{"id":1751,"date":"2021-02-09T18:01:44","date_gmt":"2021-02-09T18:01:44","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/?p=1751"},"modified":"2025-02-21T08:12:02","modified_gmt":"2025-02-21T08:12:02","slug":"couple-want-to-start-a-community-supported-agriculture-project","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/couple-want-to-start-a-community-supported-agriculture-project\/","title":{"rendered":"Cwpl sy\u2019n awyddus i gychwyn prosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Maent am gydweithio gydag yn hytrach na chystadlu yn erbyn tyfwyr eraill<\/strong><\/h2>\n<p>Mae Alice Sidwell a Jonny Watler, o Ardd Farchnad Orchard Acre, am wneud mwy na thyfu bwyd yn unig; maent yn gobeithio meithrin diwylliant o amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned lle gall cwsmeriaid buddsoddi yn nyfodol cynhyrchu bwyd lleol.<\/p>\n<p>Mae Alice a Jonny, gyda chymorth Lyra eu merch, yn tyfu ar erw o dir ar gartref teuluol Alice yn Llanfable, ger y Fenni. Bwriad y cwpl yw tyfu llysiau mewn 60 o welyau parhaol a thwneli plastig, a gwerthu\u2019r cynnyrch trwy gynllun blychau llysiau, gan gychwyn ym Mehefin 2021.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1753\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-making-beds-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-making-beds-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-making-beds-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-making-beds-768x512.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-making-beds-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-making-beds-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Mae\u2019r gymuned sy\u2019n byw yn lleol i\u2019r ardd farchnad arloesol yn cael eu gwahodd i dalu am dymor cyfan o flychau llysiau ymlaen llaw (neu drwy randaliadau os maent yn methu fforddio\u2019r taliad cyfan), fydd yn cynnig elfen o sefydlogrwydd ariannol i\u2019r cwpl a chyflenwad rheolaidd o fwyd a dyfir yn lleol i\u2019r cwsmeriaid. Mae Alice a Jonny\u2019n bwriadu cynnig amrediad eang o lysiau yn lle llysiau a brynir yn yr archfarchnad mewn ffordd fforddiadwy, ac maent hefyd yn cynllunio sybsideiddio rhai o\u2019r blychau llysiau i bobl ar incwm is.<\/p>\n<p>\u201cWrth edrych o\u2019n cwmpas, nid yw\u2019r mynediad at fwyd ffres yn yr ardal hon yn dda iawn, ac mae cymaint o heriau mawr yn ein hwynebu fel diwylliant. Mae bwyd syml ond da, a chael cysylltiad gyda hynny\u2019n gorfod bod yn rhan o\u2019r broses o iach\u00e2d, a\u2019r newid sydd ei angen ar hyn o bryd,\u201d meddai Alice.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfnodau clo diweddar oherwydd Covid-19 wedi rhoi mwy o amser i\u2019r cwpl trin y tir, ac wedi tynnu sylw at fanteision ffermydd tebyg i\u2019w fferm nhw. \u201cMae\u2019r holl deimlad o gymuned oedd yn byrlymu adeg y cyfnod clo wedi rhoi\u2019r hyder inni fod pobl yn awyddus i gefnogi mentrau lleol. Sioc oedd weld pa mor fregus mae\u2019n cyflenwad bwyd oherwydd y prinderau yn yr archfarchnadoedd; ac mae hynny\u2019n rhywbeth hollol newydd i lawer o bobl yn y DU, ac mae\u2019n rhoi\u2019r holl beth mewn perspectif i bobl,\u201d meddai Jonny.<\/p>\n<p>Mae ffermio yng ngwaed Alice: roedd ei thad-cu\u2019n cadw buches laeth organig, ac yn rhan o gychwyn symudiad organig yn y DU. Roedd ei hewythr yn un o Arolygwyr Cymdeithas y Pridd, ac yn rhedeg fferm organig yng Ngorllewin Cymru. Mae\u2019r tir lle mae hi\u2019n byw ers ei phlentyndod yn eiddo i\u2019w rhieni, ac roedd yn arfer bod yn dyddyn gyda da byw a gardd lysiau.<\/p>\n<p>Er hynny, nid oedd ffermio\u2019n llawn amser yn opsiwn nes iddi gwrdd \u00e2 Jonny a symud n\u00f4l i\u2019w chartref teuluol: \u201cNi ddewisais ddechrau tyfu o\u2019r blaen oherwydd nid yw rhannau o\u2019r gwaith yn addas imi, ond trwy gydweithio fel t\u00eem, \u2019dwi\u2019n credu y byddwn yn llwyddo. Mae gennym sgiliau a diddordebau gwahanol i\u2019w cyfrannu.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwpl wedi cydweithio gyda fferm Langtons yng Nghrughywel, fferm fach organig arall, er mwyn rhannu gwybodaeth a chael eu hysbrydoli gan lwyddiant eu ffrindiau: \u201cMae mor braf gweld eu bod nhw wedi llwyddo, a bod galw am y cynnyrch yn yr ardal hon,\u201d dywed Jonny.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddau gwpl wedi dilyn cyrsiau gan yr arbenigwr ym maes ffermio organig, Conor Crickmore, Neversink Farm yn yr UDA. Eu gobaith yw rhannu\u2019r grym prynu a marchnata ac y bydd yn fuddiol i\u2019r ddau gwpl, heb orfod poeni am gystadleuaeth. Yn \u00f4l Jonny: \u201cDoes dim teimlad ein bod yn cystadlu yn erbyn ein gilydd o gwbl, a \u2019dwi\u2019n credu eu bod nhw o\u2019r un farn. Mae digon o bobl a digon o gapasiti, ac mae llawer o ffermydd bach sy\u2019n gwasanaethu eu cymunedau lleol, a gall pawb dysgu gan ein gilydd. Mater o feithrin capasiti yw i gael mwy o dyfwyr bach yn lle bod pawb yn ceisio cystadlu a rhagori ar ei gilydd.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1754\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-ariel-300x169.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"506\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-ariel-300x169.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-ariel-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-ariel-768x432.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-ariel-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Orchard-Acre-ariel-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Bwriad Alice a Jonny yw gwasanaethu\u2019r pedwar pentref lleol a chwsmeriaid yn y Fenni, ond aros o fewn cylch o ddeg milltir i Orchard Acre. A\u2019u barn yw y gall yr ardal leihau wrth iddyn nhw ddenu mwy o gwsmeriaid lleol dros amser.<\/p>\n<p>\u201cGan ein bod yn cyflenwi\u2019r gymuned leol, \u2019dan ni ddim yn cystadlu yn erbyn pobl rhyw 10 neu 20 milltir i ffwrdd. Gyda lwc, bydd pawb yn gallu ennill eu lle, ar gyfer cynnyrch unigryw, a chydweithio,\u201d meddai Jonny.<\/p>\n<p>Ond beth os bydd fferm fach organig arall yn agor lawr y ffordd? \u201cY gobaith yw y gallwn gael hyd i ffyrdd o gydweithio,\u201d meddai Jonny, \u201cdyna sydd wedi digwydd o\u2019r cydweithio rhyngon ni a fferm Langtons. Mae\u2019n teimlo fel cydweithio cadarnhaol yn lle cystadleuaeth negyddol ar hyn o bryd.\u201d<\/p>\n<p>\u201cYmddengys bod tyfwyr bach yn gyt\u00fbn iawn; mae llawer o sefydliadau gwych yn y DU megis y Landworkers\u2019 Alliance, Organic Growers\u2019 Alliance, ac mae grwpiau tyfu rhanbarthol ar hyd a lled y DU wedi bod yn meithrin teimlad fod pobl yn fodlon rhannu arbenigedd a gwybodaeth am ddim.\u201d<\/p>\n<p>Ym maes ffermio biodeinameg, organig y mae cefndir Jonny, ar \u00f4l hyfforddi yng Ngholeg Ruskin Mill Trust, Swydd Gaerloyw. Mae\u2019r cwpl yn gobeithio rhannu llwyddiant fferm Langtons a ffermio\u2019n llawn amser, gyda Jonny\u2019n garddio ac Alice yn ymafer therapi tylino yn ystod misoedd y gaeaf i ychwanegu at eu hincwm. Mae gan y ddau ohonynt brofiad o weithio gyda phobl ifanc yn yr awyr agored, a\u2019u gobaith yw defnyddio\u2019r sgiliau hyn yn eu cynlluniau ar gyfer prosiectau cymunedol megis gwasanaeth estyn allan addysgol, hyfforddi ffermwyr a phrosiectau cyfiawnder bwyd gyda banciau bwyd a grwpiau cymunedol lleol.<\/p>\n<p>\u201cEin nod yw cynnig gofod i bobl allu cysylltu \u00e2\u2019u ffynonellau bwyd,\u201d meddai Jonny, \u201crydym yn cynnig rhywbeth mwy na\u2019r cynnyrch yn unig, rydym yn meithrin naws cymunedol. Mae pobl am wybod o ble y daw eu bwyd fwyfwy&#8217;r dyddiau hyn, a gallwn brofi hynny. Nid yw\u2019n bosib dweud yr un peth am y llysiau organig yn yr archfarchnad &#8211; a gyda lwc, bydd hynny o fantais inni.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy am Fferm Orchard Acre ar eu tudalennau ar Facebook ac Instagram:<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/orchard.acre\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.facebook.com\/orchard.acre<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.instagram.com\/orchard.acre\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.instagram.com\/orchard.acre<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Lluniau a geiriau gan As You See It Media ac Imogen Astley Jones.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cwpl yn gobeithio meithrin diwylliant o amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned lle gall cwsmeriaid buddsoddi yn nyfodol cynhyrchu bwyd lleol.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":1776,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[10],"tags":[],"class_list":["post-1751","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-training-opportunities"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1751","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1751"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1751\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4127,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1751\/revisions\/4127"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1776"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1751"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1751"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1751"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}