Thursday January 28th, 2021

Mae dulliau ffermio cymysg yn “fwy o hwyl”

henbant

Paramaethu Henbant yn creu incwm i’r teulu ac yn magu cydnerthedd y fferm.

“Yn ôl tybiaeth gyffredin ac anghywir, mae’n rhaid i’r broses o gynhyrchu bwyd fod yn beth negyddol o safbwynt amgylcheddol. Fodd bynnag, gall amaethyddiaeth atgynhyrchiol ac arfer agwedd gyfannol a seilir ar baramaethu arwain at systemau cynhyrchu bwyd sy’n helpu gyda’r problemau presennol o safbwynt ecolegol a phroblemau eraill.”

Dyna neges Matt Swarbrick, un o gyd berchnogion Fferm Henbant ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Prynodd Matt a’i bartner, Jenny, y fferm ddiffaith yn 2012. Nid oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol ym maes ffermio – gwaith Matt oedd creu ffilmiau dogfen, gyda chefndir ym maes ecoleg; tra roedd Jenny yn gweithio fel hydrolegydd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd – maen nhw wedi trawsnewid Henbant yn enghraifft lewyrchus sy’n dangos sut gall dulliau paramaethu lwyddo o ran amaethyddiaeth atgynhyrchiol. Maen nhw’n profi y gall ffermwyr tyfu cynnyrch ffres, iachus, sicrhau incwm da i’w teulu, a gwella a chyfoethogi ecosystem y fferm ar yr un pryd â datblygu’r gymuned leol, a’i mwynhau hefyd.

Ffotograffiaeth gan Gwynn Jones

“Ffermio yw gwaith pwysicaf y byd, dyna’r ffordd y mae’r mwyafrif ohonom yn rhyngweithio â’r amgylchedd o’n cwmpas: mae pob un ohonom yn bwyta. Mae’n ddiddorol nodi hefyd taw yn aml iawn ffermio yw un o’r swyddi gyda’r cyflog isaf trwy’r byd. Mae cyfraddau hunanladdiad uchel hefyd yn gysylltiedig â’r gwaith hefyd, ond dylai fod yn swydd y mae pawb yn ymfalchïo ynddi, neu’n teimlo’n ffodus neu ei fod yn fraint i ffermio, mae’n swydd mor hardd a gwych,” meddai Matt.

“Ar hyn o bryd, un o’r arferion mwyaf dinistriol yw trin y tir. Roeddem yn awyddus i gynhyrchu bwyd heb golli pridd. Roeddem am greu man tyfu cyfoethog o safbwynt ecolegol, sy’n meithrin y pridd, lle gallwn gynhyrchu llysiau a bwydo’r gymuned leol,” dywed Matt.

Yn ddiweddar mae Matt a Jenny wedi sefydlu gardd farchnad dim palu er mwyn tyfu llysiau, sy’n cynnwys amrediad eang o rywogaethau yng nghanol rhesi o goed sy’n cyfoethogi’r gallu i gynhyrchu trwy gysgodi’r cnydau o’r gwynt a denu peillwyr i’r safle. Hefyd maen nhw’n cadw rhywogaethau defaid cynhenid, sy’n cynhyrchu cig oen, cig dafad a gwlân; ieir dodwy sy’n byw ar y caeau; a gwartheg ar gyfer cig eidion a llaeth. Mae’r da byw nid yn unig yn darparu bwyd sy’n ddwys o safbwynt maetholion, ond maent hefyd yn pori mewn ffordd sy’n cyfoethogi’r tir ac yn dal carbon. Mae’r moch yn ailgylchu gwastraff ac yn “dractorau byw” sy’n rhan allweddol o’u dulliau rheoli’r coetiroedd na fyddai’n bosib gydag offer a pheiriannau confensiynol.

Er bod y fferm yn ymestyn i 80 erw, coetir a thir pori garw yw tri chwarter y tir, ac yn ôl Matt, mae llai na hanner y tir yn ‘gynhyrchiol’ o safbwynt ffermio confensiynol. Er hynny, mae cael coed ar y tir yn hynod werthfawr yn ei farn ef: “Maen nhw’n rhannu’r tir ac yn cynnig lloches a chysgod, yn galluogi cadw mwy o leithder ac yn dal carbon. Trwy ffurfio caeau bychan gyda’r amaethgoedwigaeth, mae’r pori’n gwella’n arw a gall y coed fod yn fwy gwerthfawr na’r da byw.”

Mae Matt yn plannu’r coed o gwmpas y fferm drwy blannu lonydd coed ar dir pori. Y gobaith yw y bydd y manteision tymor hir o gynyddu bioamrywiaeth, pridd mwy cyfoethog, a’r gallu i gadw dŵr yn well yn fwy buddiol na cholli’r tir pori a thyfu yn y tymor byr, ar y cyd â chynnydd yn y llwyth gwaith o safbwynt gweithio o gwmpas y coed. Ei ddadl yw bod y manteision hyn yn cynyddu cydnerthedd y fferm – ansawdd sydd yn ddiffygiol ar ffermydd confensiynol, ac sydd ym marn Matt, yn fwyfwy bregus. “Os cewch sychder am nifer o flynyddoedd, neu os bydd prisiau bwyd yn codi, dim ond hyn a hyn o broblemau gwahanol sydd eu hangen megis diffyg amrywiaeth, neu fewnbwn uchel i systemau ffermio, a byddan nhw’n dechrau chwalu,” yn ôl Matt.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr Prydain yn dibynnu ar gymhorthdal i gefnogi cyfran helaeth o’u hincwm. Fodd bynnag, mae llawer yn ofni y daw’r cymorth hanfodol yma i ben wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Matt yn credu, heb y system cymorthdaliadau presennol, y bydd y mwyafrif o ffermydd Prydain yn dioddef – oni bai eu bod yn gallu troi at arferion amgen sy’n golygu gweithio gyda natur: “Yn fy marn i, trwy naddu ar y system (cymhorthdal) honno, mwyaf yr angen ichi weithio gyda natur, a mwyaf yr angen i ystyried yr angen i arallgyfeirio, a gwneud pethau mwy clyfar.”

Er bod Henbant yn derbyn ychydig o gymhorthdal, mae’n hyderus y gall parhau ar ei drywydd presennol heb y cymorth ychwanegol: “Y broblem yw, bod costau allanol yn cynnal ein holl fwyd confensiynol. Dros y deng mlynedd nesaf, bydd yn rhaid dechrau cynnwys y costau hynny yn y system o gynhyrchu bwyd eto. Yn fy marn i felly, y peth gorau yw bod ar flaen y gad. Yn y pen draw, does dim dewis arall nag oes? Gellir cwestiynu a yw’r system ffermio sydd gen i mewn golwg yn gallu bwydo’r byd, ond a yw’r system ffermio gyfredol yn gallu bwydo’r byd? Wel, i fod yn hollol onest – does dim gobaith o hynny. Does dim dewis ond gwneud pethau mewn ffordd wahanol.”

Amcangyfrif Matt yw eu bod yn gwneud rhyw £22,000 y flwyddyn o werthu cynnyrch, megis llysiau, wyau a chig o’r gwartheg a defaid sy’n pori 100% ar laswellt. Mae’r safle gwersylla a ‘glampio’ sydd ar gael ar y safle hefyd yn cynnal gweddill eu hincwm. “Mewn gwirionedd, twristiaeth sy’n sybsideiddio’r fferm.” Er hynny, yn ôl Matt mae’r incwm ychwanegol sy’n deillio o dwristiaeth yn cynnig mwy na sefydlogrwydd ariannol: “’Dwi’n credu bod angen i bawb glywed côr y bore bach bob yn ail flwyddyn? Os bydd pobl yn treulio amser yng nghefn gwlad ac yn gwrando ar y sŵn anhygoel hwnnw, arafu ychydig a meddwl am yr hyn sy’n bwysig – bydd pob un ohonom yn elwa o ganlyniad.”

I Matt, nod ei ffordd o ffermio yw ychwanegu amrywiaeth ac elfen o fentro i’r system. Er ei fod yn cydnabod y gall fod yn fwy dwys o safbwynt gwaith o’i gymharu â dulliau ffermio dwys confensiynol, mae hyn yn gyfle o’i safbwynt ef i ddarparu gwaith a chynyddu llesiant.

“Mae cymaint o fuddion ond oes – trwy arallgyfeirio’r hyn a wneir ar y fferm mae’n arwain at gymaint o fuddion ac mae ategu’r elfennau cynhyrchu, ac yn creu ecosystem ddefnyddiol sy’n cynhyrchu bwyd – a gellir ‘ychwanegu’ y pethau hyn ar ffermydd mawr yn yr un ffordd â ffermydd bach. Ond pam byddech chi’n cyflogi pobl eraill neu’n creu gofod arall i bobl ddod i’r fferm … gallwch gynnig gwaith llawer mwy pwrpasol i bobl sy’n delio gyda hanner y problemau iechyd meddwl, pob math o bethau a dweud y gwir, trwy gynnwys pobl eto yn y broses o gynhyrchu bwyd.”

Felly, beth yw neges Matt i eraill sydd am fod ar flaen y gad efallai?

“Y cam cyntaf yw magu cyd-destun o gwmpas pam rydych yn gwneud hyn, a buaswn yn annog ffermwyr i ystyried eu rhesymau dros wneud hyn… gofyn i ffermwyr gymryd cam yn ôl ac ystyried y fferm fel ecosystem, neu agor eu llygaid yn llawn a gweld yr hyn sy’n bosib ar eu fferm.”

“Buaswn i’n argymell sefydlu gardd farchnad dim palu ar eich fferm? Yn sicr – mae’n rhaid cael yr awydd i’w wneud – mae’n golygu llawer o waith, a byddwch yn dysgu llawer iawn ar y ffordd. Ond y peth gorau yw, bob bore Iau byddwch yn mynd allan i gasglu bwyd atgynhyrchiol bendigedig, fydd yn cael ei ddosbarthu i’n holl gymdogion – teimlad hollol wyrthiol yw hwnnw.”

Gellir dysgu mwy am ddulliau ffermio Matt a Jenny yma: https://www.henbant.org.

 

Erthygl gan Tim Jones ac Imogen Astely-Jones

 

Categorïau: Straeon llwyddiant.
Mae ' r wefan hon yn defnyddio cwcis gan drydydd partïon i ychwanegu ymarferoldeb ac yn ein helpu i wella eich profiad. Drwy ddefnyddio ' r wefan hon rydych yn cydsynio i ' n defnydd o gwcis.