{"id":515,"date":"2020-10-02T12:00:48","date_gmt":"2020-10-02T11:00:48","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=515"},"modified":"2020-11-26T17:13:54","modified_gmt":"2020-11-26T17:13:54","slug":"hafod-cheese","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/hafod-cheese\/","title":{"rendered":"\u2018Holden Farm\u2019 yn creu busnes cynnyrch llaeth cynaliadwy, Caws Hafod, trwy ychwanegu gwerth"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Caws cheddar Hafod, yn allwedd i hyfywedd y fferm laeth hon.<\/strong><\/h2>\n<p>Sut gallwch chi fagu busnes cynaliadwy gyda chynnyrch na roddir digon o bwys arno pan fydd yr ods economaidd yn eich erbyn?<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffermwr organig sy\u2019n cynhyrchu\u2019r caws Hafod arobryn, Patrick Holden yn gwybod sut ac wedi dysgu llawer o wersi gwerthfawr dros y 40 mlynedd diwethaf ar ei fferm laeth organig yng ngorllewin Cymru.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n anodd i ffermwyr sydd heb swydd yn ystod y dydd neu farchnad premiwm,\u201d yn \u00f4l Holden, \u201cmae\u2019r bobl sy\u2019n prynu llaeth organig sy\u2019n mynd i\u2019r archfarchnadoedd yn talu llai na 40c y litr, ond mae\u2019n costio ffermwyr bach fel ni mwy na 50c y litr i\u2019w gynhyrchu.\u201d Trwy ychwanegu gwerth a chynhyrchu caws ar ei fferm, llwyddodd Holden i ddatrys y broblem.<\/p>\n<p>Cychwynnodd y fferm fel menter gymunedol. Dewiswyd gwartheg Ayrshire yn sgil trafodaeth gyda chymydog oedd yn dweud y byddai buchod Ayrshire yn addas o safbwynt pridd caeau\u2019r fferm a\u2019r hinsawdd. Mae cyfansoddiad llaeth gwartheg Ayrshire, gyda gronynnau braster bach a\u2019r cydbwysedd rhwng braster a phrotein, hefyd yn hynod addas i wneud caws.<\/p>\n<p>Cynnyrch llaeth oedd prif ffocws y fferm erioed, ond hyd at y 2000au cynnar, roedd cnwd o foron organig yn golygu incwm mewn arian parod. Fodd bynnag, ar \u00f4l canoli stordai\u2019r archfarchnadoedd, dros nos, cynyddodd y costau cludo yn ddigon i roi\u2019r gorau i\u2019w tyfu. Bu\u2019n rhaid i\u2019r fferm ystyried incwm arall, oherwydd nid oedd yr incwm o werthu llaeth yn ddigon wrth ei hun. Ar draws y DU, roedd ffermydd llaeth bach yn gorfod gadael y diwydiant. Roedd pris llaeth wedi gostwng yn sylweddol, wrth i \u2018laethdai ffatri\u2019 foddi\u2019r farchnad gyda llaeth rhad, a gynhyrchwyd gan dalu fawr o sylw at les yr anifeiliaid na\u2019r amgylchedd.<\/p>\n<p>Diolch i ymweliad amserol yn 2005 gan y Specialist Cheesemakers Association, cafwyd syniad a ategodd manteision dewis gwartheg Ayrshire.<\/p>\n<p>\u201cAr y pryd, nid oedd y rhan fwyaf o gynhyrchwyr caws arbenigol yn ffermio mewn dull organig, a buchod Holstein Friesian oedd ganddynt yn bennaf,\u201d meddai Holden. Roedd yr SCA o\u2019r farn y gall llaeth buchesi bridiau cynhenid a fagwyd mewn ffordd organig gynhyrchu caws penigamp. Roedden nhw\u2019n awyddus i addysgu eu haelodau, ac roedd fferm Holden yn enghraifft dda.<\/p>\n<figure id=\"attachment_366\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 900px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-366\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Hafod-3-300x199.jpg\" alt=\"holdenfarm-1\" width=\"900\" height=\"597\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Hafod-3-300x199.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Hafod-3-1024x679.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Hafod-3-768x509.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Hafod-3.jpg 1199w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Hafod cheese. Photo: Harry Darby, Neals Yard Dairy.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Yn dilyn ymweliad y SCA, daeth Sam, mab Holden yn gyfrifol am brosiect caws y fferm, \u201cWnaethon ni fenthyg \u00a3300,000 i gyllido\u2019r prosiect a chynhyrchwyd caws cyntaf Hafod ar 26ain Awst 2007,\u201d meddai. Ers hynny mae caws Hafod wedi ennill nifer fawr o wobrwyon, ac yn y pen draw mae llwyddiant y caws yn dangos y gall ffermydd llaeth bach organig dal fod yn ddewis hyfyw i ffermwyr trwy ychwanegu gwerth &#8211; sydd yn achos Holden yn golygu gwneud caws.<\/p>\n<p>Roedd y fferm 300 erw ymhlith y ffermydd cyntaf yng Nghymru i dderbyn tystysgrif fel fferm laeth organig. Heddiw, mae yno fuches o ryw 80 o fuchod godro, gyda 50 o anifeiliaid ifainc. \u201cRydym yn ffermio yn y ffordd hon, heb ddefnyddio unrhyw wrtaith nitrogen ers 46 mlynedd bellach ac mae\u2019r system yn gweithio,\u201d meddai Becky, gwraig Holden. \u201cYn raddol, mae mater y pridd organig yn cynyddu, yn cymryd CO2 allan o\u2019r awyrgylch, ac yn cyfoethogi\u2019r uwchbridd.\u201d<\/p>\n<p>Dulliau rheoli ansawdd mewnol sydd yng ngofal y cynhyrchiant. Mae traean o\u2019r gwerthiant yng Nghymru, a gwerthir y gweddill gan gyfanwerthwyr ar draws y byd, mor bell ag Awstralia. Gwerthir 20% o\u2019r llaeth yn lleol i gydweithfa organig, \u201csy\u2019n golygu y gallwn werthu\u2019r llaeth dros ben os nad ydym yn cynhyrchu caws,\u201d meddai Holden.<\/p>\n<p>O safbwynt ariannol mae wedi bod yn anodd, \u201cNid oedd gennym incwm o\u2019r fferm am gyfnod hir,\u201d dywed Holden, oedd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas y Pridd hyd at 2010, swydd a gyfeirir ati fel ei \u2018swydd yn ystod y dydd\u2019. Fodd bynnag, dywed, \u201cbyddai\u2019r fferm wedi gallu gweithio pe bawn i wedi aros fel gweithiwr fferm llawn amser, ond roedd gennyf waith arall i\u2019w wneud.\u201d<\/p>\n<p>Rhwystr arall oedd cael hyd i weithwyr \u201cond mae\u2019n dechrau newid nawr \u2019dwi\u2019n meddwl\u201d meddai Holden, \u201cmae gan fwy o bobl ddiddordeb mewn dod yma a dysgu am ein dulliau.\u201d<\/p>\n<p>I bobl sy\u2019n newydd i fyd ffermio, dywed Holden, \u201cGweithiwch ar y tir, dysgwch sgiliau trwy eu hymarfer. Byddwch yn brentis i ffermwyr a thyfwyr, dysgu ganddyn nhw a rhwydweithio gyda chymaint o gymunedau o bobl ifanc sydd am ddychwelyd i\u2019r tir.\u201d<\/p>\n<p>Gellir dysgu mwy ar y wefan:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.welshcheesecompany.co.uk\/product\/hafod-cheddar\/?gclid=CjwKCAjw8-78BRA0EiwAFUw8LJZoTjNt3u--W4D1Stvc9N2nisRk_R4QxIQ8Wu0MbsQuB5YfxWO6ORoC5aAQAvD_BwE\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.<u>hafod<\/u>cheese.co.uk<\/a>\u00a0ac ar Instagram:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/hafodcheese\/?hl=en\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\"><u>@hafod<\/u>cheese<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Caws Hafod yw allwedd hyfywedd y fferm laeth hon.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":363,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[63,66,30,73,45,12,31,28],"class_list":["post-515","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-small-enterprise-success-stories","tag-adding-value","tag-artisan-produce","tag-ceredigion","tag-cheesemaking","tag-family-farm","tag-organic","tag-sustainable-production","tag-wales"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/515","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=515"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/515\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/363"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=515"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=515"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=515"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}