{"id":608,"date":"2020-10-03T08:52:29","date_gmt":"2020-10-03T07:52:29","guid":{"rendered":"https:\/\/our-food-staging.flywheelsites.com\/?p=608"},"modified":"2022-09-21T09:49:35","modified_gmt":"2022-09-21T08:49:35","slug":"pioneer-farm-model-bec-hellouin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/our-food.org\/cy\/pioneer-farm-model-bec-hellouin\/","title":{"rendered":"La Ferme du Bec Hellouin: Fferm fach, cynhyrchiant mawr, amaethyddiaeth adferiadol"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2><strong>Ydy dulliau ffermio\u2019r cwpl yma\u2019n ateb efallai i\u2019r argyfwng hinsawdd?<\/strong><\/h2>\n<p>Cychwynnodd fel prosiect idealistig; cwpl oedd yn awyddus i ailgysylltu \u00e2 natur. Tr\u00f4dd yn arbrawf blaengar, sydd wedi synnu gwyddonwyr ac wedi drysu doethineb confensiynol y byd ffermio. Trwy hepgor peiriannau a gweithio \u201cgyda\u201d natur, mae Perrine a Charles Herv\u00e9-Gruyer wedi profi fod ffermio ar raddfa fach \u00e2 llaw nid yn unig yn hyfyw o safbwynt economaidd, ond hefyd gellir tyfu mwy o fwyd fesul metr na thrwy ddulliau mecanyddol confensiynol.<\/p>\n<p>Yn 2004, rhoddodd Perrine y gorau i\u2019w swydd ym maes cyfraith ryngwladol, a rhoddodd Charles y gorau i\u2019w yrfa hwylio i geisio gwneud bywoliaeth o ffermio, gan ddefnyddio dulliau adferiadol o safbwynt cynaliadwy ac ecolegol. Nid oedd ganddynt unrhyw arbenigedd na phrofiad blaenorol ym maes tyfu. Dywed Charles: \u201cRoedden ni\u2019n awyddus i ailgysylltu \u00e2 natur, ein hiechyd, ein cyrff, y tymhorau, planhigion ac anifeiliaid, felly prosiect idealistig iawn oedd hwn. Yn anad dim, y gobaith oedd bod yn hunangynhaliol ar gyfer y teulu cyfan, i gynhyrchu pethau iach, bwydo ein plant a rhannu gyda\u2019n cymdogion. Arweiniodd un peth at beth arall, a dyma ni\u2019n penderfynu bod yn ffermwyr.\u201d<\/p>\n<p>Felly, sefydlwyd La Ferme Biologique du Bec Hellouin yn Normandi, Ffrainc. Arferion tyfu gwahanol byd-eang oedd eu hysbrydoliaeth, a chyfunwyd y rhain gyda\u2019r wyddoniaeth ddiweddaraf er mwyn datblygu arferion tyfu bio-ddwys oedd hefyd yn \u2018gadarn o safbwynt ecolegol\u2019.<\/p>\n<figure id=\"attachment_615\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2000px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-615 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0092-11.jpg\" alt=\"model-bechellouin-1\" width=\"2000\" height=\"1339\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0092-11.jpg 2000w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0092-11-300x201.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0092-11-1024x686.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0092-11-768x514.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0092-11-1536x1028.jpg 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 2000px) 100vw, 2000px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Photo: La Ferme du Bec Hellouin.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>Ar y cychwyn cyntaf, amheuaeth oedd agwedd y gymuned leol tuag at y ffermwyr amatur; cawsant eu galw\u2019n \u2018hipis organig\u2019 ac roedd amheuaeth mewn perthynas \u00e2\u2019u dulliau arloesol o hepgor peiriannau. Fodd bynnag, yn fuan iawn roedd gan y cymdogion fwy o ddiddordeb ar \u00f4l dod yn ymwybodol o effaith y fenter lwyddiannus; a chynnydd yn y sylw yn y cyfryngau ac ym maes twristiaeth. Bellach mae La Ferme Biologique yn ganolfan blaengar ym maes arferion permaddiwylliant ecolegol ar raddfa fach ac wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol gan sefydliadau gweinyddol ac arweinwyr yn y maes. Meddai Charles: \u201cMae\u2019r fferm wedi cael effaith economaidd bwysig. Pan ddaethom yma, Abaty Bec Hellouin oedd y trydydd safle drwy\u2019r wlad o safbwynt ymweliadau gan dwristiaid. Ond erbyn hyn, mae\u2019r Swyddfa Twristiaeth yn derbyn mwy o alwadau yngl\u0177n \u00e2\u2019n fferm na\u2019r Abaty.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r egwyddorion sylfaenol permaddiwylliannol sy\u2019n cael eu harfer gan Perrine a Charles yn golygu gweithio \u201cgyda\u201d natur yn hytrach nag yn ei herbyn; hwyluso tyfu cnydau hynod gynhyrchiol, a chadw ar yr un pryd, neu hyd yn oed cynyddu bioamrywiaeth ar y fferm, a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ecolegol a\u2019r hinsawdd. Maent yn cadw fferm \u2018dim palu\u2019, a thyfir y cnydau mewn gwelyau uchel neu dwneli plastig, a defnyddir taenfa a deunydd organig arall o ffynonellau amrywiol, megis y llyn, gwrtaith o\u2019r stabl leol ac o docio planhigion o gwmpas y fferm. Mae\u2019r adnoddau naturiol hyn, sydd llawn cyfoeth, yn golygu nad oes angen defnyddio gwrtaith mwynol a phlaladdwyr; profwyd bod y cemegau hyn yn cael effaith ecolegol niweidiol. Tyfir cnydau gwahanol ochr yn ochr, ac maent yn cael eu cylchdroi dros y flwyddyn, ac maent yn dal i addasu eu harferion er mwyn darganfod pa rywogaethau sy\u2019n tyfu orau gyda\u2019i gilydd ac mewn amgylchedd gwahanol. Newidiwyd tirwedd yr ardal er mwyn hwyluso d\u0175r rhedegog, ac maent yn trin y tir \u00e2 llaw, gan fynnu bod b\u00f4n braich yn fwy effeithiol na pheiriannau.<\/p>\n<p>Dywed Charles: \u201cTrwy weithio \u00e2 llaw, mae m\u00e2n ardaloedd yn gallu bod yn hynod gynhyrchiol; gydag o leiaf deg gwaith y cnwd o\u2019i gymharu \u00e2 dulliau ffermio mecanyddol organig. Golyga hyn ein bod yn cynhyrchu\u2019r un nifer o lysiau mewn ardal deg gwaith yn llai ei faint. Rydym yn defnyddio 90% o\u2019r tir i blannu coed, croesawu anifeiliaid, creu llynnoedd, gwrychoedd, coedwigoedd i\u2019w garddio; ecosystem amaethyddol gymhleth iawn ac amrywiol. Mae lefelau cynhyrchiant natur yn uchel iawn, a thrwy geisio efelychu prosesau bywyd, cawn gyfoeth o ffrwythau a llysiau.\u201d<\/p>\n<figure id=\"attachment_617\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-617 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-scaled.jpg\" alt=\"model-bechellouin-3\" width=\"2560\" height=\"2093\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-300x245.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-1024x837.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-768x628.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-1536x1256.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/DSC_0996-copy-2048x1675.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\"><em>Photo: La Ferme du Bec Hellouin.<\/em><\/figcation><\/figure>\n<p>20 hectar yw maint y fferm gyfan, ac mae\u2019n cynnwys coetiroedd, perllannau a thir pori i\u2019r da byw maes. Mae\u2019r safle\u2019n cynhyrchu dros 380 math o ffrwythau, llysiau, perlysiau a phlanhigion meddyginiaethol. Tyfir y llysiau ar ryw 3,500 metr sgw\u00e2r (tua 0.9 erw). Maent yn cyflenwi cwsmeriaid lleol a bwytai drud a gallwn gynhyrchu hyd at 100 o flychau llysiau\u2019r wythnos.<\/p>\n<p>Yn 2011, penderfynodd Perrine a Charles brofi fod eu dulliau\u2019n gynaliadwy o safbwynt economaidd trwy eu profi ar lefel wyddonol. Gyda chymorth t\u00eem ymchwil dan arweiniad Fran\u00e7ois L\u00e9ger o AgroParisTech, ac mewn partneriaeth gyda Sefydliad Cenedlaethol Ffrainc ym maes Ymchwil Amaethyddol, cynhaliwyd astudiaeth wyddonol i brofi y gall permaddiwylliant raddfa fach fod mor gynhyrchiol \u00e2 neu ragori ar ddulliau traddodiadol o ran hyfywedd economaidd. Cynhaliwyd yr astudiaeth dros gyfnod o bedair blynedd, a defnyddiwyd ardal tyfu o 1000m<sup>2<\/sup> (neu \u00bc erw). Mesurwyd y lleiniau\u2019n fanwl iawn (centimetrau sgw\u00e2r), a chofnodwyd yn drylwyr faint o ddeunydd organig a ychwanegwyd ar y safle a faint o gynnyrch a gynhyrchwyd. Does dim amheuaeth am ganlyniadau\u2019r astudiaeth; mae allbwn gerddi sy\u2019n mesur 1000m<sup>2<\/sup> yn ddigon i gynnal unigolyn, llawn amser, sy\u2019n gweithio 44 awr yr wythnos, gyda gwerthiant net gros o \u20ac54,300 y flwyddyn, trwy werthu llysiau\u2019n unig. <a name=\"_ftnref1\"><\/a><a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-admin\/post.php?post=608&amp;action=edit#_ftn1\">*<\/a><\/p>\n<p>Ac yn \u00f4l y cwpl, mae\u2019r dulliau\u2019n ecolegol gynaliadwy hefyd. Mae\u2019r dulliau bio-ddwys yn cynyddu cyfleoedd dal a storio carbon a\u2019r maetholion sydd ar gael o\u2019i gymharu ag arferion amaethu confensiynol; gan wella\u2019r pridd ar gyfer mwy o dyfiant, a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd yr un pryd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_616\" class=\"wp-caption aligncenter\" style=\"width: 2560px\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-616 size-full\" src=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-scaled.jpg\" alt=\"model-bechellouin-2\" width=\"2560\" height=\"1707\" srcset=\"https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-scaled.jpg 2560w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-300x200.jpg 300w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-768x512.jpg 768w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/our-food.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Verger-mara\u0302icher-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Photo: La Ferme du Bec Hellouin.<\/figcation><\/figure>\n<p>Mae\u2019r cwpl yn credu y gall gweithio ar raddfa fach gael effaith ledled y byd. Yn \u00f4l Charles, \u201cgall pob un o\u2019r ffermydd bach yma fod yn ddalfa garbon, cyfoeth o fioamrywiaeth, lle mae\u2019r pridd yn cael ei adfer, a lle gellir creu cyfoeth o gynnyrch i gymunedau lleol\u201d. Ac mae canlyniadau positif yr astudiaeth ac effaith eu dulliau ar yr amgylchedd lleol wedi denu sylw asiantaethau Ewropeaidd sy\u2019n gyfrifol am gynllunio strategaethau diogelwch bwyd. \u201cOs caiff y dull hwn o weithio, a ysbrydolir gan y byd naturiol, ac sy\u2019n creu cyfoeth o gynnyrch, ei roi ar waith yn gyflym, hwyrach y gellir osgoi trychineb. Y diwrnod y caiff y technegau hyn, a ysbrydolir gan natur, eu defnyddio ar hyd y byd gan filiwn o ffermwyr bach, mae potensial anhygoel yn bosib,\u201d meddai Charles.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwpl yn frwdfrydig am ledu\u2019r gair ac addysgu eraill o ran sut i fyw yn fwy cynaliadwy. Mae eu <a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/resources-bec-hellouin-book\/\">llyfr<\/a>, \u2018Miraculous Abundance: One Quarter Acre, Two French Farmers, and Enough Food to Feed the World\u2019 yn cofnodi eu taith i fyd permaddiwylliant dros y 10 mlynedd diwethaf, ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ac arweiniad i\u2019r sawl sydd am symud tuag at amaethyddiaeth gynaliadwy. Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd llawlyfr ar gyfer ffermwyr \u2018amatur a phroffesiynol\u2019 fel ei gilydd. Mae\u2019n cynnwys tri llyfr clawr caled sy\u2019n llawn gwybodaeth a thechnegau ar greu, o\u2019r cychwyn i\u2019r diwedd, fferm a seilir ar ddiwylliant sy\u2019n ecolegol gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Ffrangeg yn unig.<\/p>\n<p>A neges Charles i\u2019r sawl sy\u2019n cychwyn ar amaethu permaddiwylliannol? \u201cDechreuwch gydag ardal fach, a chanolbwyntio ar gael y gorau allan ohoni\u201d. Dyna\u2019n union wnaethon nhw!<\/p>\n<p>Os hoffech ddysgu mwy am La Ferme Biologique de Bed Hellouin, ewch i\u2019r wefan: <a href=\"https:\/\/www.fermedubec.com\/english\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">www.fermedubec.com<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a name=\"_ftn1\"><\/a><a href=\"https:\/\/our-food.test.properdesign.rs\/pioneer-farm-model-bec-hellouin\/#_ftnref1\">*<\/a>\u00a0<em>Nodyn y golygydd: mae llawer o ffermydd sy\u2019n defnyddio\u2019r dulliau cynhyrchu uchel hyn yn rhedeg ar elw o o leiaf 60%, felly mae hyn yn cyfateb i ffermwr sy\u2019n ennill rhyw \u00a330,000 o \u00bc erw.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>A yw dulliau ffermio\u2019r p\u00e2r yma\u2019n ateb yr argyfwng o ran yr hinsawdd.  Cyfle i ddysgu mwy am ffermio cynaliadwy.<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":613,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":true,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[87,42],"class_list":["post-608","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pioneer-model-farms","tag-bec-hellouin-model","tag-pioneer-model"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/608","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=608"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/608\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/613"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=608"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=608"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/our-food.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=608"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}