{"id":1743,"date":"2021-02-09T17:44:12","date_gmt":"2021-02-09T17:44:12","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/?p=1743"},"modified":"2025-02-21T08:12:16","modified_gmt":"2025-02-21T08:12:16","slug":"first-year-challenges-for-new-regenerative-farmers-but-they-dont-regret-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/first-year-challenges-for-new-regenerative-farmers-but-they-dont-regret-it\/","title":{"rendered":"Heriau\u2019r flwyddyn gyntaf ar gyfer ffermwyr atgynhyrchiol newydd \u2013 ond nid ydynt yn difaru"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Cwpl sydd newydd briodi\u2019n edrych yn \u00f4l gyda balchder ar eu menter newydd<\/h2>\n<p>Blwyddyn bron ar \u00f4l cychwyn menter organig atgynhyrchiol gyda da byw a gardd farchnad, nid yw David a Katherine Langton yn difaru eu penderfyniad, ond ydyn nhw\u2019n gwneud arian?<\/p>\n<p>\u201cO safbwynt ariannol, nid ydym yn gyfforddus, eto. Yn ystod y misoedd cyntaf, mae\u2019r llif arian yn dynn iawn a ninnau\u2019n ehangu mor gyflym\u201d meddai David. Mae\u2019r cwpl yn cydnabod, yn debyg i bob busnes newydd arall, mae\u2019r 2 &#8211; 3 blynedd gyntaf yn golygu buddsoddi amser, arian ac ymdrech. Ond mae agwedd Katherine yn gadarnhaol: \u201cYdy, mae wedi bod yn waith caled. Ymddengys nad ydym yn cyflawni rhyw lawer bob dydd, ond wrth edrych yn \u00f4l ar luniau o fis Mawrth y llynedd, dim ond glaswellt oedd yn tyfu yn y cae yma. Felly, rydym wedi cyflawni llawer iawn mewn gwirionedd.\u201d<\/p>\n<p>Erbyn hyn mae Katherine a David yn berchnogion gardd farchnad gymysg, organig tu allan i dref Crughywel ym Mannau Brycheiniog. Dechreuodd y cwpl trwy rentu\u2019r tir ar gyfer eu Fferm gan ffermwr organig lleol ym mis Mawrth 2020, ac ers hynny, maent wedi trawsnewid y llain 3.5-erw.<\/p>\n<p>Bellach mae ganddynt ardd farchnad sy\u2019n cynhyrchu llysiau, cig gan yr ieir, 4 mochyn Tamworth, a 180 o wy bob dydd, ac maen nhw\u2019n dal i ehangu. System \u2018dim palu\u2019 a ddefnyddir ar y tir; maen nhw\u2019n lladd y glaswellt a\u2019r chwyn ar y tir cyn gosod llwyth o gompost ar ei ben, a hau\u2019r hadau mewn gwelyau uchel, ac mewn 2 dwnnel plastig. Maen nhw\u2019n cylchdroi\u2019r hyn a dyfir ar y tir, ac mae\u2019r da byw\u2019n cael eu symud i droi a rhoi gwrtaith naturiol ar y pridd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1747\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-pigs-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-pigs-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-pigs-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-pigs-768x512.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-pigs-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-pigs-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Ar Facebook ym mis Gorffennaf 2020 y cychwynnodd y ddau hysbysebu eu blychau llysiau organig, a dyfir yn lleol, a gwerthwyd 30 blwch yn yr wythnos gyntaf. Ychydig iawn o hysbysebu maent yn ei wneud, ond mae\u2019r cynhyrchiant wedi dyblu, ac maent yn disgwyl iddo ddyblu eto erbyn Haf 2021, ac maen nhw\u2019n dal i ddisgwyl cyflenwi llysiau drwy\u2019r Gaeaf hefyd.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o erddi marchnad eraill yn rhedeg rhwng Mehefin a Rhagfyr, a chael seibiant wedyn dros y Gaeaf,\u201d yn \u00f4l David, \u201cond yn ein barn ni, roedd yn well i bobl allu cael llysiau organig o\u2019r un ffynhonnell drwy gydol y flwyddyn.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwpl yn prynu unrhyw gynnyrch maent yn methu ei dyfu eu hunain gan ffermydd lleol eraill &#8211; gan brynu cynnyrch organig o\u2019r DU yn unig.\u00a0\u00a0 Meddai David: \u201cGwnawn ein gorau glas i gael cynnyrch mor lleol \u00e2 phosib. Mae ein cynnyrch ni gan gynhyrchwyr eraill dal llawer nes na\u2019r hyn sydd ar gael mewn archfarchnad.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r p\u00e2r hefyd yn cydweithio mewn ffyrdd eraill gyda garddwyr marchnad lleol megis Jonny ac Alice, Orchard Acre. Maent yn cynyddu eu grym prynu ac yn cadw\u2019r costau mor isel \u00e2 phosib trwy swmp-archebu offer amaethyddol a nwyddau fferm rhyngddynt. Mae hyn wedi bod yn bwysig iawn o safbwynt hadau yn sgil effaith cyfnodau clo Covid-19 a Brexit.<\/p>\n<p>Methodd teulu Langton y cyfnod plannu ar gyfer rhai planhigion yn ystod Gwanwyn y llynedd, ond maent yn gobeithio cyflenwi eu llysiau eu hunain eleni yn lle rhai a brynir. \u201cHon yw ein blwyddyn gyntaf, felly nid yw\u2019n bosib gwneud popeth. Y pethau rydym yn eu prynu nawr, byddwn yn dechrau eu tyfu ein hunain cyn gynted a gallwn,\u201d meddai David, \u201cWrth nes\u00e1u at y Gwanwyn, bydd 95% o\u2019r llysiau a werthir gennym yn cael eu tyfu ar ein fferm ni.\u201d<\/p>\n<p>Ond sut maen nhw\u2019n ymdopi o safbwynt ariannol? Meddai Katherine: \u201cMae llawer o\u2019r arian sy\u2019n dod mewn yn mynd n\u00f4l mewn i\u2019r fferm, felly rydym yn ehangu\u2019n eithaf cyflym. O ran y llysiau, yr ieir dodwy, yr ieir a gedwir am eu cig a\u2019r moch &#8211; wrth ychwanegu rhywbeth arall, mae\u2019n golygu gwario mwy o arian, ac mae\u2019n cymryd amser i gael yr arian yn \u00f4l.\u201d<\/p>\n<p>Mae hynny\u2019n wir yn benodol wrth fagu da byw, oherwydd mae\u2019r amser dirwyn yn hirach cyn gweld unrhyw elw. Amcangyfrif David yw na fydd y moch yn barod i\u2019w lladd tan Wanwyn 2022. Mae\u2019r ieir a gedwir am eu cig yn dechrau gwella; gwerthwyd y rhai cyntaf adeg y Nadolig, a\u2019r bwriad yw gallu gwerthu bob pythefnos o hyn ymlaen. Mae\u2019r ieir dodwy yn adennill eu costau bellach o\u2019r diwedd, er eu bod yn hwyrach yn dechrau dodwy na\u2019r disgwyl, meddai David \u201cAm gyfnod o ddeufis, roeddem yn disgwyl iddyn nhw ddodwy, ond doedd hynny ddim yn digwydd, ac roedd yn rhaid inni eu bwydo o hyd. Yr wyau oedd y gost anoddaf.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1746\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-eggs-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-eggs-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-eggs-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-eggs-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-eggs-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/LANGTONS-eggs-1-2048x1366.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Felly, pam penderfynu dewis yr her o ffermio cymysg? Mae\u2019r ddau ohonynt yn edrych yn hirdymor: \u201cBydd y cyfuniad o gig ac wyau yn gydradd, os nad yn uwch na\u2019r llysiau,\u201d yn \u00f4l David, \u201cac mae\u2019n golygu y gallwn fod yn hyblyg o safbwynt newidiadau yn y galw\u2019n lleol.\u201d<\/p>\n<p>Eu cyngor i eraill sydd yn cychwyn ffermio yw bod yn ymwybodol o\u2019r heriau a\u2019r costau: \u201cO safbwynt ariannol, mae angen cynhyrchu rhyw 30-50 o flychau llysiau bob wythnos i fyw\u2019n gyfforddus &#8211; mor bell \u00e2 bod eich costau\u2019n isel. Os ydych yn ehangu, dylai pobl fod yn ymwybodol bod llif arian yn broblem fawr yn y dechrau. Rydym yn gwneud llawer iawn &#8211; ein nod yw cael fferm gymysg a gwneud popeth, ond mae ceisio gwneud hynny yn ystod y flwyddyn gyntaf yn beth anodd ei reoli o safbwynt ariannol,\u201d meddai David.<\/p>\n<p>Mae David yn annog darpar arddwyr marchnad na ddylai cost rhentu tir eu digalonni, oherwydd dim ond cyfran fach o\u2019r costau cychwyn ar gyfer busnes ar erw neu ddau yw hynny. \u201cCyfanswm y costau cychwyn yw rhyw \u00a320-30,000,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Er gwaethaf heriau cyfnodau clo Covid-19, a chychwyn y busnes, mae David a Katherine wedi cael llwyddiant mawr yn ystod blwyddyn gyntaf eu busnes ffermio: \u201cA dweud y gwir, mae\u2019r Coronafeirws wedi golygu bod mwy o alw am ein llysiau a\u2019r ffaith yn bod yn eucludo o ddrws i ddrws,\u201d yn \u00f4l David. \u201cRwyf yn falch iawn o\u2019r hyn a gyflawnwyd. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, ond rydym wedi llwyddo i gyflawni llawer iawn,\u201d meddai Katherine, \u201cCredwn ein bod yn gydnerth.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy am fferm Langtons ar eu tudalen Facebook: <a href=\"http:\/\/www.facebook.com\/LangtonsFarmCymru\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.facebook.com\/LangtonsFarmCymru<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Lluniau a geiriau gan As You See It Media ac Imogen Astley Jones.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Blwyddyn bron ar \u00f4l cychwyn menter organig atgynhyrchiol gyda da byw a gardd farchnad, nid yw David a Katherine Langton yn difaru eu penderfyniad.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":1775,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[10],"tags":[],"class_list":["post-1743","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-training-opportunities"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1743","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1743"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1743\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4128,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1743\/revisions\/4128"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1775"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1743"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1743"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1743"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}