{"id":1248,"date":"2021-01-28T12:30:07","date_gmt":"2021-01-28T12:30:07","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/?p=1248"},"modified":"2025-02-21T08:12:58","modified_gmt":"2025-02-21T08:12:58","slug":"henbant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/henbant\/","title":{"rendered":"Mae dulliau ffermio cymysg yn &#8220;fwy o hwyl&#8221;"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Paramaethu Henbant yn creu incwm i\u2019r teulu ac yn magu cydnerthedd y fferm.<\/strong><\/h2>\n<p>\u201cYn \u00f4l tybiaeth gyffredin ac anghywir, mae\u2019n rhaid i\u2019r broses o gynhyrchu bwyd fod yn beth negyddol o safbwynt amgylcheddol. Fodd bynnag, gall amaethyddiaeth atgynhyrchiol ac arfer agwedd gyfannol a seilir ar baramaethu arwain at systemau cynhyrchu bwyd sy\u2019n helpu gyda\u2019r problemau presennol o safbwynt ecolegol a phroblemau eraill.\u201d<\/p>\n<p>Dyna neges Matt Swarbrick, un o gyd berchnogion Fferm Henbant ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Prynodd Matt a\u2019i bartner, Jenny, y fferm ddiffaith yn 2012. Nid oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol ym maes ffermio &#8211; gwaith Matt oedd creu ffilmiau dogfen, gyda chefndir ym maes ecoleg; tra roedd Jenny yn gweithio fel hydrolegydd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd &#8211; maen nhw wedi trawsnewid Henbant yn enghraifft lewyrchus sy\u2019n dangos sut gall dulliau paramaethu lwyddo o ran amaethyddiaeth atgynhyrchiol. Maen nhw\u2019n profi y gall ffermwyr tyfu cynnyrch ffres, iachus, sicrhau incwm da i\u2019w teulu, a gwella a chyfoethogi ecosystem y fferm ar yr un pryd \u00e2 datblygu\u2019r gymuned leol, a\u2019i mwynhau hefyd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1251\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 900px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1251\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/sheep-agroforestry-rows-copy-300x171.jpeg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"512\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/sheep-agroforestry-rows-copy-300x171.jpeg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/11\/sheep-agroforestry-rows-copy.jpeg 640w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Ffotograffiaeth gan Gwynn Jones<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>\u201cFfermio yw gwaith pwysicaf y byd, dyna\u2019r ffordd y mae\u2019r mwyafrif ohonom yn rhyngweithio \u00e2\u2019r amgylchedd o\u2019n cwmpas: mae pob un ohonom yn bwyta. Mae\u2019n ddiddorol nodi hefyd taw yn aml iawn ffermio yw un o\u2019r swyddi gyda\u2019r cyflog isaf trwy\u2019r byd. Mae cyfraddau hunanladdiad uchel hefyd yn gysylltiedig \u00e2\u2019r gwaith hefyd, ond dylai fod yn swydd y mae pawb yn ymfalch\u00efo ynddi, neu\u2019n teimlo\u2019n ffodus neu ei fod yn fraint i ffermio, mae\u2019n swydd mor hardd a gwych,\u201d meddai Matt.<\/p>\n<p>\u201cAr hyn o bryd, un o\u2019r arferion mwyaf dinistriol yw trin y tir. Roeddem yn awyddus i gynhyrchu bwyd heb golli pridd. Roeddem am greu man tyfu cyfoethog o safbwynt ecolegol, sy\u2019n meithrin y pridd, lle gallwn gynhyrchu llysiau a bwydo\u2019r gymuned leol,\u201d dywed Matt.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar mae Matt a Jenny wedi sefydlu gardd farchnad dim palu er mwyn tyfu llysiau, sy\u2019n cynnwys amrediad eang o rywogaethau yng nghanol rhesi o goed sy\u2019n cyfoethogi\u2019r gallu i gynhyrchu trwy gysgodi\u2019r cnydau o\u2019r gwynt a denu peillwyr i\u2019r safle. Hefyd maen nhw\u2019n cadw rhywogaethau defaid cynhenid, sy\u2019n cynhyrchu cig oen, cig dafad a gwl\u00e2n; ieir dodwy sy\u2019n byw ar y caeau; a gwartheg ar gyfer cig eidion a llaeth. Mae\u2019r da byw nid yn unig yn darparu bwyd sy\u2019n ddwys o safbwynt maetholion, ond maent hefyd yn pori mewn ffordd sy\u2019n cyfoethogi\u2019r tir ac yn dal carbon. Mae\u2019r moch yn ailgylchu gwastraff ac yn \u201cdractorau byw\u201d sy\u2019n rhan allweddol o\u2019u dulliau rheoli\u2019r coetiroedd na fyddai\u2019n bosib gydag offer a pheiriannau confensiynol.<\/p>\n<p>Er bod y fferm yn ymestyn i 80 erw, coetir a thir pori garw yw tri chwarter y tir, ac yn \u00f4l Matt, mae llai na hanner y tir yn \u2018gynhyrchiol\u2019 o safbwynt ffermio confensiynol. Er hynny, mae cael coed ar y tir yn hynod werthfawr yn ei farn ef: \u201cMaen nhw\u2019n rhannu\u2019r tir ac yn cynnig lloches a chysgod, yn galluogi cadw mwy o leithder ac yn dal carbon. Trwy ffurfio caeau bychan gyda\u2019r amaethgoedwigaeth, mae\u2019r pori\u2019n gwella\u2019n arw a gall y coed fod yn fwy gwerthfawr na\u2019r da byw.\u201d<\/p>\n<p>Mae Matt yn plannu\u2019r coed o gwmpas y fferm drwy blannu lonydd coed ar dir pori. Y gobaith yw y bydd y manteision tymor hir o gynyddu bioamrywiaeth, pridd mwy cyfoethog, a\u2019r gallu i gadw d\u0175r yn well yn fwy buddiol na cholli\u2019r tir pori a thyfu yn y tymor byr, ar y cyd \u00e2 chynnydd yn y llwyth gwaith o safbwynt gweithio o gwmpas y coed. Ei ddadl yw bod y manteision hyn yn cynyddu cydnerthedd y fferm &#8211; ansawdd sydd yn ddiffygiol ar ffermydd confensiynol, ac sydd ym marn Matt, yn fwyfwy bregus. \u201cOs cewch sychder am nifer o flynyddoedd, neu os bydd prisiau bwyd yn codi, dim ond hyn a hyn o broblemau gwahanol sydd eu hangen megis diffyg amrywiaeth, neu fewnbwn uchel i systemau ffermio, a byddan nhw\u2019n dechrau chwalu,\u201d yn \u00f4l Matt.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o ffermwyr Prydain yn dibynnu ar gymhorthdal i gefnogi cyfran helaeth o\u2019u hincwm. Fodd bynnag, mae llawer yn ofni y daw\u2019r cymorth hanfodol yma i ben wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Matt yn credu, heb y system cymorthdaliadau presennol, y bydd y mwyafrif o ffermydd Prydain yn dioddef &#8211; oni bai eu bod yn gallu troi at arferion amgen sy\u2019n golygu gweithio gyda natur: \u201cYn fy marn i, trwy naddu ar y system (cymhorthdal) honno, mwyaf yr angen ichi weithio gyda natur, a mwyaf yr angen i ystyried yr angen i arallgyfeirio, a gwneud pethau mwy clyfar.\u201d<\/p>\n<p>Er bod Henbant yn derbyn ychydig o gymhorthdal, mae\u2019n hyderus y gall parhau ar ei drywydd presennol heb y cymorth ychwanegol: \u201cY broblem yw, bod costau allanol yn cynnal ein holl fwyd confensiynol. Dros y deng mlynedd nesaf, bydd yn rhaid dechrau cynnwys y costau hynny yn y system o gynhyrchu bwyd eto. Yn fy marn i felly, y peth gorau yw bod ar flaen y gad. Yn y pen draw, does dim dewis arall nag oes? Gellir cwestiynu a yw\u2019r system ffermio sydd gen i mewn golwg yn gallu bwydo\u2019r byd, ond a yw\u2019r system ffermio gyfredol yn gallu bwydo\u2019r byd? Wel, i fod yn hollol onest &#8211; does dim gobaith o hynny. Does dim dewis ond gwneud pethau mewn ffordd wahanol.\u201d<\/p>\n<p>Amcangyfrif Matt yw eu bod yn gwneud rhyw \u00a322,000 y flwyddyn o werthu cynnyrch, megis llysiau, wyau a chig o\u2019r gwartheg a defaid sy\u2019n pori 100% ar laswellt. Mae\u2019r safle gwersylla a \u2018glampio\u2019 sydd ar gael ar y safle hefyd yn cynnal gweddill eu hincwm. \u201cMewn gwirionedd, twristiaeth sy\u2019n sybsideiddio\u2019r fferm.\u201d Er hynny, yn \u00f4l Matt mae\u2019r incwm ychwanegol sy\u2019n deillio o dwristiaeth yn cynnig mwy na sefydlogrwydd ariannol: \u201c\u2019Dwi\u2019n credu bod angen i bawb glywed c\u00f4r y bore bach bob yn ail flwyddyn? Os bydd pobl yn treulio amser yng nghefn gwlad ac yn gwrando ar y s\u0175n anhygoel hwnnw, arafu ychydig a meddwl am yr hyn sy\u2019n bwysig &#8211; bydd pob un ohonom yn elwa o ganlyniad.\u201d<\/p>\n<p>I Matt, nod ei ffordd o ffermio yw ychwanegu amrywiaeth ac elfen o fentro i\u2019r system. Er ei fod yn cydnabod y gall fod yn fwy dwys o safbwynt gwaith o\u2019i gymharu \u00e2 dulliau ffermio dwys confensiynol, mae hyn yn gyfle o\u2019i safbwynt ef i ddarparu gwaith a chynyddu llesiant.<\/p>\n<p>\u201cMae cymaint o fuddion ond oes &#8211; trwy arallgyfeirio\u2019r hyn a wneir ar y fferm mae\u2019n arwain at gymaint o fuddion ac mae ategu\u2019r elfennau cynhyrchu, ac yn creu ecosystem ddefnyddiol sy\u2019n cynhyrchu bwyd &#8211; a gellir \u2018ychwanegu\u2019 y pethau hyn ar ffermydd mawr yn yr un ffordd \u00e2 ffermydd bach. Ond pam byddech chi\u2019n cyflogi pobl eraill neu\u2019n creu gofod arall i bobl ddod i\u2019r fferm \u2026 gallwch gynnig gwaith llawer mwy pwrpasol i bobl sy\u2019n delio gyda hanner y problemau iechyd meddwl, pob math o bethau a dweud y gwir, trwy gynnwys pobl eto yn y broses o gynhyrchu bwyd.\u201d<\/p>\n<p>Felly, beth yw neges Matt i eraill sydd am fod ar flaen y gad efallai?<\/p>\n<p>\u201cY cam cyntaf yw magu cyd-destun o gwmpas pam rydych yn gwneud hyn, a buaswn yn annog ffermwyr i ystyried eu rhesymau dros wneud hyn\u2026 gofyn i ffermwyr gymryd cam yn \u00f4l ac ystyried y fferm fel ecosystem, neu agor eu llygaid yn llawn a gweld yr hyn sy\u2019n bosib ar eu fferm.\u201d<\/p>\n<p>\u201cBuaswn i\u2019n argymell sefydlu gardd farchnad dim palu ar eich fferm? Yn sicr &#8211; mae\u2019n rhaid cael yr awydd i\u2019w wneud &#8211; mae\u2019n golygu llawer o waith, a byddwch yn dysgu llawer iawn ar y ffordd. Ond y peth gorau yw, bob bore Iau byddwch yn mynd allan i gasglu bwyd atgynhyrchiol bendigedig, fydd yn cael ei ddosbarthu i\u2019n holl gymdogion &#8211; teimlad hollol wyrthiol yw hwnnw.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy am ddulliau ffermio Matt a Jenny yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.henbant.org\/cymreg\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">https:\/\/www.henbant.org<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Erthygl gan Tim Jones ac Imogen Astely-Jones<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Paramaethu Henbant yn creu incwm i\u2019r teulu ac yn magu cydnerthedd y fferm.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":1403,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-1248","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-small-enterprise-success-stories"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1248","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1248"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1248\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4130,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1248\/revisions\/4130"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1403"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1248"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1248"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1248"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}