Gardd Lysiau Llangors

Nod Rae Gervis, sy’n tyfu heb balu’r ardd, yw creu hwb dysgu ar gyfer cynnyrch lleol.

“Bwyd yw fy mryd i erioed,” meddai Rae Gervis, wrth ein tywys o gwmpas ei gardd lysiau, sy’n cael ei fwydo ar gompost ond heb ei falu. Ychydig dan erw sydd ganddi, ond mae’n sail ar gyfer nifer o weithgareddau busnes Rae. Mae hi’n dysgu cyrsiau garddwriaeth gynaliadwy yn yr ardd, ac mae’n rhedeg busnes arlwyo gan ddefnyddio cynnyrch a gynhyrchir yn ei gardd ei hun. Mae’n gwerthu cynnyrch ffres a jamiau a phiclau o’r siop sydd ganddi mewn ysgubor gyfagos. Hefyd mae’n cadw cynnyrch tyfwyr a chynhyrchwyr lleol erail.

“’Dwi am greu hwb ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae’n bwysig fod pobl yn gwybod eu bod yn gallu prynu cynnyrch a nwyddau lleol yma sy’n cael eu tyfu’n unol â safonau organig. ’Dwi am i gynhyrchwyr wybod eu bod yn gallu gwerthu eu cynnyrch yma ochr yn ochr ag eraill sy’n gweithio i’r un safonau a gwerthoedd. ’Dwi am i bobl ddeall ffynhonnell popeth maen nhw’n ei brynu, ac achos ac effaith cynhyrchu’r bwyd yma, a beth yw ei ôl troed,” meddai Rae.

Ymhlith pethau eraill, mae Rae yn gwerthu cwrw Left Bank Brewery ochr draw i Lyn Syfaddan, a Seidr pentref Bwlch, Siocledi a tortillas bwyd cwyr gwenyn Pennorth.

Mae Gardd Lysiau Tŷ-Mawr yn rhan o gyn busnes ffermio, safle busnes Tŷ-Mawr Lime Inc, cwmni sy’n cyflenwi deunyddiau adeiladu cynaliadwy ar lannau Llyn Syfaddan yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n lleoliad anghysbell braidd, ac mae Rae’n cyfaddef y bu’n rhaid iddi arallgyfeirio er mwyn goroesi, ond mae’n mynnu y gellir cynhyrchu bwyd yn ôl egwyddorion cynaliadwy heb balu’r tir ar raddfa llawer uwch, a gall fod yn hynod lwyddiannus mewn lleoliad mwy prysur.

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae dull garddio Rae’n golygu peidio torri’r pridd. Mae angen rhoi haen drwchus o gompost naturiol ar ben y gwelyau llysiau, ac wedyn plannu’r hadau neu blanhigion ifanc yn y compost yn uniongyrchol. Trwy beidio palu’r tir, mae’r carbon yn aros yn y pridd, ac mae’r compost ar ei ben yn ei ategu – sy’n golygu gollwng llai o garbon i’r awyrgylch. Hefyd mae’n golygu nad yw’n ymyrryd â’r micro-organebau amrywiol, sydd â gofynion ocsigen gwahanol, a chaniatáu ailgylchu maetholion a charbon trwy’r pridd i gyd.

Mantais arall y system dim palu, yw peidio ymyrryd ar hadau chwyn cwsg – sy’n arwain at lai o chwyn. “Wrth balu,” yn ôl Rae, “bydd gennych lwyth o chwyn, oherwydd daw’r hadau i’r wyneb, a byddant yn agored i’r golau ac felly’n egino. Mae llawer o’r bobl sy’n dod ataf ar weithdai’n ofni tyfu eu bwyd eu hunain oherwydd y byddai’n golygu cymaint o waith caled. Ond pan maen nhw’n gweld y dechneg hon, maen nhw’n deall ei fod yn lleihau’r ymdrech sydd ei angen.”

Defnyddir proses eplesu i gadw’r llysiau – proses arall sy’n rhan o weithdai Tŷ-Mawr, ynghyd â chyrsiau eraill megis chwilota am berlysiau gwyllt i greu gin botanegol. Ac yn ogystal, cynhelir nosweithiau blasu gwin, nosweithiau coginio bwyd Eidalaidd, gellir gwersylla ar lannau’r llyn, a gellir casglu blychau llysiau, a hwb bwyd Gardd Lysiau Rae – dewis amrywiol sy’n cymharu â’r ardd lle cynhyrchir popeth.

Cymerwch gip ar wefan Llangorse Kitchen Garden.

Erthygl a llun gan Tim Jones, As You See It Media

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.