Dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy a gwneud arian

Mae Cymru wedi cyhoeddi ei bod mewn Argyfwng Hinsawdd, ac mae pob ateb i broblemau cynhesu byd eang yn cynnwys newid radical o ran ein dulliau cynhyrchu bwyd. Mae mor bwysig cychwyn ar hyn yng Nghrug Hywel ar hyn o bryd ag unrhyw le arall trwy’r byd.

Gweler isod restr o leoliadau yng Nghymru ac ar draws y byd lle gellir dysgu am ddulliau tyfu bwyd cynhyrchiol iawn ac sy’n dda i’r hinsawdd. Mae llawer o gyfeiriadau at ‘baramaethu’ a diffinnir fel a ganlyn: “dylunio tirluniau yn fwriadol er mwyn efelychu patrymau a chysylltiadau naturiol, tra ar yr un pryd yn cynhyrchu digonedd o fwyd, ffibr ac ynni ar gyfer anghenion lleol.”

Mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth yn cynnig nifer o gyrsiau diddorol:

Ac mae Paramaethu Cymrun cynnig cyrsiau tridiau ar thema paramaethu.

Mae cwrs rhan amser ar gael i oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd ar destun paramaethu: Cynllunio eich Gardd Fwytadwy.

Mae Fferm Troed y Rhiw yng Ngorllewin Cymru’n cynnig cyrsiau ar thema cychwyn fel tyfwr neu ffermwr organig, yn ogystal â chadw gwenyn.

Mae Ragmans Farm, dros y ffin yn Swydd Gaerloyw, yn rhedeg cyrsiau paramaethu a thyfu bwyd organig. Mae’n cynnwys cyrsiau Gwneud Seidr a Chadw Gwenyn mewn ffordd Gynaliadwy.

Mae Ridgedale Permaculture o Sweden wedi cyhoeddi llawer o erthyglau a fideos ar baramaethu cymysg proffidiol, i’ch ysbrydoli yn ogystal â llyfrau a chwrs hyfforddi ar-lein i’r sawl sydd am gychwyn.

Lleolir Jardins de la Grelinette yng Nghanada, lle maen nhw’n rhannu dulliau tyfu llysiau organig ar 1.5 erw, ac sy’n dod ag incwm gwerth £60,000 yr erw ac elw o ryw 60% – sy’n ddigon i gynnal eu teulu. Maen nhw’n rhedeg cwrs i symud garddwyr marchnad at y lefel nesaf. Mae mynediad gydol oes ar gael at dros 15 awr o wersi a deunyddiau.

 

Ac yn agosach at adref….

Mae Brecon Beacons Foraging ger Aberhonddu yn cynnig cyrsiau mewn adnabod planhigion gwyllt y gellir eu bwyta a’u paratoi i’w bwyta. Hefyd mae cyrsiau i blant a hyd yn oed partïon pen-blwydd ar thema chwilota! Gellir darllen mwy am Brecon Beacons Foraging ar y wefan hon.

Mae Gardd Nant y Bedd yn Fforest Coalpit yn cynnig gweithdai ar ddulliau tyfu llysiau organig. Gellir darllen mwy am Nant Y Bedd ar y wefan hon.

Mae Gardd Lysiau Tŷ-Mawr ger Llyn Syfaddan yn cynig cyrsiau hanner diwrnod ar dyfu organig ar raddfa fach. Gellir darllen mwy am Tŷ-Mawr ar y wefan hon.

 

Llun: Ferme du Bec-Hellouin, France

 

Gweler hefyd:

Gwahoddiad i drigolion Crug Hywel: sut i ddefnyddio’r wefan hon

Ein cynllun: meithrin economi bwyd lleol newydd

Gwahoddiad i drefi a rhanbarthau eraill

Rydym yn ymateb i dri argyfwng: hinsawdd, rheolaeth leol, diboblogi

Sut gallwn ni yn nhref Crug Hywel ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd trwy ein ffordd o fwyta

Ydy bwyd lleol yn fforddiadwy?

Pwy ydym ni

Ein Gweledigaeth (gwaith ar y gweill)

Helpu pobl ifanc gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd

Helpu busnesau bwyd a diodydd lleol i dyfu

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.