{"id":4015,"date":"2021-10-14T09:00:23","date_gmt":"2021-10-14T08:00:23","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/?p=4015"},"modified":"2025-02-21T06:30:58","modified_gmt":"2025-02-21T06:30:58","slug":"the-gardeners-kitchen-from-the-earth-to-the-plate-in-under-two-miles","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/the-gardeners-kitchen-from-the-earth-to-the-plate-in-under-two-miles\/","title":{"rendered":"The Gardeners Kitchen: llai na dwy filltir rhwng y pridd a\u2019r pl\u00e2t"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Mae Amy a Simon yn ychwanegu gwerth i\u2019w cynnyrch ac maent yn ei werthu yn eu siop fferm eu hunain.<\/h2>\n<p>Roedd y garddwyr marchnad Amy a Simon Mackenzie-Mason yn gwybod ei fod yn bosib ennill bywoliaeth o\u2019u garddio er pleser; ond i wneud yn well, roedd angen iddyn nhw ychwanegu gwerth at yr hyn a dyfwyd ganddynt. Erbyn hyn felly mae\u2019r cwpl yn cyflenwi eu siop a chaffi eu hunain ar y fferm, The Gardeners Kitchen ger Y Fenni, gyda chynnyrch ffres, a phrydau bwyd parod a rhai wedi\u2019u rhewi. Mae\u2019r holl ffrwythau, llysiau a blodau\u2019n cael eu tyfu mewn gardd \u00e2 wal o\u2019i chwmpas dwy filltir i ffwrdd.<\/p>\n<p>Mae Amy a Simon yn tyfu cynnyrch ers 2010. Yn eu geiriau nhw, wnaethon nhw gychwyn, &#8220;i fod yn gynaliadwy&#8221;: gan dyfu i ddiwallu eu hanghenion nhw eu hunain. Wedyn bydden nhw\u2019n gwerthu unrhyw gynnyrch dros ben o flwch gonestrwydd ar ben y ffordd. Un ar ddeg mlynedd yn ddiweddarach, maent wedi dysgu llawer ac wedi magu sgiliau ac bellach maent yn hunangyflogedig. Dywed Simon: &#8220;Nid yr arian yw\u2019r peth pwysig inni; mater o fwynhau\u2019r hyn rydym yn ei wneud yw.&#8221;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-4055\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-22-1-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"599\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-22-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-22-1-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-22-1-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Roedd Amy\u2019n arfer dylunio gwisgoedd, ac roedd Simon yn gweithio ym maes lletygarwch. Mae Amy\u2019n defnyddio ei sgiliau artistig a\u2019i gallu creadigol wrth weithio gyda blodau ac i greu cacennau trawiadol, tra bo Simon yn defnyddio ei brofiad coginio o weithio fel cogydd wrth ddeall rheoliadau bwyd ac i greu ryseitiau newydd gyda\u2019r cynnyrch hollol ffres. &#8220;Mae ein sgiliau yn golygu ein bod yn wahanol i dyfwyr eraill,&#8221; meddai Amy. Maent yn gwerthu amrediad o nwyddau yn siop a chaffi\u2019r fferm.<\/p>\n<p>, megis blychau llysiau, suropau, cordialau, eitemau p\u00f4b, prydau wedi\u2019u rhewi a chynnyrch arall. Mae Amy\u2019n ategu incwm y siop drwy werthu blodau ffres ac arddangosfeydd blodau ar gyfer priodasau a dathliadau eraill yn yr ardal.<\/p>\n<p>Mae siop y fferm ar agor 5 diwrnod yr wythnos 10am &#8211; 5:30pm. Gall olygu fod Simon ac Amy yn yr ardd neu\u2019n pobi neu\u2019n coginio ar gyfer y diwrnod o 5.30-6am. \u201cNid swydd 9 &#8211; 5 yw hon, eich bywyd yw,\u201d yn \u00f4l Amy. Maen nhw\u2019n cael cymorth yn yr ardd am 15 awr yr wythnos, ond fel y dywed Simon: \u201cMae Amy a fi\u2019n gwneud gwaith 4 neu 5 o bobl\u201d.<\/p>\n<p>Tyfir planhigion ar draean o\u2019r ardd, ffrwythau a llysiau ar draean arall, a blodau sy\u2019n llenwi\u2019r traean olaf. Trwy rannu\u2019r ardd yn dri, maent yn gallu amrywio\u2019r hyn a gynigir sy\u2019n golygu fod eu busnes yn fwy cynaliadwy neu\u2019n fwy &#8220;cyfannol&#8221;, fel y dywed Simon.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-4020\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-3-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-3-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-3-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/THE-GARDNERS-KITCHEN-SEPTEMBER-2021-3-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Dim ond yn y siop a\u2019r caffi maent yn gwerthu eu cynnyrch erbyn hyn; adeg agor y rhain, rhoddwyd y gorau i gyflenwi unrhyw un arall. Ac maent yn ofalus ynghylch gwneud mwy oherwydd, yn \u00f4l Simon: &#8220;\u2019Dan ni ddim eisiau treulio 20 awr y dydd yn y gegin, mae\u2019n well gennym fod allan ar y fferm.<\/p>\n<p>Cyngor Amy a Simon ar gyfer tyfwyr eraill yw: &#8220;Byddwch yn daer, peidiwch \u00e2 derbyn \u2018na\u2019 fel ateb. Os oes gennych sgil penodol, gall fod yn deillio o swydd yn y gorffennol neu hobi fel plentyn, dylid ei ddefnyddio yn eich busnes \u2013 gall wneud gwahaniaeth mawr.&#8221;<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am The Gardeners Kitchen, cymerwch gip ar eu <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/The-Gardeners-Kitchen-118502222885973\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">tudalen Faceboo<\/a><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/The-Gardeners-Kitchen-118502222885973\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">k.\u00a0<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Lluniau gan Tim Jones, As You See It Media<\/em><\/p>\n<p><em>Erthygl gan Ollie Storm Williams<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Amy a Simon yn ychwanegu gwerth i\u2019w cynnyrch ac maent yn ei werthu yn eu siop fferm eu hunain.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":4019,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[58],"tags":[],"class_list":["post-4015","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-marketing-inspiration"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4015","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4015"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4015\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4125,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4015\/revisions\/4125"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4019"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4015"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4015"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4015"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}