Ydy bwyd lleol yn fforddiadwy?

Un ddadl gyffredin yw bod bwyd lleol yn ddrutach ac felly nid yw’n hyfyw. Mae’n bryd inni ddatbrofi’r ddadl hon.

  1. Amcangyfrifir fod 9%o’r arian sy’n cael ei werthu ar fwyd archfarchnadoedd yn cyrraedd cynhyrchwyr y cynnyrch craidd ar ffermydd. Sy’n golygu fod 91% yn mynd i’r dynion canol sy’n prynu, gwerthu a chludo’r bwyd ar hyd a lled y cyfandir. Beth pe gallwn gael gwared ar fwyafrif y dynion canol hyn? Ym Mryste, mae cwmni Fresh Range yn cystadlu’n uniongyrchol â’r archfarchnadoedd lleol wrth gyflenwi o ddrws i ddrws – ac ar brisiau hefyd – ond trwy gyflenwi cynnrych lleol yn unig. Maen nhw’n cadw’r prisiau’n isel drwy leihau nifer y chwaraewyr yn y gadwyn gyflenwi. Yn Schwäbisch Hall yn yr Almaen, wnaethon nhw adeiladu eu harchfarchnadoedd eu hunain, ac mae’r holl elw yn eiddo i ffermwyr lleol. (Gweler gwefan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig am fersiwn Saesneg o’r prosiect)

Y broblem yw, nid yw bwyd lleol yn ddrutach, ond mae prisiau bwyd a gynhyrchir ar lefel ddiwydiannol i’w gwerthu yn yr archfarchnadoedd yn artiffisial isel. Mae manwerthwyr yn gallu prynu llwythi mawr o dramor, ac nid ydynt yn talu costau go iawn cynhyrchu’r bwyd o ran y niwed amgylcheddol a achosir trwy ei gludo, fyddai yn y pen draw yn golygu cynnydd o 12% yn y gost. Efallai y bydd yr arfer o gadw prisiau bwyd archfarchnadoedd yn isel yn destun her cyn bo hir am resymau amrywiol, gan gynnwys bygwth cynaeafau oherwydd newid yn yr hinsawdd, cynnyrch drutach o Ewrop (sy’n cyflenwi rhyw 30% o’n bwyd) yn sgil Brexit, gwerth y bunt yn disgyn eto, a chynnydd mewn prisiau olew, fydd yn cynyddu costau cynhyrchu a chludo. Mae hyn oll yn ffafrio systemau cyflenwi lleol cynaliadwy.

  1. Fel defnyddwyr, beth allwn ei wneud am hyn? Gall fod yn gost-effeithiol prynu cymaint â gallwch yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr bwyd lleol, yn enwedig os byddwch yn prynu cynnyrch tymhorol. Yn aml bydd siopau fferm a siopau groser lleol yn cynnig bargen pan fydd digonedd o lysiau ffrwythau tymhorol ar gael.

Dim ond rhyw hanner y bwyd rydym yn ei fwyta sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU (gweler tudalen 5 yr adroddiad atodedig). Byddai prynu’n lleol er mwyn cynyddu’r canran hwnnw’n helpu gwella diogelwch ein bwyd, bydd yn well i’r amgylchedd ac yn cryfhau’r economi lleol. Dros amser, wrth i fwy a mwy o bobl brynu gan ffermwyr, cynhyrchwyr a manwerthwyr lleol, a llai o gynnyrch yn amlach, byddwn yn gwastraffu llai, ac felly’n sbarduno economi bwyd lleol newydd, fydd yn ei dro’n llawer mwy fforddiadwy i bawb.

Llun: Seattle City Council. Flickr, Creative Commons

 

Gweler hefyd:

Gwahoddiad i drigolion Crug Hywel: sut i ddefnyddio’r wefan hon

Ein cynllun: meithrin economi bwyd lleol newydd

Gwahoddiad i drefi a rhanbarthau eraill

Rydym yn ymateb i dri argyfwng: hinsawdd, rheolaeth leol, diboblogi

Sut gallwn ni yn nhref Crug Hywel ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd trwy ein ffordd o fwyta

Pwy ydym ni

Ein Gweledigaeth (gwaith ar y gweill)

Dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy a gwneud arian

Helpu pobl ifanc gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd

Helpu busnesau bwyd a diodydd lleol i dyfu

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.