Gerddi Nant y Bedd

Gall llysiau cartref newid ein ffordd o fwyta a siopa, yn ôl garddwr lleol

Daw mwyafrif y llysiau a ffrwythau sy’n cael eu bwyta yng Nghrug Hywel o dramor neu fannau eraill ar draws y DU. Rydym yn prynu gan archfarchnadoedd, bwytai neu siopau lle mae cyfanwerthwyr yn cyflenwi’r cynnyrch, sy’n cludo’r bwyd a dyfir ar raddfa ddiwydiannol o’u mannau tyfu. Ond, ai dyna’r ffordd orau i fwyta’n 5 bob dydd? Mae cwpl lleol yn annog pobl i ‘dyfu eu hunain’ er mwyn cael profiad mwy blasus, ac iachach a mwy iach o safbwynt yr amgylchedd.

“Mae bywydau pobl yn brysur,” meddai Sue Mabberley, “felly mae mynd i’r archfarchnad yn gyfleus. Ond unwaith mae pobl yn dechrau tyfu rhai o’u bwydydd, yn fuan iawn maen nhw’n sylweddoli fod y cynnyrch yn llawer mwy ffres a blasus ac yn llawn maeth. Ac nid ydynt yn gorfod treulio’u bywydau’n tyfu; gellir ei addasu at yr amser sbâr sydd ganddynt; gellir dechrau trwy dyfu ychydig o letys mewn pot ar sil y ffenest, neu gallwch wneud llawer mwy.”

Sue ac Ian ei gŵr sy’n rhedeg Gardd Nant y Bedd, yn Fforest Coal Pit, 6 milltir o Grug Hywel fel yr hed y frân, 10 milltir ar hyd y ffyrdd. Maen nhw’n un o Bartneriaid Gerddi’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, yr unig un ym Mannau Brycheiniog. Maen nhw wedi treulio rhan helaeth o’u bywydau’n byw ac yn gweithio yn ardal y Parc Cenedlaethol – roedd hi’n Brif Warden y parc, ac roedd Ian yn gweithio i hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy. Bellach fferm organig sydd ganddynt yn Nant y Bedd ac maen nhw’n cynnig gweithdai i’r sawl sydd am ddysgu tyfu eu cynnyrch eu hunain.

Os ewch i ymweld â Gerddi Nant y Bedd, bydd y cathod, a hwyaid sy’n bwyta gwlithod yn eich diddanu, ac efallai y gwelwch gnocell y coed ar y bwrdd adar. Mae’r 6.5 erw o gerddi a choetir, sydd yng nghanol coedwig, yn cynnwys gwelyau lle tyfir y llysiau iachus ochr yn ochr â blodau addas, a gallwch ddysgu am arddio organig heb orfod palu’r ardd, a dull compostio naturiol Sue.

“Mae’r llysiau cartref yn llawer mwy ffres ac yn llawn maeth o’u cymharu â’r hyn sydd ar gael yn yr archfarchnad,” meddai Sue. “Er enghraifft, nid yw salad yr archfarchnad yn edrych yn ffres pan fyddwch yn ei brynu, ac o fewn cwpl o ddyddiau, bydd yn y bin. Os prynwch sbigoglys, y tyb yw eich bod yn cael yr haearn a’r maetholion sydd ei angen, ond mae gwerth maethol y cynnyrch a dyfir yn yr ardd yn llawer uwch.” Mae Ian yn cytuno: “Mae’n bur debyg y bydd llysiau’r archfarchnad neu siop sy’n prynu gan gyfanwerthwr wedi teithio milltiroedd, ac felly does dim blas arnynt. Os gallwch dyfu eich llysiau’ch hunan, neu os prynwch lysiau hynod ffres, yn lleol iawn, bydd cymaint mwy o flas arnynt.”

Ac ym marn Ian mae angen newid diwylliannol o safbwynt ein ffordd o fwyta llysiau. Mae angen inni fwyta’n ôl y tymhorau; a chael cynhwysion pan maen nhw’n barod yn y wlad hon. Ac mae’n credu y gall pwysau gan ddefnyddwyr roi pwysau ar siopau i gadw bwydydd mwy lleol: “Mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o filltiroedd bwyd, ac olion traed carbon ein bwyd. Unwaith maen nhw’n dechrau bwyta bwydydd mwy ffres, byddan nhw’n dechrau gofyn cwestiynau ynghylch pam nad yw bwyd yr archfarchnad neu fwyd sydd wedi teithio yma trwy gyfanwerthwr, yn blasu cystal. Wedyn hwyrach y bydd pwysau ar y siopau i newid y cynnyrch ar eu silffoedd.”

Os hoffech ddysgu mwy am arddio, neu os am fynd ar un o weithdai Sue gellir dysgu mwy ar wefan Nant y Bedd.

Erthygl a llun gan Tim Jones, As You See It Media

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.