{"id":339,"date":"2020-10-03T15:13:00","date_gmt":"2020-10-03T14:13:00","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=339"},"modified":"2022-09-21T09:46:19","modified_gmt":"2022-09-21T08:46:19","slug":"pioneer-farm-model-neversink","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pioneer-farm-model-neversink\/","title":{"rendered":"Neversink Farm: Gwneud ffermio\u2019n haws"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Cyn peiriannwr cyfrifiaduron yn troi ffermio\u2019n syml a phroffidiol.<\/strong><\/h2>\n<p>Pan adawodd Conor Crickmore ei fywyd yn y ddinas i redeg tyddyn ym Mynyddoedd Catskill yn Nhalaith Efrog Newydd, roedd yn gwybod y byddai bywyd yn anodd. Ond pan sylweddolodd ei fod yn ennill \u201cceiniogau\u2019r awr\u201d am weithio diwrnod 12-14 awr, penderfynydd bod yn rhaid newid rhywbeth. Erbyn heddiw mae trosiant Fferm Neversink dros $350,000 y flwyddyn, a hynny ar 1.5 erw o welyau parhaus, ac yn \u00f4l Conor, hwn yw\u2019r tir mwyaf cynhyrchiol fesul troedfedd sgw\u00e2r yn y Sir.<\/p>\n<p>Treuliodd Conor ran fwyaf ei fywyd fel oedolyn yn gweithio fel ymgynghorydd ym maes gwyddoniaeth gyfrifiadurol yn Brooklyn, \u201cyn gweithio mewn ciwbicl, yn yfed cwrw ac yn bwyta wystrys mewn fflat drud.\u201d Ond symudodd i dref Neversink yn Sir Sullivan ar \u00f4l priodi Kate, ei wraig. Llain fach o dir oedd ganddynt, a chyfalaf o $30,000: \u201cNid ffermio oedd y bwriad,\u201d meddai Conor, \u201cdim ond tyfu ein bwyd ein hunain a gwerthu unrhyw beth dros i ben i wneud bywoliaeth.\u201d<\/p>\n<p>Cychwynnwyd trwy gynhyrchu ystod eang o gynnyrch, nid llysiau\u2019n unig ond ieir ar gyfer wyau a chig, gwenyn ar gyfer m\u00eal, a hyd yn oed brithyll. Ond darganfuwyd bod angen gweithio am oriau hir i ennill ychydig iawn. \u201cRoedd yn anodd iawn, iawn,\u201d meddai Conor, \u201cyn y flwyddyn gyntaf, anaml iawn y byddem yn eistedd n\u00f4l a meddwl \u2018mae hyn yn mynd yn dda\u2019, ond roeddwn yn optimistig. Mae cychwyn busnes yn golygu aberth enfawr ar y dechrau; does dim ffordd arall i\u2019w wneud, ond roedden ni\u2019n awyddus i adeiladu rhywbeth fyddai\u2019n haws wedyn.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_345\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-345 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-scaled.jpg\" alt=\"model-neversink-1\" width=\"2560\" height=\"1920\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-300x225.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-768x576.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Tomatoes-in-a-hoop-house-in-Spring-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Tomatoes at Neversink Farm.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Felly, defnyddiodd Conor ei brofiad o weithio fel ymgynghorydd cyfrifiadurol. \u201cPan roeddwn yn Brooklyn roeddwn yn llwyddiannus iawn wrth greu systemau cyfrifiadurol mawr i weithio\u2019n gyflym ac yn syml iawn. Trwy\u2019r profiadau cynnar ar y fferm, wnaethon ni sylweddoli bod yn rhaid inni greu \u2018system\u2019 ar gyfer popeth. Ac ar \u00f4l inni wneud hynny, newidiodd pethau. Buaswn i\u2019n hoffi dweud inni gael \u2018fflach o ysbrydoliaeth\u2019 ond nid dyna ddigwyddodd, dim ond cyfres o f\u00e2n newidiadau oedd yn sylfaen i\u2019r hyn sy\u2019n digwydd nawr.\u201c<\/p>\n<p>Llwyddodd y cwpl i adnabod systemau neu dechnegau oedd yn effeithio ar effeithlonrwydd, a dileu neu ddiwygio\u2019r rhain. \u201cRoedd angen inni symud rhwng A a B gyda chyn lleied o gamau \u00e2 phosib, ond hefyd roedd yn rhaid i weithwyr gyflawni\u2019r rhain.\u201d Yn ystod yr ail flwyddyn, llwyddwyd i ddyblu\u2019r cynhyrchiant.<\/p>\n<p>Un o\u2019r newidiadau mwyaf arwyddocaol oedd newid o ddefnyddio tractor i offer llaw a pheidio defnyddio peiriant i aredig y tir. Meddai Conor: \u201cFfermio \u00e2 llaw yw ein system ni; a defnyddio offer llaw yn lle\u2019r tractor. Mae\u2019r holl blannu, trin y tir a\u2019r cynaeafu yn cael ei wneud \u00e2 llaw. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio offer a thechnegau cyfoes, sy\u2019n golygu ein bod yn effeithlon a chystadleuol. Mae\u2019r dull hwn o ffermio\u2019n haws, yn fwy cynhyrchiol ac yn gallu cynhyrchu llysiau uwch eu safon. Trwy drin haen uchaf y pridd yn unig, rydym yn llwyddo i gynnal strwythur y pridd a lefelau uchel o ddeunydd organig buddiol a micro-organebau sy\u2019n helpu cnydau i dyfu.<\/p>\n<p>Mae Neversink yn defnyddio technegau plannu a thyfu dwys. Mae\u2019r gwelyau allanol parhaus yn cael eu plannu dro ar \u00f4l tro yn ystod y tymor, rhwng dechrau Ebrill tan ddiwedd yr Hydref. Mae\u2019r twneli plastig yn cynhyrchu llysiau trwy gydol y flwyddyn: \u201cGwneir hyn drwy gadw\u2019r pridd yn llawn gwrtaith. O ganlyniad, nid oes rhaid inni fraenaru caeau. Credwn fod y dull hwn o ffermio\u2019n creu llysiau iachus sy\u2019n gwrthsefyll clefydau a phl\u00e2u.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_349\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-349 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-scaled.jpg\" alt=\"model-neversink-2\" width=\"2560\" height=\"1920\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-300x225.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-768x576.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Conor-with-his-tool-creation-the-gridder-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Conor with his tool creation, the &#8216;Gridder&#8217;.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Hefyd, mae Conor yn disgrifio Neversink fel \u201cfferm heb chwyn.\u201d Trwy blannu eginblanhigion yn ddwys, mae llai o le ar gael i chwyn dyfu a chystadlu \u00e2\u2019r cnydau, ond maen nhw hefyd yn defnyddio\u2019r pridd cyfyngedig yn fwy effeithlon. Tyfir tomatos a chiwcymbrs yn y tai gwydr, lle gellir rhyddhau ysglyfaethwyr naturiol, megis nadroedd cynhenid, i gadw pl\u00e2u draw.<\/p>\n<p>Mae\u2019r llwyddiant wedi caniat\u00e1u iddynt werthu mwy o lysiau. Maen nhw wedi bod yn rhan o gynllun amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned (CSA), wedi agor siop ar y fferm, ac maent yn gwerthu\u2019n rheolaidd i farchnadoedd ffermwyr ac i fwytai. \u201cRoedden ni\u2019n arfer mynd i farchnadoedd ffermwyr lleol, ond roedden ni\u2019n tyfu\u2019n ynghynt na nhw. Yn lle ychwanegu mwy a mwy o farchnadoedd ffermwyr, byddem yn gweithio ar gael marchnadoedd ffermwyr mwy a gwell.\u201d Mae cogyddion y sector bwyd archwaeth yn ninas Efrog Newydd yn fodlon talu prisiau uwch am gynnyrch organig, a dyna lle gwerthir mwyafrif o gynnyrch Neversink.<\/p>\n<p>Gan fod Neversink bellach wedi cyrraedd y nod o gynhyrchiant uchel trwy ddefnyddio dulliau amaethu cynaliadwy, organig heb aredig, mae Conor am helpu eraill i wneud yr un peth; o addysgu ffermwyr bach eraill i greu systemau ffermio mwy effeithlon a phroffidiol, i annog pobl nad ydynt yn ffermio i arddio a bod yn hunangynhaliol. Ehangwyd presenoldeb Neversink ar-lein i gynnwys cyfrif Instagram Conor, sydd \u00e2 dros 50,000 o ddilynwyr, a\u2019i sianel YouTube, sy\u2019n cynnwys cannoedd o fideos ar y technegau amaethyddol a ddefnyddir ar Neversink.<\/p>\n<p>Hefyd mae Conor wedi datblygu cyrsiau ar-lein mewn Garddio Llysiau a <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/blog\/resources-neversink-online-course\/\"><u>Ffermio Marchnad <\/u><\/a> ac mae\u2019r olaf wedi denu cannoedd o aelodau. Mae\u2019n cynnwys naw modiwl craidd, yn amrywio o strwythur y pridd i farchnata cynnyrch, gyda m\u00e2n gyrsiau ychwanegol ar feysydd a thechnegau arbenigol, mynediad at ostyngiadau i aelodau ar offer a nwyddau, a sesiynau Holi ac Ateb rheolaidd gyda Conor ei hun, mae\u2019r cwrs yn delio gyda holl agweddau ar amaethyddiaeth raddfa fach ddwys, a defnyddio\u2019r technegau a ddatblygwyd gan Conor yn Neversink. Hefyd mae gostyngiadau ar gael i aelodau ar ystod o offer llaw a ddyluniwyd gan Conor i\u2019ch helpu arfer ei ddulliau ffermio dim aredig, ymarferol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs yn cynnwys 140 o wersi fideo, 25 munud yr un, ynghyd \u00e2 PDF I\u2019w lawrlwytho; mae\u2019r rhain yn cael eu hehangu a\u2019u diweddaru wrth i Conor ddatblygu dulliau newydd a gwell &#8211; arf sy\u2019n rhoi o hyd yw hwn. Yn \u00f4l Eliot Coleman, sy\u2019n enwog ym maes amaeth organig, dwys sydd wedi ysbrydoli llawer o waith cynnar Conor ar y fferm, mewn perthynas \u00e2 llwyddiant y cwrs: \u201cYng Nghynhadledd y Ffermwyr Ifainc eleni, roedd dau gwpl oedd wedi gweithio yma, ac sydd bellach yn cychwyn ffermio eu hunain yn canmol cymaint a ddysgwyd ar eich cwrs chi. Cymeradwyaeth wych.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_350\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-350 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-scaled.jpg\" alt=\"model-neversink-3\" width=\"2560\" height=\"1440\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-300x169.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-768x432.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Neversink-Farm-Vegetable-Field-and-Barn-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Vegetable field at Neversink Farm.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Gellir gweld llwyddiant ei aelodau ar wefan Neversink, lle ceir dolenni at ddwsinau o ffermydd newydd a ysbrydolwyd gan ac sydd wedi datblygu\u2019r gwersi a ddysgwyd gan Conor. Dywed un aelod a ffermwr, \u201cYn ddiau, hwn oedd ein buddsoddiad gorau hyd yn hyn. Tymor cyntaf llawn, yn gweithio gyda rhyw 1.4 erw, nifer o broblemau annisgwyl, a rhagwelir y byddwn yn gwneud elw o ryw $140K eleni.\u201d<\/p>\n<p>Os nad yw cwrs ar-lein yn addas ichi, weithiau bydd Conor yn cynnig gweithdai diwrnod o hyd ar y fferm, ar ffermio marchnad a thyfu llysiau am $375 a $250 y diwrnod, yn eu tro. Mae\u2019r gweithdai hyn yn gyfle i gael profiad o ffermio go iawn a dysgu rhai o ddulliau Conor gan y dyn ei hun. I fwynhau dull o weithio mwy hamddenol, yn ddiweddar mae Neversink wedi lansio\u2019r Cinio Ysgubor: \u201cprofiad coginio ac amaethyddol trochi\u201d sy\u2019n defnyddio cynnyrch o\u2019r fferm a chyflenwyr lleol, ac sy\u2019n integreiddio dosbarthiadau mewn ffermio, eplesu, chwilota a chynhyrchu bwyd i\u2019r profiad o fwynhau pryd o fwyd. Yn ogystal, gellir hurio ysgubor y fferm sydd wedi cael ei ailwampio ac sy\u2019n 100 mlwydd oed, ar gyfer digwyddiadau megis priodasau, a gall Neversink gynnig gwasanaeth arlwyo llawn gyda chynnyrch Neversink.<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am Conor Crickmore a Fferm Neversink, ewch i\u2019w wefan: <a href=\"https:\/\/www.neversinkfarm.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.neversinkfarm.com.<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyn peiriannwr cyfrifiadurol wedi troi ffermio\u2019n fusnes syml a phroffidiol.  Cyfle i ddysgu mwy am ei fodel llwyddiannus.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":347,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[86,42],"class_list":["post-339","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pioneer-model-farms","tag-neversink-model","tag-pioneer-model"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/339","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=339"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/339\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/347"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=339"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=339"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=339"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}