{"id":470,"date":"2020-10-02T09:00:20","date_gmt":"2020-10-02T08:00:20","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=470"},"modified":"2020-11-26T17:18:02","modified_gmt":"2020-11-26T17:18:02","slug":"halen-mon-sea-salt","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/halen-mon-sea-salt\/","title":{"rendered":"Adeilad Eco yw allwedd llwyddiant \u2018Halen M\u00f4n\u2019"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Adeilad arloesol yn hwyluso rhewi prisiau am dair blynedd.<\/h2>\n<p>Roedd y penderfyniad i fuddsoddi yn y strwythur am gost o \u00a31m &#8211; a elwir yn gwt halen &#8211; wedi achosi i\u2019r perchnogion Alison a David Lea-Wilson golli nifer o nosweithiau cwsg.<\/p>\n<p>Ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae\u2019r penderfyniad i fentro wedi talu ei ffordd. Nid yn unig y mae\u2019r strwythur 1,000metr sgw\u00e2r wedi caniat\u00e1u iddynt arbed arian mawr ar gostau ynni, mae hefyd wedi ennill Gwobr y Frenhines, sydd yn gamp fawr ei glod, ar gyfer cynaliadwyedd.<\/p>\n<p>\u201cWrth weithio 2 fetr uwchben lefel y m\u00f4r ac o fewn canllath i\u2019r tonnau, mae newid yn yr hinsawdd yn real iawn,\u201d meddai says David, cyd-sylfaenydd Halen M\u00f4n, wrth wylio\u2019r m\u00f4r o\u2019i swyddfa.<\/p>\n<p>Gyda chredoau cyanladwy yn gefn iddo, comisiynodd Halen M\u00f4n dylunio ffatri arloesol, ac erbyn 2015 gorffennwyd yr adeilad sydd \u00e2 ffr\u00e2m fetel. Ers hynny, yn \u00f4l David, \u201cmae\u2019r busnes wedi hedfan.\u201d<\/p>\n<p>David a\u2019i wraig a phartner busnes Alison oedd yn gyfrifol am sefydlu Halen M\u00f4n ym 1997. Mae\u2019r busnes ar Ynys M\u00f4n yng ngogledd Cymru, a\u2019r m\u00f4r o\u2019u cwmpas, a sylweddolodd y cwpl bod yna fwlch yn y farchnad am halen y m\u00f4r. \u201cYr unig halen oedd ar gael bryd hynny,\u201d meddai David \u201coedd halen bwrdd.\u201d<\/p>\n<p>Roedd ymweliad \u00e2 Japan yn drobwynt iddynt. \u201cMae trigolion Japan o ddifrif am eu halen,\u201d dywed David \u201cac o ganlyniad roeddwn yn credu y byddai cwsmeriaid yn talu mwy am gynnyrch crefftwr.\u201d<\/p>\n<p>Prin iawn oedd gwybodaeth am sgiliau cynaeafu halen traddodiadol. \u201cDoedd dim cofnodion i ddangos sut i wneud y pethau hyn,\u201d yn \u00f4l David. \u201cFelly roedd yn rhaid inni ail-greu\u2019r olwyn.\u201d<\/p>\n<p>Heddiw, diweddarwyd y sgiliau hyn gydag amrediad eang o gynnyrch sy\u2019n cael ei werthu o gwmpas y byd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-472\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/halenmon-1-300x200.jpg\" alt=\"halenmon-1\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/halenmon-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/halenmon-1.jpg 750w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Y cwt halen oedd allwedd y llwyddiant, peiriant hynod effeithlon sy\u2019n dibynnu ar baneli solar a thrwch insiwleiddio o chwe modfedd. Mae\u2019r dyluniad yn sicrhau taw ychydig iawn o ynni sy\u2019n cael ei wastraffu, sy\u2019n ateb cost y cynhyrchiant sy\u2019n defnyddio llawer o ynni.<\/p>\n<p>Mae ffan fawr yn dosbarthu gwres cyrff cwsmeriaid a\u2019r gweithwyr o gwmpas yr adeilad. \u201cO ganlyniad,\u201d meddai David \u201cboeler domestig yn unig sydd ei angen ar gyfer yr adeilad cyfan.\u201d Defnyddir gwactod i ddal yr ager sy\u2019n cael ei greu yn ystod y broses cynhyrchu, a\u2019i ailgylchu i gynhesu d\u0175r y m\u00f4r. Rydym yn potelu ac yn gwerthu d\u0175r distylledig sy\u2019n cael ei greu fel isgynnyrch.<\/p>\n<p>Wrth gydnabod eu cyraeddiadau o ran cynaliadwyedd, derbyniodd Halen M\u00f4n Wobr y Frenhines yn 2017.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dulliau gweithio moesegol yn gwneud synnwyr da o safbwynt y busnes. Ers symud i\u2019r safle newydd, mae\u2019r cwmni wedi llwyddo i arbed tua 30% o\u2019u costau llafur, nwy a thrydan. \u201cRoeddem yn disgwyl arbed arian ar ynni,\u201d meddai David \u201cond llwyddwyd i ragori ar y ffigur hwnnw oherwydd roedd angen llai o ynni arnom, ac roeddem yn gallu monitro\u2019n union sut a lle defnyddir ynni yn yr adeilad trwy system rheoli\u2019r adeilad.\u201d Trosglwyddwyd yr arbedion hyn i\u2019r cwsmer, ac ni fu cynnydd yn eu prisiau am dair blynedd. Mae\u2019r gwerthiant wedi cynyddu, ac erbyn hyn mae trosiant y cwmni\u2019n filiynau o bunnoedd.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-473\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/halenmon-2-300x200.jpg\" alt=\"halenmon-2\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/halenmon-2-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/halenmon-2.jpg 750w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Yn ystod y blynyddoedd cynnar, roedd yn rhaid delio gydag amheuaeth pobl oedd yn anghyfarwydd gyda chynnyrch crefftwr. Y dyddiau hyn, mae her newydd wedi cyrraedd yn agosach at adref. Trwy ganolfan ymwelwyr y ffatri, mae gan gystadleuwyr fynediad at ysbrydoliaeth, ac at eu hefelychu weithiau. Er hynny, mae system datblygu cynnyrch effeithiol yn sicrhau bod Halen M\u00f4n un cam ar y blaen. \u201cMae rhai syniadau\u2019n llwyddo, eraill ddim\u201d yn \u00f4l David \u201cond mae gwaith datblygu\u2019n digwydd o hyd.\u201d<\/p>\n<p>Ymddengys taw arloesi ynghyd \u00e2 phrofi trwyadl sydd wrth galon llwyddiant Halen M\u00f4n. \u201cMae angen gweledigaeth,\u201d meddai David \u201cei phrofi tu allan i\u2019r teulu, a chredu ynddi.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy am stori Halen\u00a0M\u00f4n yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.halenmon.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.<u>halen<\/u>mon.com<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dylunio adeilad mewn ffordd arloesol yn hwyluso rhewi prisiau am dair blynedd.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":475,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[66,18,65,64,31,28],"class_list":["post-470","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-small-enterprise-success-stories","tag-artisan-produce","tag-commercial-scale","tag-investment","tag-isle-of-anglesey","tag-sustainable-production","tag-wales"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/470","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=470"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/470\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/475"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=470"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=470"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=470"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}