{"id":307,"date":"2020-10-23T13:03:37","date_gmt":"2020-10-23T12:03:37","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=307"},"modified":"2020-11-26T16:54:43","modified_gmt":"2020-11-26T16:54:43","slug":"watson-and-pratts","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/watson-and-pratts\/","title":{"rendered":"\u2018Watson&amp;Pratt\u2019 yn achub cwmni dosbarthu bwyd organig sy\u2019n methu"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Arloesi, gwaith caled a hunangred yn rhoi buses o Gymru ar y ffordd i lwyddiant.<\/strong><\/h2>\n<p>Mae wedi cymryd degawd bron o waith caled, arloesi a hunangred i Lucy Watson a Ben Pratt wyrdroi llwyddiant eu busnes bwyd organig.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l prynu\u2019r busnes yn 2011, ar y pryd ei enw oedd \u2018The Organic Fresh Food Company\u2019, busnes gweithredol oedd \u2026 mwy na lai. Roedd y cwmni yng Ngheredigion yn mynd ar i lawr, ac roedd angen buddsoddiad newydd ac egni newydd er mwyn iddo oroesi.<\/p>\n<p>Felly cychwynnwyd y broses hir ac araf o droi\u2019r busnes yn llwyddiant. Ehangwyd yn sylweddol yr amrediad o ffrwythau a llysiau oedd ar gael i siopwyr eu prynu, hyrwyddwyd cynhyrchwyr lleol, ychwanegwyd popty a chyflwynwyd archebu ar-lein. Y llynedd, newidiwyd yr enw i \u2018Watson and Pratt\u2019, gan osod eu henwau eu hunain ar faner y cwmni.<\/p>\n<p>\u201cYn ystod y flwyddyn gyntaf, y syniad oedd mynd am bethau fyddai\u2019n sicr o lwyddo,\u201d meddai Lucy. \u201cNewidiwyd y cwmn\u00efau oedd yn cyflenwi deunyddiau ysgrifennu a thanwydd, aethom ar \u00f4l cwsmeriaid i dalu, a stopio defnyddio deunyddiau pecynnu dianghenraid. Y cam nesaf oedd sicrhau ein bod yn cynnig amrediad mwy cynhwysfawr o nwyddau, nid yn unig ffrwythau a llysiau ond bwydydd hefyd, caws a chigoedd hallt o ffynonellau arbennig, alcohol a bara ffres o\u2019n popty. Y cysyniad yw dweud taw siop a seilir ar gynhwysion ydym. Hefyd rydym yn gwerthu cynnyrch sydd ar gael yn yr archfarchnad, megis hylif glanhau\u2019r llawr a phast dannedd.\u201d<\/p>\n<p>Lluniwyd \u201ccynlluniau gweledigaeth\u201d a mabwysiadwyd agwedd o \u201cRoi blwyddyn iddo\u2019 o ran pob syniad neu gynnyrch newydd. \u201cMae ymrwymo i weledigaeth hirdymor mor bwysig inni,\u201d meddai. \u201cByddwn yn cwestiynu ein hunain o hyd: \u2018a fydd hyn yn mynd \u00e2 ni\u2019n nes at lwyddiant?\u2019 Egwyddor yw hon sy\u2019n gwneud rhwystrau cyffredin cymaint yn haws i\u2019w goresgyn.\u201d<\/p>\n<p>Ymhlith prif egwyddorion eraill y cwpl, sydd newydd ddathlu genedigaeth eu hail blentyn, mae cynaliadwyedd, lles anifeiliaid ac wrth gwrs cynhyrchion organig.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-308\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/watsonpratts-1-300x200.jpg\" alt=\"watsonpratts-1\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/watsonpratts-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/watsonpratts-1.jpg 750w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Meddai Lucy: \u201cMae\u2019r cyswllt uniongyrchol rhwng y cynhyrchydd a tharddiad wedi ein hysgogi ers y cychwyn, a dyna sy\u2019n ein cadw i fynd pan fydd yr ochr weinyddol o redeg y busnes yn ein boddi. Mae ardal Llambed yn enwog am gynhyrchwyr organig ers blynyddoedd maith, ac mae\u2019n bleser gallu arddangos a gwerthu eu cynnyrch.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Ben, erbyn hyn maent yn gwerthu 55% o ffrwythau a llysiau trwy gyfanwerthu a 45% yn uniongyrchol i\u2019r cyhoedd trwy\u2019r siop a dosbarthu nwyddau i gartrefi. Meddai: \u201cRydym yn chwilio am gynnyrch newydd arloesol o hyd. Mae Lucy\u2019n dweud bod prydau parod ar gyfer \u201cswper dioglyd\u201d a chinio cyflym, pastai, a phorc maes ar ben y rhestr o ran y bylchau mae hi am eu llenwi. Mae cynnyrch Cymreig wastad yn gwerthu\u2019n dda, meddai, ac mae \u2019na wahoddiad i ddarpar gyflenwyr gysylltu \u00e2 hi i roi samplau i\u2019r t\u00eem eu treialu. Os maen nhw\u2019n hoffi\u2019r cynnyrch, byddan nhw\u2019n ymrwymo iddo, meddai. \u201cRhown flwyddyn iddo.\u201d<\/p>\n<p>Gwelodd Lucy bwysigrwydd meddwl mewn ffordd hirdymor yn ystod ei gyrfa flaenorol gyda Neal\u2019s Yard Dairy yn Llundain. Yn ystod y cyfnod yma y cwrddodd y ddau (roedd Ben yn gweithio ym Marchnad Borough). Wnaethon nhw symud i orllewin Cymru \u201car fympwy, oherwydd roedd yn edrych yn bert\u201d meddai Lucy, a phrynu\u2019r busnes yn Llambed yn fuan wedyn.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y cwpl, er mwyn i\u2019r llwyddiant barhau mae\u2019n dibynnu ar \u201carloesi o hyd\u201d. Mae Lucy\u2019n cyfaddef: \u201cMae byd manwerthu\u2019n anodd ar hyn o bryd, ac mae\u2019n rhaid inni gael cynnyrch a syniadau newydd o hyd er mwyn aros yn yr unman.\u201d<\/p>\n<p>Heddiw maen nhw\u2019n cyflogi dros 30 aelod o staff ac yn cyflenwi cwsmeriaid ar draws Cymru. \u201cRydym wedi gweithio\u2019n galed i fagu enw da a gobeithio bod y neges yn lledu. Mae\u2019n bwysig parhau i gadw synnwyr gwirion o hunangred.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy ar:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.watsonandpratts.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.watsonandpratts.co.uk<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Arloesi, gwaith caled a hunangred sydd wedi rhoi\u2019r busnes yma o Gymru ar y llwybr llwyddiant.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":357,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[58],"tags":[30,21,35,12,41,28],"class_list":["post-307","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-marketing-inspiration","tag-ceredigion","tag-local-food","tag-on-line-sales","tag-organic","tag-provenance","tag-wales"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/307","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=307"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/307\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/357"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=307"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=307"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=307"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}