Ein Cynllun: meithrin economi bwyd lleol newydd

Ysbrydolwyd ein prosiect gan brosiect bwyd Schwäbisch Hall yn yr Almaen.

(Gweler gwefan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer crynodeb o’r prosiect yn Saesneg.) Cychwynnwyd y prosiect gan lond llaw o ffermwyr ym 1988 ac mae wedi tyfu’n anferth ers hynny, gyda mwy na 1500 o fusnesau’n rhan ohono. Aeth y ffermwyr ati i drechu problem yr archfarchnadoedd, trwy gychwyn eu cadwyn eu hunain, oedd yn gysylltiedig â neuaddau bwyd uchel eu safon. Bellach mae’r gymdeithas yn berchen ar ac yn rhedeg ffatri prosesu cig enfawr sy’n cynhyrchu bwydydd amrywiol a brosesir o foch sy’n cael eu magu gan ffermwyr lleol. Mae’r ffermwyr wedi sefydlu elusen i brynu castell y rhanbarth, sy’n cael ei rhedeg fel Gwesty a chanolfan cynadledda erbyn hyn. Mae pwyslais y sefydliad ar gynnyrch organig, a gweithio i sicrhau pris teg ar gyfer yr holl gynnyrch, a meithrin capasiti marchnata, mae’n gweithio i wella incwm i ffermwyr ac yn hyrwyddo datblygiad rhanbarthol.

Yn debyg i’r prosiect Almaeneg, mae’n rhaid inni feithrin economi bwyd lleol newydd, a ddifrodwyd gan system cynhyrchu bwyd ar lefel ddiwydiannol a’r archfarchnadoedd.

Yn debyg i’r Almaen, mae’r broses yn cymryd AMSER HIR. Mae’n rhaid inni gynyddu cyflenwad a galw lleol fesul dipyn. Trwy gyfweld â phob busnes bwyd yn yr ardal ar gyfer y wefan hon, rydym eisoes wedi darganfod cynnyrch newydd y gall tyfwyr lleol eu gwerthu’n lleol ar hyn o bryd – byddwn yn cyhoeddi erthygl ar yr holl gyfleoedd dros yr wythnosau nesaf, ac wrth inni gasglu gwybodaeth am gefnogaeth i fusnesau bwyd tyfu. Rydym wedi coladu gwybodaeth hefyd ar gefnogaeth i bobl ifanc a byddwn yn ymweld â’r ysgolion i hyrwyddo’r agwedd hon. Byddwn yn dosbarthu gwahoddiadau yn yr ardal leol i bobl ddod yn rhan o’r broses o dyfu’r economi bwyd lleol.

Y cam nesaf, trwy gydweithio, fydd lobïo ar gyfer adnoddau i’n helpu ehangu. Os gallwn ddangos ein bod yn ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd, gallwn fod yn eofn.

Dim ond cychwyn yw Crug Hywel: rydym am gynnwys ardal Bannau Brycheiniog a thu hwnt

Yng Nghrug Hywel rydym yn cychwyn, er mwyn profi’r fenter, ac wedi hynny byddwn yn estyn gwahoddiad i gymunedau eraill ardal Bannau Brycheiniog (ac ar draws Cymru yn y pen draw) i fabwysiadu cysyniad Ein Bwyd i hyrwyddo bwyd a gynhyrchir yn lleol i bobl leol. Mae holl agweddau ar brosiect Crug Hywel yn agored – hyd yn oed y wefan hon, gall Ein Bwyd Crug Hywel ddod yn Ein Bwyd Unrhyw le, gan gychwyn yfory, pan fyddwn yn mynd ati i drefnu hyrwyddo’r cysyniad mewn trefi eraill ar draws Bannau Brycheiniog.

Llun: JackPeasePhotograph. Flickr, Creative Commons

 

Gweler hefyd:

Gwahoddiad i drigolion Crug Hywel: sut i ddefnyddio’r wefan hon

Gwahoddiad i drefi a rhanbarthau eraill

Rydym yn ymateb i dri argyfwng: hinsawdd, rheolaeth leol, diboblogi

Sut gallwn ni yn nhref Crug Hywel ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd trwy ein ffordd o fwyta

Ydy bwyd lleol yn fforddiadwy?

Pwy ydym ni

Ein Gweledigaeth (gwaith ar y gweill)

Dysgu sut i dyfu bwyd mewn ffordd gynaliadwy a gwneud arian

Helpu pobl ifanc gychwyn ym maes cynhyrchu bwyd

Helpu busnesau bwyd a diodydd lleol i dyfu

 

Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.