{"id":1729,"date":"2021-02-09T17:26:37","date_gmt":"2021-02-09T17:26:37","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/?p=1729"},"modified":"2025-02-21T08:12:46","modified_gmt":"2025-02-21T08:12:46","slug":"organic-beef-farmers-optimistic-leap-of-faith-in-renting-land-to-small-scale-market-gardeners","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/organic-beef-farmers-optimistic-leap-of-faith-in-renting-land-to-small-scale-market-gardeners\/","title":{"rendered":"Ffermwr Eidion organig optimistaidd yn mentro i rentu tir i arddwyr marchnad bach"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Mae angen cydweithio i annog mwy o bobl ifanc i ffermio<\/strong><\/h2>\n<p>Mae John Morris yn ffermwr eidion organig llwyddiannus, sydd hefyd yn cyflenwi Sudd Afal Cymreig i Dywysog Cymru. Felly pam mae\u2019n rhentu 3.5 erw o\u2019i dir gorau ger Crughywel i b\u00e2r ifanc sydd newydd gychwyn ffermio da byw cymysg a gardd farchnad?<\/p>\n<p>\u201cY broblem gyda ffermio yma yng Nghymru ac ar draws y DU yw bod oedran cyfartalog ffermwyr traddodiadol yn 60 oed a mwy,\u201d meddai John, \u201cfelly dylai ffermwyr annog pobl ifanc sydd am gychwyn ffermio \u2013 ac nid o reidrwydd eu meibion a\u2019u merched eu hunain. Mae angen gwaed newydd yn y diwydiant.\u201d<\/p>\n<p>A dyna\u2019n union wnaeth John, wrth wahodd David a Katherine Langton i gychwyn eu fferm ym mis Mawrth 2020. Mewn llai na blwyddyn mae ganddyn nhw foch, ieir dodwy, ieir ar gyfer cig, a rhesi o lysiau yn yr ardd farchnad atgynhyrchiol dim-palu. \u201cMae bwyd lleol wedi bod yn bwysig imi erioed,\u201d meddai John &#8211; mae\u2019r busnes sudd afal, sy\u2019n cael ei redeg gan ei fab bellach, wedi defnyddio afalau a dyfir o fewn ychydig o filltiroedd i\u2019r fferm erioed.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l John, yr hyn sy\u2019n wahanol rhyngddo ef a thirfeddianwyr traddodiadol eraill yw ei fod yn rhentu allan ychydig iawn o dir: \u201cMae\u2019n dipyn o naid ar gyfer tirfeddiannwr traddodiadol, yn enwedig wrth rentu rhan fach o\u2019r fferm yn unig. Peth mwy cyffredin yw rhentu mwy o dir neu hyd yn oed y fferm gyfan ar sail fasnachol fel tir pori er enghraifft.\u201d<\/p>\n<p>Mae John yn derbyn rhent blynyddol am y cae, sy\u2019n rhoi ychydig mwy o amser iddo wrth baratoi i ymddeol, a derbyn incwm o\u2019i dir o hyd. \u201cYn fy marn i mae\u2019n rhaid i ffermio fod yn broffidiol, ac imi fel ffermwr, mae\u2019n rhaid imi ennill incwm ohono\u201d meddai John, \u201cRwyf wedi cyrraedd oedran lle \u2019dwi\u2019n dal i ffermio, ond \u2019dwi\u2019n torri n\u00f4l, ac roedd rhentu\u2019r cae yma\u2019n ffordd i roi cyfle i rywun arall heb golli allan ar yr ochr ariannol.\u201d<\/p>\n<p>Mae John yn annog tirfeddianwyr eraill i beidio cael eu digalonni gan ddulliau ffermio sy\u2019n newid y caeau. \u201cMae strwythur y cae wedi newid, oherwydd bod twnnel plastig a ffens arno bellach, ynghyd \u00e2 moch a phethau eraill; felly os byddech am droi\u2019r cae\u2019n dir pori eto, byddai angen newid pethau. Yn fy marn i efallai y bydd hynny\u2019n anodd i rai ffermwyr, ond nid yw\u2019n broblem fawr o\u2019m safbwynt i.\u201d<\/p>\n<p>Mae teulu Langton yn arfer dull tyfu \u2018dim-palu\u2019 sy\u2019n diogelu strwythur y pridd, ac yn gwella ei ansawdd. Yn \u00f4l John, ni fyddai\u2019n anodd troi\u2019r cae yn dir pori eto pe bydden nhw\u2019n penderfynu symud ymlaen.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 derbyn incwm o\u2019r tir, mae John hefyd yn cydweithio gyda\u2019r teulu ar ei gynllun blychau llysiau &#8211; mae eu cwsmeriaid yn gallu cael potel o\u2019i sudd afal o berllan John gyda\u2019u llysiau. Mae\u2019r Langtons yn derbyn tir sydd \u00e2 thystysgrif organig i dyfu arno, ac unrhyw gymorth o ran peiriannau mawr; nid ydynt yn berchen ar y rhain ac mae John yn hapus i gynnig help &#8211; a derbyn hanner dwsin o wyau ganddynt bob hyn a hyn.<\/p>\n<p>Cyngor John i dirfeddianwyr sydd am fentro i\u2019r maes yma yw gofalu eu bod yn credu yn y prosiect, a\u2019u bod yn dewis y tenant iawn. \u201cMae\u2019n rhaid cael y cleient iawn, a \u2019dwi wedi bod yn ffodus iawn fan hyn &#8211; mae David a Katherine wedi ymrwymo i\u2019w menter, .\u201d meddai John.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r hyn sy\u2019n digwydd yma wedi gwneud cryn argraff arnaf, ac mae\u2019n dempled i ffermydd eraill mewn ardaloedd eraill. Yn enwedig gyda Brexit ac yn anffodus oherwydd Covid, mae ein ffordd o dyfu a dosbarthu cynnyrch fferm wedi troi\u2019n fwy lleol. Rwyf erioed wedi bod o blaid arallgyfeirio ar ffermydd.\u201d<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Lluniau a geiriau gan As You See It Media ac Imogen Astley Jones.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>FFEITHIAU<\/strong><\/p>\n<table style=\"height: 832px\" width=\"542\">\n<tbody>\n<tr>\n<td colspan=\"2\" width=\"451\"><strong>Prydlesu tir ar gyfer ffermio raddfa fach (1-5 hectar)<\/strong><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"127\">\n<p style=\"text-align: left\"><strong>Cyfraddau<\/strong><\/p>\n<\/td>\n<td width=\"323\">\n<ul>\n<li>Cyfradd safonol prydlesu tir yw \u00a3325\/hectar, ond o ran prydlesu darn bach o dir ar gyfer menter ffermio fach, gall fod yn ddrutach, hyd at ddwbl y pris yna.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"127\">\n<p style=\"text-align: center\"><strong>Materion y mae angen delio \u00e2 nhw<\/strong><\/p>\n<\/td>\n<td width=\"323\">\n<ul>\n<li>Colli taliad PAC ar y tir, oherwydd mae prydlesu tir yn cyfateb i newid defnydd.<\/li>\n<li>Colli refeniw o ddefnydd blaenorol o\u2019r cae, megis pori a gwair.<\/li>\n<li>Y gost o ddychwelyd y tir i\u2019w ddefnydd gwreiddiol ar \u00f4l tenantiaeth, er enghraifft, y gost o hadau ar gyfer tir pori.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"127\">\n<p style=\"text-align: center\"><strong>Drafftio cytundeb<\/strong><\/p>\n<\/td>\n<td width=\"323\">\n<ul>\n<li>Dylai\u2019r cytundeb prydlesu fod ar ffurf tenantiaeth amaethyddol tymor byr, gyda chyfnod o ddwy flynedd i gychwyn. Mae hyn yn ddigon hir i weld a yw\u2019r fenter yn gweithio\u2019n effeithiol, ac yn ddigon byr i adfer y sefyllfa\u2019n gyflym os na fydd y fenter yn llwyddo.<\/li>\n<li>Dylai\u2019r brydles gynnwys cytundeb y dylid dymchwel unrhyw strwythurau pan fydd y fenter yn symud ymlaen. Mae hynny\u2019n cynnwys er enghraifft, tynnu unrhyw seiliau concrit a osodwyd er enghraifft ar gyfer bw\u00e2u twneli plastig.<\/li>\n<\/ul>\n<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae angen cydweithio i annog mwy o bobl ifanc i ffermio.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":1774,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[10],"tags":[],"class_list":["post-1729","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-training-opportunities"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1729","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1729"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1729\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4129,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1729\/revisions\/4129"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1774"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1729"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1729"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1729"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}