{"id":267,"date":"2020-10-22T13:58:43","date_gmt":"2020-10-22T12:58:43","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=267"},"modified":"2020-11-26T16:57:51","modified_gmt":"2020-11-26T16:57:51","slug":"the-kitchen-garden","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/the-kitchen-garden\/","title":{"rendered":"Gardd y Gegin yn cynnig lle i dyfu, bwyta a dysgu"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Y tyfwr Rae Gervis, sy\u2019n defnyddio arferion dim palu yn gobeithio creu hwb dysgu ar gyfer cynnyrch lleol.<\/strong><\/h2>\n<p>\u201cBwyd oedd fy mheth i erioed \u201d meddai Rae Gervis, wrth ddangos ei gardd gegin lle defnyddir compost i fwydo planhigion heb balu\u2019r pridd. Ychydig llai nag erw sydd ganddi, ond mae\u2019n ddigon ar gyfer cynhwysion sylfaenol ac yn sail ar gyfer ei gweithgareddau busnes amrywiol. Mae Rae yn dysgu cyrsiau garddwriaeth gynaliadwy yn yr ardd, ac yn rhedeg busnes arlwyo gan ddefnyddio cynhwysion a gesglir yn llythrennol o\u2019i stepen drws. Mae\u2019n gwerthu cynnyrch ffres a jamiau a phiclau o\u2019i siop mewn ysgubor gerllaw. Hefyd mae\u2019n cario cynnyrch tyfwyr a chynhyrchwyr lleol.<\/p>\n<p>\u201cRwyf am greu hwb ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Rwyf yn awyddus i bobl wybod eu bod yn gallu dod yma a chael cynnyrch lleol a dyfir yn \u00f4l safonau organig. Rwyf am i gynhyrchwyr wybod bod lle ar gael iddyn nhw werthu eu nwyddau ochr yn ochr ag eraill sy\u2019n defnyddio\u2019r un gwerthoedd cynhyrchu. Rwyf am i\u2019r lle \u2018ma fod yn lle lle gall pobl deall o ble y daeth popeth maent yn ei drin, beth yw achos ac effaith ei gynhyrchu, a\u2019i \u00f4l-troed,\u201d meddai Rae.<\/p>\n<p>Mae Gardd Gegin Ty-Mawr yn rhan o hen safle ffermio, ac yn gartref i fusnes Ty-Mawr Lime Inc, cwmni ym maes deunyddiau adeiladu cynaliadwy ar lannau Llyn Syfaddan yng Nghanolbarth Cymru. Lleoliad ychydig diarffordd yw, ac mae Rae yn cyfaddef y bu\u2019n rhaid iddi arallgyfeirio er mwyn goroesi, ond mae\u2019n mynnu y gellir addasu maint cysyniad garddwriaeth heb balu a chynhyrchiant cynaliadwy, a gall fod yn hynod lwyddiannus mewn lleoliad mwy prysur.<\/p>\n<figure id=\"attachment_271\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 900px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-271\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/nodig.jpg\" alt=\"Kitchengarden-main\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/nodig.jpg 750w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/nodig-300x200.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Rae Gervis at the Kitchen Garden.\u00a0<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Fel yr awgryma\u2019r enw, mae garddwriaeth dim palu yn golygu nad yw\u2019r tir yn cael ei dorri. Rhoddir haen drwchus o gompost naturiol ar y gwelyau tyfu, ac mae\u2019r hadau neu\u2019r eginblanhigion yn cael eu hau ynddynt. Mae dim palu\u2019n golygu y cedwir unrhyw garbon sydd yn y pridd, sy\u2019n cael ei ategu gan y compost ar ei ben &#8211; sy\u2019n golygu gollwng llai i\u2019r awyrgylch. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw\u2019r micro-organebau amrywiol yn y pridd sydd \u00e2 gofynion ocsigen gwahanol yn cael eu heffeithio, sy\u2019n caniat\u00e1u ailgylchu\u2019r maetholion a charbon yn effeithlon yn y pridd.<\/p>\n<p>Mantais arall gardd dim palu yw nad yw hadau chwyn yn cael eu tarfu &#8211; sy\u2019n golygu llai o chwyn. \u201cWrth balu,\u201d meddai Rae, \u201cfe welwch lwyth o chwyn, oherwydd mae\u2019r hadau\u2019n dod i\u2019r wyneb, ac mae\u2019r goleuni yn achosi iddyn nhw egino\u2019n naturiol. Mae llawer o\u2019r bobl rwyf yn eu dysgu wedi ofni tyfu eu bwyd eu hunain oherwydd eu bod o\u2019r farn y byddai\u2019n ormod o waith caled. Wrth weld y dechneg hon, maen nhw\u2019n deall ei fod mewn gwirionedd yn lleihau\u2019r ymdrech sydd ei angen.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r llysiau\u2019n cael eu heplesu i\u2019w cadw &#8211; proses a ddysgir gan Rae, ynghyd \u00e2 chyrsiau eraill megis chwilota am berlysiau gwyllt i greu gin botanegol. Ac ar ben nosweithiau blasu gwin, nosweithiau o fwyd Eidalaidd, gwersylla ar lannau\u2019r llyn a blychau llysiau i\u2019w casglu, mae hwb bwyd Gardd Gegin Rae mor amrywiol \u00e2\u2019r amgylchedd o\u2019i chwmpas.<\/p>\n<p>I ddysgu mwy am Ardd Gegin Rae a\u2019r cyfleoedd dysgu ewch i:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.lime.org.uk\/products\/the-kitchen-garden\/tours-education-opportunities.html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.lime.org.uk\/products\/the-<u>kitchen<\/u>-garden.<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nod y tyfwr Rae Gervis, sy\u2019n arfer dull dim palu, yw creu canolfan dysgu ar gyfer cynnyrch lleol.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":270,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[10],"tags":[19,21,26,33,35,12,32,34,31,13,23,28],"class_list":["post-267","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-training-opportunities","tag-horticulture","tag-local-food","tag-local-markets","tag-no-dig","tag-on-line-sales","tag-organic","tag-permaculture","tag-powys","tag-sustainable-production","tag-training","tag-vegetable-growing","tag-wales"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/267","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=267"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/267\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/270"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=267"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=267"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=267"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}