{"id":429,"date":"2020-10-02T08:19:24","date_gmt":"2020-10-02T07:19:24","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=429"},"modified":"2020-11-26T17:21:42","modified_gmt":"2020-11-26T17:21:42","slug":"pipers-farm","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pipers-farm\/","title":{"rendered":"Cynaliadwyedd yn bosib trwy bartneriaeth ar \u2018Pipers Farm\u2019"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Marchnata 25 o ffermydd bach trwy un brand.<\/strong><\/h2>\n<p>Trwy archebu blwch o gig gan Pipers Farm o gysur eich cartref eich hun byddwch yn cefnogi ffermydd bach cynaliadwy yn ne orllewin Lloegr. Dyna\u2019r neges sy\u2019n dod gyda phob blwch o gig rewedig gan sylfaenwyr Pipers Farm, Peter a Henri Greig.<\/p>\n<p>Cychwynnyodd Pipers Farm fywyd 30 mlynedd yn \u00f4l o fferm deuluol Peter a Henri yn Nyfnaint. Stori gyfoes Dafydd a Goliath yw\u2019r busnes yma, ac mae wedi cael ei alw\u2019n \u2018arwr\u2019 gan \u2018The Slow Food Movement\u2019. Trwy ddefnyddio grym ffermydd bach i gystadlu ar y cyd dan un brand, mae Pipers Farm yn cystadlu yn erbyn busnesau mawr gydag amrediad eang o gynnyrch blasus iawn, marchnata uchel ei ansawdd, danfon nwyddau\u2019r diwrnod wedyn, a chyfleustra ar gyfer cwsmeriaid a\u2019r sicrwydd eu bod yn prynu\u2019n uniongyrchol gan y cynhyrchwr ac yn cynnal diwylliant bwyd lleol go iawn.<\/p>\n<p>Maint sydd tu \u00f4l i nerth y brand. Mae ffermio ar raddfa fach yn galluogi cynhyrchu deunyddiau sy\u2019n wirioneddol gynaliadwy, ac yn cefnogi cymunedau ffermio. Mae Pipers Farm yn defnyddio cyfanswm o 25 o ffermydd lleol sy\u2019n magu bridiau cynhenid ar laswellt trwy ddefnyddio dulliau traddodiadol. \u201cCredwn mewn pobl a ffermydd teuluol,\u201d meddai Peter wrth siarad o bencadlys Pipers. \u201cAc rydym yn talu pris teg i\u2019r holl gynhyrchwyr, ac yn glynu wrth hynny.\u201d<\/p>\n<p>O\u2019r cychwyn cyntaf, roedd Peter a Henri yn credu ei fod yn hanfodol rheoli\u2019r holl fanylion perthnasol. \u201cCyfrwng ydym ar gyfer ein ffermydd cyn cyflwyno llafur eu gwaith i\u2019r farchnad. Ein gweledigaeth yw rheolaeth, o\u2019r adeg pan mae\u2019r anifail yn fyw, hyd at bob llond ceg o gig. Ein prif swydd yw creu cynnyrch hynod flasus, a\u2019r nod yw sicrhau\u2019r cynnwys maethol gorau posib,\u201d meddai Peter.<\/p>\n<p>Gwnaethpwyd gwaith ymchwil trwyadl iawn gan y cwpl i gychwyn, \u201cDysgwyd am effaith gweithgareddau gwahanol ar y fferm ar y cig sy\u2019n mynd i\u2019ch ceg. O\u2019r cychwyn cyntaf, roedd padell ffrio yn yr ystafell torri, a seiliwyd pob penderfyniad a wnaethpwyd ar y badell ffrio honno\u201d, dywed Peter.<\/p>\n<p>\u201cNid yw\u2019r rhan fwyaf o ffermwyr yn deall deinameg y stryd fawr. Mae\u2019r awyrgylch yn gystadleuol ac yn symud yn gyflym,\u201c yn \u00f4l Peter, \u201cEin gwaith ni yw canolbwyntio ar y pen pwysig, cyflenwi\u2019r nwyddau i\u2019r farchnad er mwyn i ffermwyr wneud yr hyn maen nhw\u2019n ei wneud orau ac nid oes angen iddyn nhw farchnata.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_430\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 900px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-430\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/pipersfarm-1-300x200.jpg\" alt=\"pipersfarm-1\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/pipersfarm-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/pipersfarm-1.jpg 750w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Red Ruby cattle, native to Exmoor.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Mae neges gyson yn amhrisiadwy, \u201cNid ydym wedi gwerthu cig eidion ers 30 mlynedd,\u201d meddai Peter, \u201c\u2018Grass Fed Red Ruby\u2019 a werthwyd gennym.\u201d Mae natur entrepreneuraidd yng ngwaed Peter, sydd yn fab i ffermwr, \u201cYm 1953, prynodd fy nhad uned cynhyrchu cywion brwylio o\u2019r UDA i werthu trwy gadwyn siopau bwyd y teulu\u2019n wreiddiol, ac wedyn yn y 1970au a\u2019r 80au, trwy siopau enwog ar y stryd fawr,\u201d meddai Peter, \u201cDywedais wrth dad, mae\u2019r cywion yn ofnadwy, a chytunodd, trwy ddweud ie, efallai, ond maen nhw\u2019n gyson. Ac ar y stryd fawr, cysondeb yw popeth, ac yn hanfodol i lwybr unrhyw frand.\u201d<\/p>\n<p>I gychwyn, nid oedd llawer o gefnogaeth i Peter a Henri, \u201cRoedd pobl o\u2019r farn ein bod yn wallgof ac yn rhyfedd iawn,\u201d meddai, \u201cFodd bynnag, dros y blynyddoedd diweddar, mae pethau wedi dechrau newid, ac mae cyffro yn y maes. Mae\u2019r sgyrsiau oedd yn digwydd 30 mlynedd yn \u00f4l yn fwy cyffredin ac yn cael eu derbyn a\u2019u deall bellach.\u201d<\/p>\n<p>Yn 2016, aeth Peter ati i ddelio gyda\u2019r dirywiad yn y stryd fawr trwy gau siop fferm St Leonards Caerwysg oedd yn masnachu ers 23 mlynedd. \u201cBellach rydym yn defnyddio system ddigidol, ac mae\u2019r DU cyfan ar agor inni,\u201d meddai Peter; mae ei frwdfrydedd mor amlwg, \u201cRydym ar fin chwyldro ym maes cyflenwi bwyd, sy\u2019n cynnig cyfleustra tu hwnt i siopa o unrhyw fath arall.\u201d<\/p>\n<p>Mae Peter yn annog gwerthu trwy ddulliau digidol, \u201cMae\u2019r cyfleoedd yn enfawr \u201d meddai, \u201cY peth pwysig yw adnabod eich cwsmer. Mae\u2019n hanfodol deall y gofynion. Mae angen ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned, gyda gweledigaeth a chwilio am ffyrdd arloesol a chyffrous i ffermio, gan ddefnyddio eich cryfderau, ond ar yr un pryd, ceisio gweithio mewn partneriaeth gydag eraill. Er enghraifft, os nad yw marchnata\/rhyngweithio \u00e2 chwsmeriaid yn addas ichi, chwiliwch am bartner fyddai\u2019n gallu bod yn rhan o berthynas gydweithredol.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy yma:\u00a0<a href=\"http:\/\/www.pipersfarm.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.pipersfarm.com<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>25 o ffermydd bach yn marchnata dan frand \u2018Pipers Farm\u2019.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":432,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[58],"tags":[16,55,45,21,12,27,31],"class_list":["post-429","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-marketing-inspiration","tag-beef","tag-devon","tag-family-farm","tag-local-food","tag-organic","tag-small-scale-producers","tag-sustainable-production"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/429","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=429"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/429\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/432"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=429"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=429"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=429"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}