{"id":496,"date":"2020-10-02T14:00:11","date_gmt":"2020-10-02T13:00:11","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=496"},"modified":"2021-02-10T12:13:20","modified_gmt":"2021-02-10T12:13:20","slug":"just-kidding","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/just-kidding\/","title":{"rendered":"\u2018Just Kidding\u2019 yn rhoi cig mynnau geifr ar y fwydlen"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Fferm yn y Cotswolds yn troi isgynnyrch llaeth yn fwyd iachus.<\/strong><\/h2>\n<p>Mae\u2019n is na chyw i\u00e2r o ran colesterol, a mwy o haearn na chig eidion. Mae cyflenwad parod o\u2019r cig ar gael, ac mae\u2019r farchnad ar ei gyfer yn tyfu ac mae\u2019n hynod gynaliadwy. Felly pam nad yw mwy o bobl yn ffermio cig mynnau geifr?<\/p>\n<p>Dyna\u2019n union mae Lizzie Dyer yn ei wneud gyda\u2019i phartner, Jamie Beard, ar ei fferm yn Swydd Gaerloyw. Mae\u2019n cael ei mynnau geifr gwrywaidd gan ffermydd llaeth yn fuan ar \u00f4l eu geni: \u201cIsgynnyrch y diwydiant cynnyrch llaeth geifr ydynt,\u201d eglura Lizzie, \u201cer mwyn i afr gynhyrchu llaeth, mae\u2019n gorfod cael myn i ddechrau. Bydd rhai o\u2019r mynnau gefir yn wrywaidd, a gwerth isel iawn sydd ganddynt o safbwynt y ffermwr, felly maen nhw fel arfer yn cael eu dinistrio adeg eu geni. Rydym yn eu cymryd ac yn eu magu ar gyfer y cig yn lle.\u201d<\/p>\n<p>Y ddadl foesegol hon a ddarbwyllodd Lizzie i ffermio cig mynnau geifr: \u201croeddwn am fagu cig mynnau geifr oherwydd mae\u2019n gynnyrch rhagorol a dylai fod ar gael ar y farchnad. O safbwynt maethol mae\u2019n gwerthu ei hun. Ac o safbwynt moesegol, os ydych yn mwynhau bwyta caws ac yfed llaeth, wedyn mae gennych gyfrifoldeb i ystyried y cig sydd yn isgynnyrch y proses o greu cynnyrch llaeth. Mae\u2019n rhaid ichi benderfynu a ydych yn hapus i\u2019r geifr bach gwrywaidd gael eu lladd adeg eu geni, neu a ydych yn barod i\u2019w cefnogi a pheidio eu gwastraffu. Buaswn wedi gallu eu bridio ar gyfer y cig, ond byddai wedi bod yn warthus gwneud hynny gyda\u2019r mynnau geifr gwrywaidd eisoes ar gael, a heb eu defnyddio. Felly imi &#8211; doedd dim opsiwn; mae\u2019n gyfle unigryw i ffermio mewn ffordd hynod gynaliadwy.\u201d<\/p>\n<p>Ond nid peth hawdd yw ffermio cig mynnau geifr; mae\u2019n rhaid rhoi llaeth amgen drud iddyn nhw am 10- 12 wythnos, mae angen cael ffensys diogel, ac yn wahanol i \u0175yn, nid oes lanolin yn eu cotiau i\u2019w diogelu felly mae angen cysgod arnynt. Ac nid peth hawdd yw mynd \u00e2 nhw i\u2019r farchnad ychwaith: \u201cDoes dim marchnad gydnabyddedig ar eu cyfer eto &#8211; mae\u2019n tyfu wrth i bobl weld y buddion &#8211; ond ni fydd yn bosib mynd \u00e2 nhw i farchnad da byw fel unrhyw anifail arall, dim ond un cyfanwerthwr sy\u2019n eu prynu\u2019n uniongyrchol o\u2019r fferm ar hyn o bryd.\u201d<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-497\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/justkidding-1-300x200.jpg\" alt=\"justkidding-1\" width=\"900\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/justkidding-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/justkidding-1.jpg 750w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Felly, mae\u2019r rhan fwyaf o ffermwyr mynnau geifr yn gwerthu\u2019n uniongyrchol i fwytai a\u2019r cyhoedd &#8211; gyda\u2019r holl gostau cysylltiedig o ran eu lladd, trin y cig, marchnata a chostau cyfrifon, sydd ynghlwm wrth ddelio gyda nifer o gwsmeriaid. Hefyd mae Lizzie yn cynnig hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghorol ac yn gwerthu crwyn y mynnau geifr a dodrefn o Dartland Farm. \u201cDydy bywyd byth yn ddistaw\u201d meddai.<\/p>\n<p>Byddai Lizzie yn annog eraill i fynd i faes ffermio mynnau geifr &#8211; ond dim ond os maen nhw\u2019n wirioneddol credu ynddo: \u201cMae\u2019n rhaid ichi fod yn frwdfrydig am fwyd a\u2019r hyn rydych yn ei wneud, sy\u2019n cyfrannu\u2019n uniongyrchol at eich dull o werthu. Byddai\u2019n dipyn o her i hyrwyddo eich cariad am eich cynnyrch os nad ydych yn credu ynddo.\u201d<\/p>\n<p>Gallwch ddysgu mwy am gwmni Lizzie, Just Kidding, ar ei gwefan:\u00a0<a href=\"http:\/\/www.cotswoldkidmeat.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.cotswoldkidmeat.com<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fferm yn y Cotswolds yn troi isgynnyrch llaeth yn fwyd iachus.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":498,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[72,38,39,31,13],"class_list":["post-496","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-small-enterprise-success-stories","tag-cotswolds","tag-goats","tag-new-markets","tag-sustainable-production","tag-training"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/496","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=496"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/496\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/498"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=496"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=496"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=496"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}