{"id":4022,"date":"2020-10-09T16:05:24","date_gmt":"2020-10-09T15:05:24","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/?p=4022"},"modified":"2025-02-21T08:15:04","modified_gmt":"2025-02-21T08:15:04","slug":"sisters-on-a-mission-to-transform-the-food-industry","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/sisters-on-a-mission-to-transform-the-food-industry\/","title":{"rendered":"Cynllun Chwiorydd i \u201cdrawsnewid y diwydiant bwyd.\u201d"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Mae math newydd o archfarchnad yn blaenoriaethu cynnyrch lleol, yn talu cyflog teg ac yn cynnig pris da i gyflenwyr.<\/strong><\/h2>\n<p>Cychwynnwyd HISBE (How it Should be &#8211; Sut y Dylai fod) cyntaf y chwiorydd Ruth ac Amy Anslow gyda\u2019r bwriad o \u201cail-ddychmygu\u2019r ffordd y mae archfarchnadoedd yn gwneud busnes\u201d. Maent yn blaenoriaethu cynhyrchwyr bwyd lleol ac yn mynnu \u201cos nad yw\u2019n gallu bod yn lleol, mae\u2019n gorfod bod yn organig.\u201d<\/p>\n<p>Am 15 mlynedd cyn hynny roedd Ruth yn gweithio yn y byd \u201ccorfforaethol mawr\u201d ac yn delio gyda chwmn\u00efau megis Tesco. Dechreuodd \u201cbryderu am effaith y model archfarchnadoedd ar ein bwyd yn yr hirdymor\u201d oherwydd \u201cgwastraff, gorbrosesu, cadwyni bwyd hir, ffermio ffatri a lluchio deunyddiau plastig.\u201d \u201cRoedd angen newid mawr yn y ffordd mae manwerthwyr bwyd yn gweithio,\u201d meddai. Felly gyda\u2019i chyd-gyfarwyddwr Jack Simmonds, sefydlwyd HISBE yn 2013.<\/p>\n<p>\u201cWnaethon ni sylweddoli y gall archfarchnadoedd fod yn rhan o\u2019r ateb i broblemau yn y gadwyn fwyd, roedd angen iddyn nhw esblygu,\u201d yn \u00f4l Ruth. Felly, dyma fynd ati i gael hyd i\u2019r cynnyrch lleol gorau a dewisiadau cynaliadwy, a\u2019u cael nhw i gyd dan yr un to. M aent yn honni eu bod yn lleihau gwastraff bwyd, yn manteisio i\u2019r eithaf ar ailgylchu ac yn lleihau\u2019r deunyddiau pecynnu. Y nod yw cael pobl i ddod atyn nhw, yn lle archfarchnad gonfensiynol trwy \u201cddod \u00e2\u2019r cynnyrch gorau at ei gilydd, sy\u2019n golygu eu bod o fewn cyrraedd pobl gyffredin sy\u2019n siopa am fwyd.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-4024\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/KaAcEoow.jpeg\" alt=\"\" width=\"178\" height=\"178\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/KaAcEoow.jpeg 178w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/KaAcEoow-150x150.jpeg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 178px) 100vw, 178px\" \/><\/p>\n<p>Wyddodd y chwiorydd i godi \u00a3200,000 ar gyfer y siop gyntaf yn Brighton trwy gymysgedd o gynlluniau cyllido torfol, cyfranddaliadau, benthyciadau a grantiau. Fe\u2019i sefydlwyd ar sail menter gymdeithasol, Cwmni Buddiant Cymunedol dielw, i ddangos taw \u201cpobl sy\u2019n dod o flaen elw.\u201d Maen nhw\u2019n talu eu staff cyflog byw go iawn, ac yn rhoi \u201cpris teg i\u2019n cyflenwyr.\u201d<\/p>\n<p>Yn wahanol i archfarchnadoedd confensiynol, mae llawer o nwyddau\u2019r siop yn gynnyrch tymhorol; nid ydynt yn gwerthu tomatos neu fefus yn y gaeaf er enghraifft. Daw 51% o\u2019r holl fwydydd ffres o\u2019r ardal leol yn Sussex, ac maent yn awyddus i roi\u2019r opsiwn i bobl ddewis dod atynt ar gyfer eu holl fwydydd.<\/p>\n<p>Ond wnaethon nhw sylweddoli\u2019n gynnar y byddai gofyn iddyn nhw gynnig rhai pethau nad ydynt yn cael eu tyfu yn y DU. \u201cByddai pobl yn cerdded allan os nad oedd gennym fananas neu afocados,\u201d felly yn achos y rheiny, rydym yn dewis cyflenwyr organig oherwydd gallwn ymddiried yn eu safonau nhw. Felly maent yn gorfod penderfynu beth i\u2019w gynnig fesul cynnyrch unigol, ac yn \u00f4l Ruth \u201croedd yn hunllef wrth inni gychwyn, ond rydym wedi arfer \u00e2 hyn bellach.\u201d<\/p>\n<p>Un o egwyddorion craidd eu busnes, yw rhoi\u2019r arian n\u00f4l yn y gymuned a chefnogi tyfwyr lleol. \u201cMae 68p o bob \u00a31 yn mynd i\u2019n cyflenwyr, ac mae 57p o bob \u00a31 yn aros yn yr economi lleol, yn wahanol i\u2019r archfarchnadoedd mawr,\u201d meddai Ruth. Er hynny, mae\u2019n cyfaddef y bydd cwsmeriaid yn talu mwy am rai eitemau. \u201cMae\u2019r cynnyrch ffres yn cystadlu gyda\u2019r archfarchnadoedd mawr oherwydd nid oes angen unrhyw ddeunyddiau pecynnu drud, ond bydd pobl yn talu mwy, er enghraifft, am f\u00eal lleol neu diwna o ffynonellau cynaliadwy.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-4025\" src=\"https:\/\/our-food.mystagingwebsite.com\/\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/sPfGyDBQ.jpeg\" alt=\"\" width=\"178\" height=\"178\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/sPfGyDBQ.jpeg 178w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/sPfGyDBQ-150x150.jpeg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 178px) 100vw, 178px\" \/><\/p>\n<p>Agorwyd eu hail siop yn Worthing ychydig cyn cychwyn y pandemig ym mis Mai 2020 trwy godi \u00a3450,000 ar blatfform cyllido torfol Banc Triodos. Eu nod yw cychwyn cadwyn o siopau yn Sussex cyn helpu pobl eraill i agor siopau bwyd mewn siroedd eraill. Yn ogystal maent yn cynnig b\u0175t camp ar eu gwefan i helpu pobl ddilyn yn eu holion traed a newid y diwydiant bwyd.<\/p>\n<p>Dywed Ruth, \u201cInni, y ffordd fwyaf cynaliadwy a dyfodol bwyd a ffermio yw trwy fwyta\u2019r hyn sy\u2019n tyfu ar garreg eich drws. Felly, ein nod yw ailwampio\u2019r holl ffordd y mae\u2019r diwydiant bwyd yn gweithio.\u201d<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am HISBE, ewch at eu <a href=\"https:\/\/hisbe.co.uk\/#home\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gwefan<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Lluniau gan Tim Jones, As You See It Median<\/em><\/p>\n<p><em>Erthygl gan Ollie Storm Williams<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae math newydd o archfarchnad yn blaenoriaethu cynnyrch lleol, yn talu cyflog teg ac yn cynnig pris da i gyflenwyr.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":4023,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[58],"tags":[],"class_list":["post-4022","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-marketing-inspiration"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4022","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4022"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4022\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4139,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4022\/revisions\/4139"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4023"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4022"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4022"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4022"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}