{"id":1652,"date":"2021-01-26T17:50:55","date_gmt":"2021-01-26T17:50:55","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/?p=1652"},"modified":"2025-02-21T08:13:19","modified_gmt":"2025-02-21T08:13:19","slug":"celebrity-farmer-and-writer-is-helping-farming-to-bounce-back","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/celebrity-farmer-and-writer-is-helping-farming-to-bounce-back\/","title":{"rendered":"Ffermwr a llenor enwog yn helpu rhoi \u2018sbonc yn \u00f4l\u2019 ym mywyd ffermio."},"content":{"rendered":"<p><strong>James Rebanks yn awyddus i ledu\u2019r gair am amaethyddiaeth gynaliadwy, atgynhyrchiol.<\/strong><\/p>\n<p>Mae ffermio yng ngwaed James Rebanks, neu dan ei deitl arall \u2018The Cumbrian Shepherd\u2019. Mae\u2019r tir o gwmpas Fferm Racy Ghyll yn Nyffryn Matterdale yn Ardal y Llynnoedd yn eiddo i deulu Rebanks ers dros chwe chan mlynedd. Ond nid yw wedi cael ei ffermio erioed yn yr un dull \u00e2 heddiw: sef trwy ddull atgynhyrchiol, sy\u2019n gofalu am y bywyd gwyllt ac sy\u2019n ail-greu\u2019r ecosystemau a niweidiwyd gan y dulliau dwys a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Mae James wedi magu enw fel llenor ac ym maes hyrwyddo dulliau amaethu cynaliadwy sy\u2019n gyfrifol am adfer ei dir.<\/p>\n<p>Buches gwartheg Belted Galloway sydd gan y fferm 185 erw, ynghyd \u00e2 2 foch a 450 o ddefaid Herdwick. Mae\u2019r brid traddodiadol, sydd mae\u2019n debyg yn gymysgedd o ddefaid Prydeinig a Llychlynnig cynhenid, yn ddigon gwydn i wrthsefyll gaeaf caled ar ucheldiroedd Cumbria. Caiff praidd James ei \u2018gludo\u2019 i\u2019r mynydd sy\u2019n eiddo iddo trwy ryw wybodaeth reddfol sy\u2019n cael ei throsglwyddo rhwng y defaid a\u2019r \u0175yn dros y cenedlaethau.<\/p>\n<p>Er gwaethaf honiad James taw \u2018pobl ddibwys\u2019 yw ei deulu ac felly y bu erioed, mae wedi dod yn boblogaidd iawn fel llenor. Llwyddodd ei lyfr cyntaf, \u2018The Shepherd\u2019s Life\u2019 i gyrraedd rhestr llyfrau mwyaf poblogaidd, gan ddwyn sylw at enw Rebanks yn y byd llenyddol ac amaethyddol. Bedair blynedd yn ddiweddarach, cyhoeddwyd \u2018English Pastoral\u2019. Hanes y newidiadau i amaethu ym Mhrydain yn ystod oes James yw hwn, ac mae\u2019n defnyddio ei brofiadau personol o ffermio gyda\u2019i dad a\u2019i daid, a\u2019r newidiadau mawr a wnaeth er mwyn diogelu ei fferm a\u2019i famwlad.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1670\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 900px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1670\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/The-farm-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-279x300.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"968\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/The-farm-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-279x300.jpg 279w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/The-farm-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-952x1024.jpg 952w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/The-farm-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-768x826.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/The-farm-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books.jpg 1366w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Llun gan: Stuart Simpson Penguin Books<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Gan ddechrau gyda\u2019i daid, mae James yn adrodd hanes sut y bu\u2019n rhaid i fferm draddodiadol a seilir ar ddulliau ffermio cylchdro cymysg frwydro i ddelio gyda gostyngiad enfawr ym mhrisiau bwyd a mwy o ddefnydd o dechnoleg yn sgil yr Ail Ryfel Byd trwy ddulliau amaethu dwys. Erbyn diwedd y nawdegau, tir pori a gwneud silwair oedd y fferm yn bennaf. Yn \u00f4l James, doedd ganddo ddim dewis arall ond dilyn y ffasiwn a\u2019r wyddoniaeth: \u201cDoedden ni ddim yn gwybod digon i ddweud na nac i ddadlau yn ei erbyn\u201d meddai, \u201cac nid wyf yn sicr y bydden ni wedi llwyddo pr\u2019un bynnag oherwydd ceisio gwneud bywoliaeth oedden ni.\u201d<\/p>\n<p>Er hynny, roedd un o ffermwyr y pentref yn gwrthwynebu\u2019r newid. Parhaodd Henry i redeg ei fferm fel fferm gymysg, yn debyg i gyndeidiau James, a gwrthododd defnyddio plaladdwyr a gwrtaith cemegol. Ar \u00f4l marwolaeth Henry, cynhaliwyd profion maetholion ac iechyd ar bridd ei fferm a ffermydd cyffiniol. Cafodd James a\u2019i dad eu synnu gan y canlyniadau: pridd Henry oedd pridd cyfoethocaf yr ardal o bell ffordd. Arweiniodd hyn at newid ffordd o feddwl cenedlaethau nesaf teulu Rebanks. Wnaethon nhw sylweddoli nad oedd yn bosib iddynt barhau \u00e2\u2019r dulliau ffermio presennol, oherwydd roedd ansawdd y pridd yn dirywio, a bywyd gwyllt megis y Gylfinir yn diflannu o\u2019u tir.<\/p>\n<p>\u201cWrth inni ddysgu mwy am chweched difodiant m\u00e1s, ac am newid yn yr hinsawdd, mae\u2019n dod yn fwyfwy amlwg bod yr hyn y mae pobl fel fy nheulu i\u2019n ei wneud ar y tir yn bwysig. Ni fydd fy nheulu i wrth ei hun yn dinistrio\u2019r byd neu\u2019n arwain at lai o fioamrywiaeth, ond ar y cyd \u00e2 miloedd neu filiynau o ffermwyr eraill ar draws y byd, gall arwain at yr effaith arwyddocaol hon.\u201d<\/p>\n<p>Ers i James ysgwyddo cyfrifoldeb am y fferm, mae wedi gweithio\u2019n galed i wella iechyd yr ecosystem. Diolch i gyngor gan Lucy Butler, sy\u2019n gweithio ym maes cadwraeth, mae James wedi newid y dyfrffyrdd a\u2019r pyllau ar ei dir i wella llif y d\u0175r a lleihau\u2019r tebygolrwydd o lifogydd. Mae wedi plannu rhyw 15,000 o goed ar draws y tir, ac wedi ei wahanu\u2019n 45 cae gwahanol, sydd \u00e2 gwrychoedd yn ffiniau iddynt. Trwy gynyddu bioamrywiaeth y planhigion ar ei dir, gobaith James yw gwella iechyd a chynhyrchiant y pridd a\u2019r defaid sy\u2019n ei bori.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1673\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 900px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1673\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/James-and-Sheep-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-1-286x300.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"944\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/James-and-Sheep-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-1-286x300.jpg 286w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/James-and-Sheep-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-1-976x1024.jpg 976w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/James-and-Sheep-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-1-768x806.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/James-and-Sheep-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-1-1464x1536.jpg 1464w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/James-and-Sheep-credit-Stuart-Simpson-Penguin-Books-1.jpg 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Llun gan: Stuart Simpson Penguin Books<\/figcation><\/figure>\n<p>Trwy ennill poblogrwydd fel llenor, mae James wedi magu llwyfan i ledu ei neges am amaethyddiaeth gynaliadwy, a rhoi help llaw i grwpiau cadwraeth. Yn ddiweddar, roedd yn gysylltiedig ag ymgais Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad i brynu fferm draddodiadol yn Ardal y Llynnoedd, ei hadfer ynghyd \u00e2\u2019r dirwedd o\u2019i chwmpas i\u2019w gogoniant blaenorol. Er i\u2019r gr\u0175p colli allan yn y broses bidio, mae James yn dal i ddefnyddio ei lwyfan i hyrwyddo newid.<\/p>\n<p>\u201cFfermio, bwyd, yr amgylchedd, diet ac iechyd &#8211; mewn cymaint o ffyrdd, mae\u2019r holl bethau hyn yn golygu union yr un peth &#8211; mae cael ecosystemau iach yn ganolog i bob un ohonynt, i gynhyrchu bwyd iachus, a gynhyrchir mewn ffordd mor naturiol \u00e2 phosib. Os ydym yn awyddus i fwyta bwyd uchel ei ansawdd a byw bywydau iach, mae\u2019n hanfodol inni ailgysylltu \u00e2\u2019r tir trwy ein bwyd a\u2019n dulliau siopa a choginio.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n llawn angerdd am y ffordd y caiff ffermwyr eu beirniadu am golli bioamrywiaeth a\u2019r dirywiad yn iechyd y pridd yng nghefn gwlad Prydain.<\/p>\n<p>\u201cYdyn, mae ffermwyr yn achosi peth o\u2019r difrod, ac mae&#8217;n rhaid iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny &#8211; am y da a\u2019r drwg &#8211; ond mae grym cymdeithasol, economaidd mawr, a grym diwylliannol yn eu gwthio i\u2019r cyfeiriad yna. Ac ie, mae pob un o\u2019r gweddill ohonom yn gyfrifol i raddau am hynny yn ein ffyrdd o siopa a\u2019r ffordd rydym wedi elwa gan fod bwyd yn rhatach.\u201d<\/p>\n<p>Mae James yn dyfynnu ffigurau DEFRA sy\u2019n dangos ein bod yn gwario cyn lleied \u00e2 10% o incwm y cartref ar fwyd, o\u2019i gymharu \u00e2 30-40% 50 mlynedd yn \u00f4l. Gan ein bod yn disgwyl i fwyd fod yn rhad, mae ffermwyr bellach yn dibynnu\u2019n sylweddol ar gymhorthdal gan y llywodraeth i ategu cymaint \u00e2 hanner eu hincwm. Mae o\u2019r farn y dylen ni feddwl am gynhyrchu bwyd mewn ffordd fwy cyfannol, sy\u2019n golygu cael gwell cysylltiadau \u00e2\u2019r bobl sy\u2019n cynhyrchu ein bwyd a\u2019r dirwedd lle mae hynny\u2019n digwydd.<\/p>\n<p>\u201cNid mater yn unig yw o gael bwyd ar y bwrdd &#8211; yn fy marn i trwy gynhyrchu bwyd yn yr ardal leol a chael marchnadoedd bwyd lleol, mae mwy o ymgysylltiad rhwng y defnyddwyr a\u2019r ffermwyr, ac mae pobl yn fwy ymwybodol o\u2019r hyn sy\u2019n digwydd ac yn ei ddeall yn well.\u201d<\/p>\n<p>Ac i\u2019r sawl sydd efallai\u2019n cael eu brawychu gan y syniad o droi at amaethyddiaeth atgynhyrchiol, mae James yn hyrwyddo\u2019r hyblygrwydd rhwng agweddau \u2018du a gwyn\u2019 ar ffermio cynaliadwy yn erbyn ffermio dwys.<\/p>\n<p>\u201cO\u2019m safbwynt i, camgymeriad yw meddwl am hyn fel ffermio fel y diawl, neu wallgofddyn hipi. Gallwn wneud y ddau beth &#8211; a dyna\u2019r gobaith mawr i ffermio ym Mhrydain &#8211; gallwn wneud y ddau beth, ac mae llawer o ffermwyr am wneud hynny.\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n rhaid cyflwyno\u2019r ffeithiau mewn perthynas \u00e2 pham mae pobl fel ni o unrhyw werth i bobl fel chi mewn gwirionedd. A\u2019r ffordd y gallaf ateb hynny yw fel hyn: wrth ffermio ac wrth ysgrifennu trwy ddweud: \u201ccadwch eich ffydd ynom, helpwch ni, a byddwn yn gwireddu\u2019r hyn sydd ei eisiau arnoch.\u201d<\/p>\n<p>Gallwch ddilyn James ar Twitter @herdyshepherd1. Penguin sy\u2019n cyhoeddi ei lyfrau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Llun gan: Andrew Heading. Copi gan Imogen Astley Jones ac As You See It Media.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>James Rebanks yn awyddus i ledu\u2019r gair am amaethyddiaeth gynaliadwy, atgynhyrchiol<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":1660,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-1652","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-small-enterprise-success-stories"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1652","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1652"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1652\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4131,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1652\/revisions\/4131"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1660"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1652"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1652"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1652"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}