{"id":482,"date":"2020-10-02T10:29:11","date_gmt":"2020-10-02T09:29:11","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=482"},"modified":"2020-11-26T17:17:28","modified_gmt":"2020-11-26T17:17:28","slug":"pioneer-model-farm-greenwave-ocean-farming","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pioneer-model-farm-greenwave-ocean-farming\/","title":{"rendered":"Greenwave Ocean Farming: busnes buddiol sy\u2019n mynd yn dda"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Model newydd sy\u2019n dangos sut i dyfu gwymon a physgod cregyn heb dorri\u2019r banc na\u2019r amgylchedd.<\/strong><\/h2>\n<p>Sut gall ffermwr bach gyflenwi cnwd llawn maeth heb wrtaith cemegol, heb dd\u0175r, gyda chostau cyfalaf rhesymol, ac ychydig iawn o waith cynnal a chadw, a gwneud bywoliaeth dda\u2019r un pryd? Gan Bren Smith mae\u2019r ateb: tyfu gwymon.<\/p>\n<p>Llwyddodd cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol cwmni Greenwave, sefydliad dielw yn UDA sy\u2019n hyrwyddo ffermio\u2019r cefnfor, i wneud elw anhygoel o $140-$150,000 y flwyddyn o\u2019i fferm ei hun oddi ar arfordir Connecticut am ryw ddegawd cyn penderfynu canolbwyntio ar hyrwyddo dull o ffermio sydd yn ei farn ef yn gwireddu ystod o anghenion amgylcheddol a chymdeithasol pwysig.<\/p>\n<p>Mae model Bren yn creu fferm fertigol mewn rhyw 20 erw o\u2019r cefnfor i dyfu gwymon ar rwydwaith o raffau sy\u2019n cael eu dal rhwng bwiau, a physgod cregyn megis cregyn bylchog, wystrys a chregyn gleision mewn basgedi ar lawr y m\u00f4r neu drwy eu hongian o raffau eraill.<\/p>\n<figure id=\"attachment_485\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 750px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-485 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/greenwave-1.jpg\" alt=\"greenwave-1\" width=\"750\" height=\"1093\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/greenwave-1.jpg 750w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/greenwave-1-206x300.jpg 206w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/greenwave-1-703x1024.jpg 703w\" sizes=\"auto, (max-width: 750px) 100vw, 750px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>An illustration of this model by Stephanie Stroud.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Dim ond rhyw $20,000 sydd ei angen i gychwyn fferm yn \u00f4l Bren, sy\u2019n cynnwys cwch, rhaffau, cewyll, angorau, hadau, a chostau [sydd fel arfer yn isel] prydlesu darn o\u2019r m\u00f4r gan awdurdod lleol. Yn ei dro, mae\u2019n cynhyrchu cnydau sy\u2019n hawdd eu marchnata ac yn gynaliadwy.<\/p>\n<p>Nid yw problemau megis sychder, prinder tir a phrisiau d\u0175r a gwrtaith cynyddol yn effeithio ar y model hwn; y pethau hyn sy\u2019n effeithio fwyaf ar ffermwyr tir confensiynol, a dros y degawdau nesaf, bydd y sefyllfa\u2019n gwaethygu yn \u00f4l Bren.<\/p>\n<p>\u201cBoed yn gost economaidd neu\u2019r amodau amgylcheddol, bydd yn rhaid inni chwilio am systemau fforddiadwy, lleol, sy\u2019n hawdd eu cop\u00efo ac sy\u2019n gallu ehangu\u2019n gyflym i fwydo\u2019r blaned, oherwydd bydd economi\u2019r hinsawdd yn cael effaith enfawr ar ein systemau amaethyddol,\u201d meddai Bren, 45 oed, adawodd yr ysgol uwchradd heb gymwysterau, ac yn gyn pysgotwr masnachol.<\/p>\n<p>Bellach mae 20 o ffermwyr yn dilyn model Greenwave ac wedi cyrraedd camau gwahanol ar y daith yn UDA. Hefyd mae Bren yn ystyried cyfleoedd tramor, gan gynnwys ym Mhrydain, lle mae\u2019r cynlluniau ymhellach ar y blaen nag unrhyw le arall tu allan i America.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffermwyr newydd yn cynnwys pysgotwyr masnachol sydd am arallgyfeirio; ffermwyr sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, ac yn fwyfwy, pobl ifanc sydd am wneud bywoliaeth o dyfu bwyd ond sy\u2019n gyndyn i dalu\u2019r costau uchel sydd ynghlwm wrth ffermio confensiynol.<\/p>\n<p>Mae Greenwave yn helpu ffermwyr newydd i gael trwyddedau; mae\u2019n rhoi hadau am ddim iddynt am ddwy flynedd, a dillad sy\u2019n addas i\u2019r gaeaf o\u2019r Wladfa, ac yn eu cysylltu \u00e2 marchnad lle mae\u2019r galw ar hyn o bryd yn uwch na\u2019r cyflenwad sydd ar gael. Mae hyn oll wedi helpu cynyddu pris y gwymon i ryw $1 y pwys, sy\u2019n golygu bod ffermwyr llwyddiannus yn gwneud bywoliaeth dda.<\/p>\n<p>Cyn cychwyn gweithio\u2019n llawn amser ar efelychu ei fodel busnes, roedd Bren yn gwneud $10,000 y flwyddyn ar gyfartaledd o\u2019r gwymon ar bob un o\u2019r 20 erw oedd ganddo dros gyfnod o ryw 10 mlynedd. Roedd y $200,000 ar ben y $100,000 o incwm oedd yn dod o\u2019r pysgod cregyn. Roedd tua hanner y refeniw yn talu costau\u2019r busnes, gan adael elw o ryw $140,000-$150,000 y flwyddyn.\u00a0\u00a0 \u201cMae\u2019r incwm yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar y cnwd\u201d, meddai Bren.<\/p>\n<p>Er gwaethaf ei lwyddiant ariannol, roedd Bren yn annog darpar ffermwyr i ymgynghori \u00e2 phrifysgolion neu arbenigwyr eraill i ystyried a yw cyflwr y cefnfor lleol yn addas i\u2019w ffermio. Wedyn dylid cynnal rhaglen beilot i brofi hyfywedd yr ardal dan sylw cyn penderfynu gadael eu swyddi a deifio i\u2019r d\u0175r fel petai.<\/p>\n<p>\u201cDwi wedi cael llwyddiant, a\u2019r cwestiwn nesaf yw sut i efelychu hynny,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r system ffermio\u2019n gweithio, y cwestiwn yw, ydy\u2019r system efelychu\u2019n mynd i lwyddo?\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy o wefan Greenwave:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.greenwave.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.greenwave.org<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Model newydd yn dangos sut i dyfu gwymon a physgod cregyn heb dorri\u2019r banc na niweidio\u2019r amgylchedd.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":486,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[69,42],"class_list":["post-482","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pioneer-model-farms","tag-ocean-farming","tag-pioneer-model"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/482","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=482"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/482\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/486"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=482"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=482"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=482"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}