn yr hinsawdd o ran ein system bwyd a diod.
Gŵr gwadd
Bydd yn bleser croesawu Rudolph Bühler ar gyfer y digwyddiad hwn. Fe yw sylfaenydd prosiect bwyd Neuadd Schwäbisch hynod lwyddiannus yn yr Almaen. (Gweler gwefan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ’crynodeb Saesneg o’r prosiect.) Erbyn hyn mae ganddynt dros 1400 o aelodau sy’n gynhyrchwyr, ac mae’r gymdeithas wedi adeiladu ei archfarchnadoedd ei hun, ffatri brosesu ac mae hyd yn oed wedi prynu castell lleol yn yr ardal, a’i droi’n ganolfan cynaliadwyedd, canolfan gynadledda a gwesty. Cychwynnodd hyn oll ym 1988 gydag 8 o gynhyrchwyr bwyd.
Y drafodaeth
Beth sydd ei angen i ail-greu economi lleol? Rôl busnesau lleol, Llywodraeth leol a Llywodraeth genedlaethol.
Beth sydd angen ei wneud yng Nghymru i hwyluso ehangu’r gallu i gynhyrchu bwyd ar lefel leol i’w fwyta’n lleol?
Sut i newid arferion prynu defnyddwyr tuag at ofyn am fwyd y gellir ei gynhyrchu’n lleol?
Pwy sy’n dod
Unigolion sy’n hyrwyddo systemau bwyd lleol yng Nghymru
Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
Cynrychiolwyr Llywodraeth leol ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Yn cynnal y digwyddiad: busnesau lleol sy’n rhan o brosiect Ein Bwyd Crug Hywel
Croeso cynnes ichi!
Gobeithio y byddwch yn gallu dod i’r digwyddiad arbennig hwn ac edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes ichi!
Gellir cofrestru yma erbyn 1 Tachwedd
Gweler hefyd:
Llythyr ar y cyd at y Llywodraeth am fwyd a diod yng Nghymru
Ymgyrch Cymru i hyrwyddo’r economi bwyd lleol a chynaliadwy
Llun gan Tim Jones, As You See It Media